Hyd - tua 3 awr o gerdded hamddenol. Man cychwyn - pen uchaf un Stryd y Deon. Cyfarwyddiadau: Ewch i ben uchaf Stryd y Deon, rhwng y tai "newydd" ar y chwith a'r maes parcio ar y dde. Ar y dde fe welwch risiau yn anelu i fyny ochr Mynydd Bangor - dilynwch y llwybr hwn, sy'n rhedeg yn gyfochrog 芒 chefn y maes parcio, yr holl ffordd i ben Mynydd Bangor (dyma'r darn mwyaf serth o'r holl daith, felly peidiwch 芒 digalonni!). Wedi cyrraedd y brig trowch i'r dde ac fe welwch graig sy'n gymharol amlwg yng nghanol y rhedyn a'r tyfiant. Dilynwch y llwybr trwy'r rhedyn at y graig hon am olygfa banoramig sy'n ymestyn o Ben y Gogarth yn y Dwyrain draw y tu hwnt i Ysbyty Gwynedd yn y Gorllewin - chewch chi ddim gwell golygfa o ddinas Bangor yn ei chyfanrwydd. Anelwch wedyn i gyfeiriad Ysbyty Gwynedd ar hyd crib Mynydd Bangor. Ar 么l cyrraedd man gwastad eithaf sylweddol anelwch am y gornel chwith bellaf ac fe ddowch at lwybr llydan coediog rhwng dwy wal - dilynwch hwn am sbel nes y dowch chi at ffordd sy'n arwain o'r cwrs golff ar y dde at dir D诺r Cymru ar y chwith. Croeswch y ffordd a chychwynnwch am i lawr ar hyd llwybr eithaf garw i gyfeiriad Maesgeirchen, hefo'r cwrs golff o boptu ichi. Ar 么l rhyw funud neu ddau cadwch eich llygaid yn agored am gi芒t mochyn ar y dde sy'n arwain at gae (os cyrhaeddwch chi Maesgeirchen rydych wedi ei basio!). Ewch trwy'r gi芒t a dilynwch y llwybr ar draws y cae. Os ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau'n gywir fe ddylech bellach fod ar L么n Bopty. Ar 么l mynd trwy'r gi芒t allan o'r cae trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd at y gyffordd hefo'r ffordd sy'n dod i fyny o Glan Adda heibio i Ysbyty Minffordd, a throwch i'r chwith eto. Lawr yr allt 芒 chi, ymlaen heibio i'r gyffordd ar y chwith hefo'r ffordd sy'n mynd drwy'r rhyd am Landygai, ac yna ymhen rhyw ganllath fe welwch arwydd llwybr cyhoeddus ar y dde (yn syth bin wedi ichi gerdded o dan y gwifrau trydan). Ewch drwy'r gi芒t mochyn ac ymlaen am gornel uchaf bellaf y cae (dros y gorwel!) lle mae'r gi芒t, yna'n syth ar draws y cae nesaf at ddarn digon corsiog o dir a gi芒t mochyn arall. Wedi llwyddo i fynd drwy'r gi芒t a heibio'r gors y peth callaf i'w wneud ydi cerdded dros y boncyn o'ch blaen yn hytrach na mynd heibio iddo, a dilyn y ffens ar y dde at gi芒t mochyn arall eto fyth. Fe ddylai fferm Bryn Glas fod i'r dde ohonoch - anelwch at gornel chwith bellaf y cae a chroeswch y gamfa sydd ym m么n y clawdd, ac yna dilynwch y clawdd yn syth ymlaen at y ffordd darmac. Bellach rydych wedi cyrraedd y ffordd sy'n mynd o Minffordd i gyfeiriad Caerhun; croeswch y ffordd ac ewch ar hyd y ffordd goncrid. Ar 么l rhyw ganllath trowch i'r dde ar hyd ffordd sydd 芒 rhimyn o wair i lawr ei chanol a dilynwch hwn nes y dowch at dy ar y dde. O'ch blaen mae garej y t欧 - mae'r llwybr cyhoeddus yn mynd heibio ochr dde'r garej ac yn ei flaen trwy goedlan ac ar draws cae. Wedi croesi'r cae a mynd drwy'r gi芒t cadwch i'r dde drwy'r coed a heibio i'r boncyn. Fe ddowch at gi芒t arall a llain o dir corsiog iawn y tu hwnt iddo - croeswch hwn ac yna dilynwch y llwybr at dy sy'n edrych draw i gyfeiriad Ysgol Tryfan. Oddi yma fe fyddwch yn cerdded ar hyd l么n y ty ac yna i lawr yr allt am Bryn Llwyd, cyn cyrraedd Ffordd Caernarfon yn y cylchdro sydd gyferbyn ag Allt Coed Mawr. Bryn Tomos
|