Yn cymryd yr awenau oddi with Cate Lovett (Croes-goch) y mae Donna Morris, Swyddog Datblygu newydd Dawns Dyfed yn y sir. Wedi'i geni a'i magu yn Llambed, Ceredigion, mae Donna'n rhugl ddwyieithog. Yn dilyn tair blynedd yn astudio Dawns yn y Gymuned ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl, ac yna blwyddyn 么l-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru, Caerdydd mae Donna wedi gweithio gyda rhai o brif gwmn茂au perfformiadol Cymru gan gynnwys No Fit State Circus a Chwmni Dawns Earthfall. Mae hi hefyd wedi datblygu portffolio cyfoethog o waith fel hyfforddwraig ddawns a choreograffydd mewn perthynas 芒 phrosiectau celf yng Nghymru a dros Glawdd Offa.
Medd Donna: "Mae cael y cyfle i ymgymryd 芒'r gwaith pwysig hwn yn Sir Benfro yn gyffrous iawn i mi. Ers ro'n i'n ferch ysgol dwi wedi dawnsio 芒 chwmn茂au ieuenctid sirol a rhanbarthol Dawns Dyfed. Mi fydd mynd i'r afael 芒'r cwricwlwm eang o waith a ddatblygwyd gan Cate Lovett mewn lleoedd fel Treletert ac Aberdaugleddau yn dipyn o sialens, ond mae'n her dwi'n edrych ymlaen ati yn fawr iawn.'
Dywed Margaret Ames, Cyfarwyddwr Artistig Dawns Dyfed: "Donna yw'r union berson ar gyfer ymateb i anghenion a photensial ysgolion a chymunedau Sir Benfro ar yr adeg hon. Nid yn unig y mae hi'n ifanc ei chorff a'i hysbryd, mae hi hefyd yn llawn syniadau creadigol wedi'u gwreiddio yn ei dealltwriaeth gynhenid o ystyr y geiriau 'cymuned' a 'chymdeithas'. Heb os, mi fydd yn ased mawr i ddatblygiad dawns yn gyfrwng ystyrlon er budd cynaliadwyaeth ein cymunedau.'
Ychwanegodd cadeirydd y cwmni, Euros Lewis: 'Mae cael rhywun o allu, profiad a brwdfrydedd Donna yn gweithio yn Sir Benfro yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae ei hapwyntiad yn hwb mawr i hyder ein cymunedau.'
|