Rai wythnosau ynghynt ym Mhenrhosgarnedd nid oedd digon wedi codi allan i Ysbyty Gwynedd i ffurfio Pwyllgor. Mae Cyngor Pentir wedi trefnu dull arall i ddod 芒 phobl Penrhos at ei gilydd. Roedd Dafydd Wigley, Trysorydd Pwyllgor Ariannol yr Eisteddfod yn Y Faenol, yn y cyfarfod ym Mangor i egluro'r gofynion i'r 20 ddaeth yno. Gan fod Cyngor Dinas Bangor wedi cytuno i godi 拢20,000 o'r trethi mae angen bron i 拢20,000 arall gan bobol Bangor eu hunain. Nid oedd am fynd o'r cyfarfod heb gael enw cyswllt a phenderfynwyd mai'r Cynghorydd Dewi Llewelyn fyddai hwnnw. Cytunodd dwsin oedd yno i gyfarfod eto i ddewis Swyddogion i'r Pwyllgor. Maent wedi cyfarfod ar 9 Chwefror i wneud hynny ac i drafod syniadau sut i godi'r 拢20,000. Cynhaliwyd cyfarfod Y Felinheli ar 5 Chwefror ac mae Pwyllgor wedi ei ddewis. Si芒n Gwenllian yw'r Cadeirydd.
|