Y siaradwr oedd y Parch Harri Parri, a thestun ei sgwrs oedd "Fe'm ganed innau'n fab i fy rhieni".
Fel yr awgryma'r dyfyniad, ymdrin a hanes ei deulu a wnaeth, nid gyda ffeithiau moel a dyddiadau, ond drwy roi portreadau difyr o'i gyndeidiau er mwyn i ni gael dod i'w hadnabod.
Dywedodd i'r teulu fyw ar yr un 'darn o bridd' ym Mhen Llyn ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac wrth iddo s么n am wahanol aelodau o'r teulu, cawsom weld lluniau ohonynt ar y sgrin.
Y bardd cyntaf iddo'i adnabod erioed oedd ei Anti Mary; oedd yn fardd gwlad y cywair lleddf.
Rhwng y Nadolig a'r Calan byddai'n cyfansoddi cerddi coffa i bobl ei bro a fu farw yn ystod y flwyddyn.
Byddai ar ei gorau'n canu am ei theulu, a thynnai ei delweddau o fyd natur a'r Beibl.
Bardd arall oedd ei daid, Gwilym Ynysfor.
Bardd yr awen brudd oedd yntau hefyd. Bu'n gweithio yn y gwaith plwm yn Llanengan, a sefydlodd ef a'i feibion gwmni bysus, sef Cwmni Cae Du, yn
1912.
Cawsom hanes ei Yncl Defi'n nol bws o Huddersfield, gan orfod dysgu ei ddreifio cyn ei yrru adref!
Symudodd llawer o'r gweithwyr plwm i ardal y chwareli, a chanodd ei daid gerdd am fynd i fyw i Garmel. Ei ddiddordebau mawr oedd crefydd a gwleidyddiaeth.
Roedd chwaer taid y siaradwr yn gryn
entrepreneur.
Agorodd Mary a'i g诺r gaffi ym Mhorth Ceiriad ar gyfer Saeson! Rhaid oedd cludo'r holl 'ffreshmants' 卢refreshments - i lawr i lan y m么r ar gefn beic, gyda Mary ar y mudguard.
Roedd tri llun yng nghartref Harri Parri: y Dr Herber Evans, y Frenhines Victoria, a'r Parch. R.E. Williams, Bangor, Pennsylvania, sef Yncl Robat Mericia.
Bu'n gweithio yn y gwaith plwm, cyn mynd i'r mor a symud i Awstralia.
Dechreuodd bregethu yno, a chafodd eirda i ddod adref gydag ef.
Cafodd ei dderbyn i Goleg Clynnog, yna aeth i'r America a phriodi yno.
Byddai paratoadau astrus yn cael eu gwneud ar gyfer gwasanaethau yn America, tra byddai oedfaon crefyddol Pen Llyn yn dod o'r frest.
Teulu mam y siaradwr oedd y rhai a grybwyllwyd eisoes, a chan ei hochr hi o'r teulu y cafodd ei werthoedd.
Teulu'r stori ffraeth a'r chwedl oedd ochr ei dad, a chan ei dad ddawn i'w hadrodd.
Roedd ei hen-hen daid yn ddyn mawr o gorffolaeth a cheid llawer o chwedlau am ei faint.
Gallai nofio milltir gan gludo dyn mawr ar ei ysgwyddau. Nofiai i Ynysoedd Gwylan i weld ei ddefaid.
Dyn y stori ffraeth oedd ei ewythr Will hefyd.
Bu yn Iwerddon yn ystod y rhyfel. Gyda'i chwiorydd yr oedd yn byw: priododd un ohonynt feddyg y ddafad wyllt.
Roedd tad Harri Parri'n 诺r a gafodd fywyd caled iawn, ond gentleman farmer oedd Yncl Will.
Roedd yn ddyn swil ond a chanddo ddigon o hiwmor; er nad oedd chwerthin yn dod yn rhwydd i bobl Ll欧n.
Yncl Will a thad Harri Parri oedd y rhai olaf i wybod 'iaith y brain'. Gan deulu ei dad y cafodd y siaradwr help i fyw efo'r gwerthoedd a gafodd gan deulu ei fam, help i beidio a chymryd bywyd ormod o ddifrif.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Ann Parry Williams, a ddiolchodd i'r Parch Harri Parri, i'r capel am gael cyfarfod yno, i'r Academi am ei nawdd, ac i Nerys John am baratoi'r baned.