成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Dewis Pws gyda Stuart Cable Cyswllt gyda Cable
Rhagfyr 2005
Erbyn hyn, mae Dewi Pws yn un o'r locals yn Felinheli, ond bu seren hyd yn oed mwy disglair i'w weld o gwmpas y pentref gyda Mr Morris mis diwethaf sef Stuart Cable.
Mae Stuart yn gyn-aelod o'r gr诺p llwyddiannus Stereophonics ac mae nawr yn adnabyddus ar y teledu fel gwestywr ei raglen sgwrsio Cable Connects ar 成人论坛 Cymru.

Roedd Stuart yn treulio wythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn a gyda'r nos ar 么l astudio drwy'r dydd roedd yn mentro draw i'r Felin am adloniant! Bu'n sgwrsio a llawer o drigolion y pentref yn Nhafarn y Garddfon - a phawb yn cytuno ei fod yn foi hawddgar, tebyg iawn i'r dyn ar y sgr卯n.

Mae'n dysgu Cymraeg ar gyfer y rhaglen The Big Welsh Challenge; enwogion eraill sy'n cymryd rhan yw Si芒n Williams, Newyddiadurwraig; Derek Brockway, dyn tywydd; Steve Mayo, actor yn y ddrama sebon Belonging a Susanne Parker, actores a chwaer i Colin Jackson.

Dyma bigion o sgwrs gyda Stuart pan eglurodd ei awch i ddysgu'r iaith. "Dwi'n hanu o Gwmaman ac rwy'n cofio llawer o henoed y pentref yn siarad Cymraeg pan oeddwn i'n fachgen, ond bu i'r iaith ddirywio - er bod y Gymraeg yn dechrau dod 'nol i'r gyrnuned nawr.

"Rwy'n frwd i ddysgu'r iaith am sawl rheswm. Mae fy mab 4 a hanner mlwydd oed, Cian, yn mynychu Ysgol Gymraeg Aberd芒r ac mae e'n fy nysgu i ar hyn o bryd. Hefyd fydda i'n mynd i weld Rhys Ifans os ydi Gruff Rhys a'r Super Furries yno mae pawb yn siarad Cymraeg a dwi'n benderfynol o allu deall a gallu ymuno yn yr hwyl! Dwi'n cofio bod yn Llundain pan oedd y Stereophonics yn boblogaidd iawn a Chymro yn dod ataf i fy llongyfarch, gan ofyn, "Ti'n siarad Cymraeg?" Teimlais gywilydd wrth orfod ysgwyd fy mhen. Dwi mor falch o fod yn Gymro, yn caru Cymru a dwi eisiau hybu Cymru pob cyfle y gaf".

"Yr her gyntaf ar gyfer y rhaglen oedd dysgu 'Hen Wlad fy Nhadau' a Dewi Pws oedd fy nhiwtor. Bu raid i mi ganu'r anthem yn fyw ar Radio Cymru! Her arall oedd mynd i'r bwyty yn Sain Ffagan; eithaf syml tybiais gan feddwl mai dewis pryd faswn i - ond llawer gwaeth, fi oedd yn gweini yno! Mae'n anodd gwella fy Nghymraeg ar adegau - weithiau dim ond gwers awr a gaf mewn wythnos yng Nghaerdydd."

Bu'n rhaid holi pwy oedd hoff westai Stuart ar ei sioe gan ei fod wedi cyfweld amryw o s锚r gyda Katherine Jenkins a Rob Brydon yn ymddangos ar ei gyfres gyfredol. "Tom Jones - dyna ddyn! Roeddwn yn ei nabod cynt o deithio a chynnal cyngherddau gydag ef tra yn y band. Mae ganddo straeon di-ri am Elvis, Sinatra a Muhammad Ali. Buasem wedi gallu ffilmio sioe deng awr yn hawdd gydag ef."

A fydd Stuart yn dychwelyd i'r Felinheli? "Yn bendant. Mae'n hyfryd yma." Pob lwc i Stuart gyda'i sialens.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy