Tua'r amser hyn, bron i gan mlynedd yn 么l, gosodwyd keel y llong, yn iard Swan Hunter a Wigham Richardson yn Wallsend wrth ochr yr afon Tyne yng Ngogledd Lloegr. Hyd at 1897, y Cunard Line oedd deiliaid y Ruban Glas, am groesi M么r yr Iwerydd yn yr amser cyflymaf, a dwy o'i llongau - sef y Campania a'r Lucania oedd yn gyfrifol am hyn. Erbyn 1902 fodd bynnag, collwyd hi i'r Almaenwyr gyda'u llong, y Kaiser Wilhelm d锚r Grosse.
Nid oedd y Llywodraeth yn y wlad hon yn hapus am yr hyn a welsant fel colled statws ym myd y m么r, ac yr oedd hwn yn ddylanwad sylweddol ar eu penderfyniad i fenthyca 拢2.6 miliwn i'r Cunard er mwyn eu galluogi i adeiladu dwy long newydd a fyddai 芒'r gallu i gipio n么l y wobr anrhydeddus hon. Yn ychwanegol at hyn, cytunodd y Llywodraeth i'w cynorthwyo i gynnal y ddwy long gyda rhodd o 拢150,000 y flwyddyn.
'Roedd yna ddau amod fodd bynnag,- y cyntaf oedd : (a) byddai rhaid adeiladu'r llongau fel y gellir defnyddio arfau arnynt,
a (b) byddai'r ddwy long yn rhan o eiddo y Llywodraeth petasai sefyllfa o argyfwng yn codi. Rhaid felly bod y Llywodraeth wedi rhagweld y pos: biliad o ryfela mwy na degawd cyn y rhyfel byd cyntaf.
Fe aeth yr adeiladu yn ei flaen a gosodwyd gwaelod y llong ym 1904. Lansiwyd hi ar yr 20fed o Fedi 1906,- 97 o flynyddoedd yn 么l ac enwyd hi y Duchess of Roxburghe. Cymerwyd rhyw flwyddyn arall i'w ffitio. Yna, cynhaliwyd treialon ar y m么r ac fe aeth pob peth hyd yn oed yn well na'r disgwyl. Dechreuodd y fordaith gyntaf ar y 15fed o Dachwedd 1907, a serch y niwl trwchus a stormydd ofnadwy, fe gyrhaeddodd y llong fawr Efrog Newydd chwe dydd yn ddiweddarach ar yr 22ain o Dachwedd.
Ym mis Mai 1908, meddyliwyd bod sgriw (propeller) y llong wedi taro rhywbeth o dan y dwr, ac wrth ei chynnal yn y doc sych, manteisiwyd ar y cyfle i addasu'r ddwy sgriw fewnol (roedd yna bedair ar y llong) au gwneud yn fwy o faint, a rhoi un llafn ychwanegol arnynt. Erbyn hyn, roedd y Mauretania rhyw fymryn yn gyflymach na'i chwaer, y Lusitania, ac nid rhyfedd felly fod y Mauretania wedi cipio'r Ruban Glas yn y ddau gyfeiriad,- gwobr yr oedd i'w dal am yr ugain mlynedd nesaf.
Serch y ffaith mai y Mauretania oedd y llong mwyaf ei maint, uchaf ei chyflymdra, a mwyaf swmpus a moethus eu safonau, galw wnaeth y cyhoedd am fodd o deithio a fyddai'n hyd yn oed yn gyflymach. Nid ymarferol oedd cynllunio llong arall ar hynny o bryd, ond fe welodd y Great Western Railway (GWR) eu cyfle. Mewn trafodaeth gyda chwmni Cunard, awgrymodd y GWR petasai'r llongau yn galw yn Abergwaun, byddai'r teithwyr yn galled glanio yno, a dal trenau i Lundain a'r cyfandir ac yna ennill dydd o amser,- rhywbeth pwysig i ddynion busnes,- wedi'r cyfan 'roeddem wedi mwynhau rhyw bump dydd o foethusrwydd wrth groesi'r m么r mawr.
Ac felly y bu. Y Mauretania oedd y llong fawr gyntaf i alw yn Abergwaun. Dychmygwch petasai'r QE II yn galw yn Abergwaun heddiw ! Tair blynedd i'r dydd, ar 么l agoriad yr harbwr newydd yn Abergwaun (30ain Awst 1909) galwodd y llong fwyaf yn y byd yn y porthladd. 'Roedd yn rhy fawr i ddod i fewn i'r harbwr, ac yna cludwyd teithwyr ar tenders i fewn i'r cei. Fe droeodd miloedd allan i'w gweld, gyda phawb wedi gwisgo yn eu dillad gorau. Bu part茂oedd derbyn, o fenywod ar y cei, pob un ohonynt yn gwisgo'r wisg genedlaethol a'r GWR yn rhedeg trenau i Lundain mewn llai na pum awr. Gobaith pawb oedd y byddai Abergwaun ac Wdig i fod yn un o borthladdoedd pwysicaf Prydain Fawr, ond nid oedd hyn i fod.
Martin Lewis