Drwy gydweithio a chwmn茂au recordiau megis Sain, Ankstmusik, Fflach, Awen, Recordiau Gwynfryn, Docrad a Slacar y mae Mentrau laith Gwynedd a Chonwy yn medru cynnig hyd at bum CD yn rhad ac am ddim i'r tafarndai eu rhoi yn eu jiwcbocs. Dywedodd Ricky Williams, perchennog y Fic: "Mae'r cwsmeriaid wrth eu boddau hefo'r dewis sydd gennym o gerddoriaeth Cymraeg ar y jiwcbocs. "Rydw'i yn credu y byddwn yn medru cynnig awyrgylch gwirioneddol Gymraeg pan ddaw'r Eisteddfod Genedlaethol yma flwyddyn nesaf." Yn ddiweddar bu Lleuwen Steffan yn perfformio efo Aqoustique yn Nhafarn y Fic mewn noson i lansio'r cynllun.
|