Daeth cryn lwyddiant i ran yr Adran yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir a bydd yr Uwch Adran nawr yn cynrychioli Rhanbarth Eryri yng Nghystadlaethau C么r, Parti Deulais a Gr诺p Llefaru i Adrannau.
Ymfalch茂wn hefyd yn llwyddiant nifer o unigolion yr Adran - pob lwc i Casi Wyn, Lara Hughes a Glain Dafydd yn Rhuthun.
Diolch i J锚n ac Einion Dafydd am hyfforddi'r C么r a'r Parti, i Carol Llywelyn am gyfeilio, ac i Elfed Williams am hyfforddi'r Gr诺p Llefaru.
Mae'r diolch mwyaf yn mynd i'r aelodau am eu holl ymroddiad yn ystod y cyfnod yma - 'da chi'n llwyr haeddu pob llwyddiant a dymuniad da yn Rhuthun. Rydym yn falch iawn ohonoch chi.
Cafwyd cyfle i ymlacio yn dilyn holl brysurdeb yr Eisteddfodau wrth i Miss Ann Hughes, Dirprwy newydd Ysgol Y Garnedd, ddod at y criw nos Iau, 23 Mawrth, i gynnal noson ddawnsio gwerin.
Cafwyd noson hwyliog iawn, a phawb wedi mwynhau yn arw a nifer wedi cael eu siomi ar yr ochr orau. Diolch i Ann am noson mor arbennig.
Bydd y criw nawr yn canolbwyntio ar ymarfer ar gyfer Chwaraeon Cenedlaethol Uwch Adrannau'r Urdd sydd yn cael eu cynnal yn Y Bala ar 20 Mai.
Bydd t卯m p锚l-rwyd y marched yn amddiffyn eu coron fel Pencampwyr Cymru, a'r t卯m p锚l-droed yn gobeithio gwneud yn well na'r llynedd!
Rydym yn gobeithio codi nawdd ar gyfer prynu dillad addas ar gyfer y cystadlaethau yma felly byddwn yn ddiolchgar tu hwnt pe bai rhywun yn fodlon noddi'r timau neu yn gwybod am rywun fyddai a diddordeb i noddi.
|