Capel Pen-y-bont:
Cynhaliwd Cyfarfodydd arbennig ar y Sulgwyn i gychwyn dathliadau dau gan mlynedd yr Achos yn y Capel. Yn yr oedfa foreol pregethwyd gan y Parchg John Stuart Roberts, Caerdydd. Yma ym Mhen-y-bont y dechreuodd ei weinidogaeth yn 1961, a braf oedd cael ei groesawu'n 么l i'r pulpud.
Yna yn y prynhawn perfformiwyd y Pasiant 'Yn 脭l eu Traed', ffrwyth gwaith caled y gweinidog, y Parchg Geoffrey Eynon. Er gwaetha'r tywydd llwyddwyd i gynnal oedfa tu allan i Ffermdy'r Fwrd lle cychwynnodd yr oedfaon cyntaf yn 1797, ac yna yn 么l yn y Capel cafwyd hanes diddorol y cyfnod. Cafwyd datganiadau yn portreadu gweithgareddau'r adrannau dros y blynyddoedd gan gynnwys eitemau hyfryd gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Llwyddwyd hefyd i glywed unwaith eto y Pwnc yn cael ei lafar ganu gan yr oedolion a pherfformiad clodwiw o un o anthemau poblogaidd y cyfnod.
I ddiweddu'r prynhawn gwahoddwyd pawb i'r Festri i fwynhau te 'hen ffasiwn' a baratowyd gan y gwragedd. 'Roedd hwn yn gychwyn ardderchog i'r dathliadau a rhaid canmol gwaith diflino'r Gweinidog yn y paratoadau.
Pwyllgor G诺yl Casblaidd:
Cafwyd cyfarfod i orffen y trefniadau ar gyfer yr 糯yl eleni, a fydd yn cychwyn ar Nos Lun, Mehefin 25ain gyda ymweliad 芒 Gerddi Agored Treffgarne Hall. Bydd yna wahanol ddigwyddiadau bob nos wedyn lan i nos Sul, Gorffennaf 1af, gyda Gymanfa Ganu yn y Capel, a Meinir Richards, Llanddarog yn arwain.
Ysgol Casblaidd:
Cafodd nifer o blant yr Ysgol lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Yn y gystadleuaeth gwnio a gwau cafodd Elin Phillips, Bl. 2, y 3ydd wobr, a daeth hefyd yn 3ydd am ysgrifennu stori. Yn y gystadleuaeth Pypedau Bl. 3 a 4 daeth Gr诺p Patrick yn 3ydd. Llongyfarchiadau mawr i'r plant.
|