Mae pryderon yngl欧n 芒 dyfodol y ddau sefydliad yma wedi'u mynegi'n ddiweddar mewn papurau newydd ac ar y newyddion.
Mae dyfodol y Theatr yn ansicr ac yn 么l pob s么n bydd yn cau yn yr Hydref gyda chanolfan i'r celfyddydau perfformiadol yn cael ei hadeiladu rhywbryd yn y dyfodol.
Byddai cau'r Theatr yn ergyd drom i'r gymuned leol a thu hwnt gan ei bod yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol y ddinas ac yn denu cynulleidfaoedd o bob rhan o Wynedd i weld perfformiadau.
Yr un mor ansicr yw dyfodol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Prifysgol Bangor yw perchennog yr Amgueddfa ond ers blynyddoedd bellach Cyngor Gwynedd sy'n ysgwyddo'r baich ariannol o redeg yr Amgueddfa.
Oherwydd toriadau mawr y flwyddyn nesaf mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd hi'n fwyfwy anodd cefnogi'r Amgueddfa'n ariannol. Mae cefnogwyr yr Amgueddfa wedi mynegi eu pryder ac yn 么l y Dr John Llewelyn Williams (Cyn-warden Neuadd John Morris Jones), ar ran cyfeillion yr Amgueddfa a'r Oriel, y mae ansicrwydd gwirioneddol yngl欧n 芒 dyfodol yr Oriel sy'n cynnwys hen ddodrefn, casgliadau gwerthfawr a chreiriau archeolegol o bwys. Byddai colli'r Amgueddfa, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers sefydlu'r Brifysgol ym 1884, yn golygu colli rhan bwysig o hanes Bangor a'r Gogledd.
Dyma ddau sefydliad sydd 芒 chysylltiadau agos iawn 芒'r Brifysgol yma ym Mangor. Tra bo'r Brifysgol yn ehangu ei gorwelion a denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd oni ddylai fod yn gwarchod a chefnogi'r sefydliadau hynny o fewn y gymuned a'r ardal leol?
Wedi'r cyfan mae'n bwysig cofio pwy fu'n gyfrifol am sefydlu'r Brifysgol yma yn y Gogledd dros ganrif yn 么l, a glynu wrth rai o'r gwerthoedd hynny oedd yn rhan mor bwysig o'r weledigaeth honno.
|