Dilynodd lwybrau cannoedd o filoedd o bererinion o bedwar ban byd ar daith hanesyddol sydd wedi ei gwneud ers yr Oesoedd Canol. Mae'r daith yn cael ei chydnabod fel un o'r pwysicaf ynghyd 芒 Rhufain a Jeriwsalem.
`Roedd cannoedd yn cerdded wrth ymyl Huw, ac ar yr un diwrnod i Huw gwblhau ei daith 'roedd 300 o bererinion eraill yn gorffen, gan gynnwys pobol o Mecsico, Yr Ariannin a Norwy - i enwi dim ond rhai o'r gwledydd a gynrychiolwyd.
Cafodd Huw ei gyfweld gan Hywel Gwynfryn yn ystod y daith, a disgrifiodd yr olygfa yn fyw ar 成人论坛 Radio Cymru wrth iddo weld dinas Santiago am y tro cyntaf.
"Roedd gweld y ddinas yn brofiad emosiynol i mi, ond tybiaf sut fyddai pobol wedi teimlo yn y Canol Oesoedd ar 么l cerdded dipyn pellach na fi mewn esgidiau a dillad llai cyfforddus."
Derbyniodd dystysgrif ar gwblhau'r daith a'i enw yn Lladin ar dystysgrif y pererin yw Hugonem Roberts!
Pan gyrhaeddodd Santiago de Compostela, ymunodd 芒 thair mil o gynulleidfa yn Offeren y Pererinion yn y Gadeirlan sy'n cael ei chynnal yn ddyddiol am hanner dydd. Galwyd allan `Galles' sef 'Cymru' yn y gwasanaeth fel arwydd o bresenoldeb
Huw yn yr Offeren.
Yn ogystal 芒 throedio llwybr hanesyddol, nod y daith oedd codi arian at glinig meddygol Kaselin, Lesotho sydd yn cael ei gefnogi gan Gapel Bedyddwyr y Tabernacl, Caerdydd, ac i Sefydliad Brydeinig y Galon. Hyd yma, mae Huw wedi codi dros 拢6,000 tuag at y ddau achos, ac mae'r arian yn dal i gyrraedd. Hoffai Huw diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Am fanylion sut allwch chi gyfrannu, cysylltwch 芒 huw@ huwrobertscyfrifydd.co.uk
Mae Huw, s'yn 50 oed, yn fab i'r Parchg a Mrs John Roberts, Abergwaun ac yn enedigol o sir Benfro. Mae e wedi bod yn rhedeg yn gystadleuol ers dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn 4ydd yn Marathon
cyntaf Caerdydd ym 1981, 4ydd ym mhencampwriaethau dan do Prydain, 2il yn ddiweddar yn y Great Welsh Run yng Nghaerdydd. Cwblhaodd farathon Llundain dair gwaith, y tro gorau mewn 2 awr a 29 munud ym 1994.
Mae Huw yn ddiolchgar iawn i bobl Sir Benfro am eu haelioni gan fod tua 拢1,500 o'r 拢6000 a godwyd mor belled wedi dod o Sir Benfro.