Wrth i flwyddyn Llywyddiaeth y Parchedig Alwyn Daniels o Undeb Bedyddwyr Cymru ddirwyn i ben ganol 2008, fe fu yntau ac Irfon James ar daith gerdded noddedig a nodedig iawn.
Dros 21 diwrnod mewn cyfnod o chwech wythnos yn ystod Ebrill a Mai 2008, bu'r ddau yn cerdded y 186 o filltiroedd sef cyfanswm pellter Llwybr Arfordir Sir Benfro. Y bwriad oedd i godi arian i gynorthwyo elusennau lleol, cenedlaethol a thramor.
Petai'r daith wedi llwyddo i godi ychydig o filoedd, fe fyddai'r ddau wedi bod yn eithaf hapus. Ond bu'r ymateb yn syfrdanol yn y fro a thu hwnt, gan gael cefnogaeth gan lu o unigolion ac eglwysi. Felly ar nos Wener, Ionawr 9, daeth criw ynghyd i festri Tabor, Dinas, llawer ohonynt yn rai a ymunodd gyda'r ddau ar y daith, er mwyn cyflwyno'r arian i gynrychiolwyr yr elusennau a chael cyfle i fwynhau eto rai o olygfeydd godidog y daith trwy gyfrwng y sgrin fawr!
Roedd y cyfanswm a ddaeth i law yn 拢12,200 ac fe roddwyd y 拢2,200 i gynrychiolwyr o Glwb y Gateway yn Abergwaun.
Mr Jac Williams, Pontiago fu'n diolch ar ran yr Ambiwlans Awyr am y 拢5,000 a roddwyd iddynt hwy ac yna bu'r Parchedig Tom Defis, Caerfyrddin yn s么n am waith Cymorth Cristnogol wrth iddo yntau dderbyn siec ar eu rhan.
Roedd hon hefyd yn 拢5,000 ond oherwydd bod yr arian yn mynd tuag at gynllun Cymorth Dwr yn Ethiopia, roedd y Comisiwn Ewropeaidd yn cefnogi'r fenter ac yn treblu'r hyn a godwyd at yr ap锚l, felly gellid dweud bod y nawdd yma werth 拢20,000.
Nawr, nid bob dydd y gellid dweud bod taith gerdded yn codi'r hyn a oedd yn y pen draw werth dros 拢27,000!
|