Yma yn treulio'r Pasg yn Tulsa Oklahoma, efo Owen, cefnder dad, ei wraig Lori a'u plant Megan a Bryn (do wir fe gafodd ei enwi ar 么l dad!) Mae tad a mam Owen yn siarad Cymraeg ac maen nhw'n byw yma yn Tulsa hefyd. Fe deithion ni am awr a hanner Ddydd Sul y Pasg i glywed Yncl Richard yn pregethu. Fe gawson ni helfa wy pasg Ddydd Sul - mae'n draddodiad yma i guddio basgedi yn yr ardd a gwneud i'r plant fynd i chwilio amdanyn nhw. Roedd ein basgedi ni yn llawn o fferins ac anrhegion!
Ond tydyn nhw ddim yn cael gwyliau pasg - roedd Megan a Bryn yn yr ysgol Ddydd Gwener Groglith a Dydd Llun y Pasg.
Maen nhw'n groesawgar iawn yma - fe ddaeth 6 o'r teulu i'n cyfarfod yn y maes awyr yn Tulsa!! Fe wnaethon ni hedfan yma o Phoenix, Arizona. Fe fuon ni'n gweld y Grand Canyon oedd mor anhygoel fel y bu'n rhaid i ni fynd i'w weld ddwy waith! Roedd y caeau ar y daith i Phoenix yn llawn cactys (fel y rhai ar gartwnau!)
Fe gawsom ni wythnos yn California cyn hynny. Roedd San Diego a Los Angeles yn braf iawn. Mae Disney wedi agor parc newydd drws nesa i Disneyland o'r enw 'California Adventure' sy'n cynnwys reids gwych - ein ffefryn oedd y roller coaster "Californian Screamin'" fe fuon ni 5 gwaith i gyd ond roedd mam yn teimlo'n s芒l ar 么l yr ail dro! Nathon ni aros am noson yn Las Vegas ar y ffordd i'r Grand Canyon - roedd y goleuadau'n wych - ond mae mam a dad eisiau i ni ddweud na wnaethon nhw golli pres yno!!
Y lle cyntaf welson ni ar 么l cyrraedd America oedd Portland, Oregon. A'r cinio cyntaf gawsom ni yn nhy ffrindiau oedd brechdan PB & J sef Peanut Butter and Jelly (jam i ni!) Doedd hi mo'r frechdan orau i ni ei bwyta a dan ni di llwyddo i'w hosgoi ar 么l hynny!! Fe fuon ni i gyd yn yr ysgol yn Salem, Oregon, gan gynnwys mam hyd yn oed fe gafodd hi gadw cwmni i Gwenno yn y "kindergarten" (hi hi!) - tydi'r plant yma ddim yn cychwyn ysgol llawn amser tan maen nhw yn 6 oed. Roedd hi'n ysgol ddwyieithog - Saesneg a Sbaeneg. Doedd rhai yn y dosbarth Kindergarten ddim yn siarad Saesneg, ac roedd y gwersi yno i gyd yn gwbl ddwyieithog.
Ro'n i, Catrin, yn nosbarth Miss Britt. Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd yn y dosbarth yma; Alexis, Cathy, Jocelyn, Yvonne, ond y ffrind gora un oedd Erika. Roeddwn yn eistedd wrth ei hymyl hi, ac fe ges i anrheg ganddi ar y diwrnod ola. Roedd o'n brofiad anhygoel. Roedden nhw'n byta eu cinio yn y dosbarth! Roedd ganddyn nhw barc chwarae yn yr ysgol, efo siglenni a sleid, ac fe ofynnodd Jocelyn gwestiwn i mi. Oes gennych chi barc chwarae yn eich hysgol chi? Na, atebais innau. Be 'dach chi'n neud, ta?!
Doedd hi'n methu credu'r peth. Roedd y gwersi yn debyg iawn i'r rhai yr ydym ni yn eu cael gartref.
Chwarae Basketball efo'i ffrindiau nath Rhys fwynhau orau a chael cinio ysgol gwahanol iawn! Does ganddyn nhw ddim cogyddion yn yr ysgol, felly salad a bwyd hawdd i'w gynhesu (e.e. hot dog) sydd ar blatiau'r plant, a chreision o'r enw nachos efo saws caws a chicken nuggets (doedd na DDIM llysiau na thatws mash!)
Dan ni ar y ffordd rwan i Efrog Newydd am 4 diwrnod cyn hedfan adra. Dan ni wedi cael mis gwych yma yn America - dan ni wedi gweld llawer ac wedi dysgu mwy. Gawn ni fynd yn 么l mis nesa plis?
"...We're doin' fine, Oklahoma! Oklahoma--O.K."