Daeth tri chlwb 芒'r llenni i lawr ar dymor Pantomeim Clwb y Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn ddiweddar.
Yn Ysgol Bro Gwaun y cynhaliwyd y gystadleuaeth, gydag aelodau o glybiau Eglwyswrw, Abergwaun a Hermon yn ymgeisio ar gyfer y wobr yng nghystadleuaeth y Panto Cymraeg.
Gyda choed oedd yn siarad, llygod enfawr, esgimos, gwartheg a choed ffa hudolus yn gwefreiddio'r gynulleidfa, cafwyd perfformiadau gwych gan y clybiau mewn cystadleuaeth weddol newydd i'r sir gan mai dyma'r ail dro yn unig i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Gymraeg.
Gyda'r fath safon uchel, roedd yn addas fod y gwobrau yn cael eu rhannu drwy fod Abergwaun yn ail-gipio'r goron a enillwyd ganddynt dair blynedd yn 么l, y perfformiwr gwrywaidd gorau, Steffan Jones, yn dod o Eglwyswrw a Caryl Howells o Hermon fel y berfformwraig orau.
Aeth clwb Abergwaun felly ymlaen i gynrychioli Sir Benfro yng Nghystadleuaeth Genedlaethol y Pantomeim Gymraeg a gynhaliwyd yn Rhuthun ar ddydd Sadwrn, 28 Mawrth.
|