O dan enw arall, sef Anne Lindholm y bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Sir y Genethod oedd yno adeg y Rhyfel yn ei chofio. Teithiai yno ar y tr锚n o Benmaenmawr lle roedd hi a'i mam, ifaciw卯s o Lerpwl, wedi ymgartrefu gan fod gan ei mam deulu yno.Celf dan Miss Smart oedd ei chryfder yn yr ysgol ac oddi yno, yn 16 oed aeth i Goleg Celf Lerpwl am gyfnod.
Yn 19 oed trodd yn Babydd ac ymuno 芒 chwfaint am chwe mis fel ymgeisydd. Er rhoi'r gorau iddi a phriodi Colin Haycraft, o Wasg Duckworth, arhosodd yn Babydd ffyddlon a thraddodiadol a cholofn reolaidd ganddi yn The Catholic Herald.
Pan oeddwn yn dysgu yn Ysgol Tryfan (adeilad Ysgol y Genethod gynt) daeth yno'n ddirybudd ym mis Mai 1989 a neb yno bron gan ei bod yn ddiwrnod Mabolgampau ar y caeau wrth y Fenai. Daethai yno i ysgogi'r cof gan ei bod ar ganol paratoi ei chyfrol hunangofiannol A Welsh Childhood. Gadawodd nodyn i mi i gysylltu 芒 hi ac ymhen amser euthum i gael cinio gyda hi yn ei th欧 yn Camden pan ddigwyddwn fod yn Llundain ryw dro.
Wrth nesau at y t欧 meddyliwn tybed sut fyddai'r sgwrs yn mynd, achos er ein bod ill dwy yn train girls - fel y cyfeirid at genod Pen a Llan - ar un tro, roedd y blynyddoedd wedi mynd a hithau erbyn hynny yn llenor o fri. Roedd ei ffrind pennaf, Beryl Bainbridge yn byw gerllaw, ac Alan Bennett y drws nesaf, a'r hen wraig ddigartref honno yr ysgrifennodd o ddrama amdani yn byw yn y garafan ar ddreif ei d欧.
Cyn pen dim roedd y sgwrs yn llifo a s么n am ddyddiau ysgol y buom, nes i Colin Haycraft ymuno 芒 ni dros ginio - pryd o fwyd y bu'n ei baratoi'n hamddenol a deheuig wrth siarad (roedd yn awdur ambell lyfr coginio), a hynny ar st么f nwy anferth, hen ffasiwn.
Canmolai'r addysg a gawsai ym Mangor i'r entrychion - er iddi gael ei diarddel o'r ysgol, am ddim byd gwaeth, mae'n debyg, na'i bod yn benderfynol o dorri ei chwys ei hun, mewn oes pan oedd mwy o fodloni i'r drefn.
Ar 么l cinio mynd i fyny i'r parlwr i weld ei lluniau, a rhyfeddais at ei dawn arlunio. Portreadau o'i theulu oeddynt yn bennaf, rhai mawr mewn acrylig, trawiadol dros ben. Bu iddi saith o blant. Bu farw un ferch yn faban a chollodd fab 19 oed a fu mewn coma am bron i flwyddyn yn dilyn damwain.
Roedd rhyw ddwyster yn ei chymeriad, a doniolwch hefyd. (Cyfrannai golofn ffraeth i'r Spectator dan y pennawd Home Life).
Rhoddai bwys mawr ar ei chefndir Cymreig. Penmaenmawr yw lleoliad The Sin Eater, ei nofel gyntaf, ac arferai ddweud, waeth am ba le bynnag yr ysgrifennai, byddai'r lleoliad yn seiliedig, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a'r ardal ei phlentyndod. I Gymru yr ai pan oedd nofel ar y gweill, i Bennant Melangell, lle roedd ail gartref ganddynt ac i fanno yr aeth i fyw yn gyfan gwbl wedi marw ei g诺r.