Mae'r hen deledu wedi bod yn swnian ers wythnosau gyda'r hysbysebwyr yn dweud bod yr wyl yn agos谩u a bod hi'n bryd i ni roi trefn ar ein siopa, a gwario'n harian gyda'r siop hon neu'r busnes arall. Ac mae cerdded i fewn i siopau yn ddigon i droi dyn bant o'r syniad o Nadolig gyda'u haddurniadau sy'n ymylu ar fod dros ben llestri a'u jingl o fiwsig fel t么n gron. Wel, wel, medde chi, ody hwn yn cas谩u'r Nadolig. Nadw, ddim o gwbl. I'r gwrthwyneb, mi 'rydw i wrth fy modd. Wedi'r cyfan, mae lle gyda ni i ddathlu a llawenhau. Mae achos gyda ni i roi anrhegion i'n gilydd, oherwydd 'ry ni'n cofio am y rhodd fwyaf gafodd ein byd ni erioed sef Iesu Grist. Dangos ein cariad tuag at ein gilydd a wnawn ni wrth gyflwyno rhoddion. A dyna sydd y tu 么l i'r rhodd gawsom ni gan Dduw. Cariad. Dyna drueni na allem ddangos mwy o hwnnw tuag at ein gilydd a thuag at holl drigolion ein byd. Bydd llawer o siarad gwag gan arweinwyr ein byd yn ystod yr wythnosau nesaf hyn. Byddant yn cysylltu neges dyfodiad Iesu i'r byd gyda geiriau megis heddwch a thangnefedd. Ond ni welwn unrhyw arwyddion o'r pethau hynny yn eu gweithredoedd. Wrth i ni ddathlu dros yr wythnosau nesaf hyn, yng nghanol y cyfan gadewch i ni gofio ystyr ac arwyddoc芒d dyfodiad Iesu i'r byd, ac wrth rhyfeddu eto at gariad Duw, boed i ni ymroi i wneud y pethau mae ef am i ni eu cyflawni. Gweddi'r Nadolig Daethost Arglwydd i'n plith,yn dy fab Iesu Grist, fe welsom dy gariad, y cariad, fu'n cyffwrdd 芒 bywydau dynion fu'n codi trueiniaid ar eu traed fu'n newid y byd. Tyrd eto, Arglwydd, y Nadolig hwn, agor ein llygaid er mwyn i ni weld Iesu yng nghanol y miri a'r hwyl, a boed i'w gariad ef, ein cyffwrdd fel y gallwn brofi'r wefr, ein symbylu i helpu eraill a'n hysbrydoli i newid y byd. Amen
|