Buom yn ffodus iawn o ennill cymorth ariannol gan y Comisiwn Ewropeaidd i'r Ganolfan Astudiaethau Tir Cras ym Mangor i fedru gweithio ar brosiect gyda chyfeillion yn ne Affrica, Botswana a Lesotho.Amcan ein prosiect yw ceisio deall yn fanwl y berthynas rhwng y pentrefwyr a'u tiroedd comin a deall sut fath o adnoddau sydd ganddynt i'w cynnal.
Yn sg卯l yr wybodaeth yma, rydym yn ceisio gweithio gyda'r bobl i adnabod ffyrdd newydd iddynt wella eu byd tra'n gwarchod eu hadnoddau naturiol. Yn y b么n mae hyn oll yn debyg i ymdrechion ffermwyr Cymru i arall-gyfeirio, ond mewn hinsawdd anwadal gyda llawer llai o adnoddau a chefnogaeth gan y Llywodraeth.
Mae ein perthynas gyda Lesotho wedi datblygu yn un arbennig o glos a chyfeillgar ac yn adlewyrchiad teg o berthynas ehangach sy'n bodoli rhwng y ddwy genedl drwy Dolen Cymru-Lesotho.
Felly, bob chwe mis, mae Einir Young a minnau yn teithio i Lesotho a'r gwledydd eraill i drafod a chynllunio gwaith maes y prosiect ac i geisio trafod y ffordd orau i oresgyn y problemau sy'n bodoli yn y tair gwlad.
Mae'r pentrefi yn Lesotho yng nghanol y mynyddoedd yn ardal dyffrynnoedd y Pelaneng - Boking, sef dwy afon sydd yn bwydo cronfa dd诺r anferth Katsi. Mae'n ardal ddiarffordd dlawd. Yn draddodiadol mae'r bobl leol yn hwsmona defaid a gwartheg ac yn tyfu rhai cnydau o gwmpas eu pentrefi. Ac am sawl cenhedlaeth bu'r dynion ifanc yn mudo i weithio yng ngweithfeydd aur a diemwntau'r Rand yn Ne Affrica.
Yn lled ddiweddar, ers y 1920au, mae pobl wedi ymgartrefu trwy'r flwyddyn yn y mynyddoedd sydd dair gwaith yn uwch nag Eryri. Wrth i'r wasgfa ar y tiroedd gorau gynyddu, newidiodd yr arferiad o symud i'r mynyddoedd i fanteisio ar borfa'r haf (drawstrefa) i batrwm o anheddau parhaol yn y bryniau.
Datblygodd y tyddynod mynyddig, yr hen hafotai, yn bentrefi parhaol. Mae'r wasgfa ar y tir yn rhan hanfodol o fodolaeth y wlad ac o ymwybyddiaeth y Basotho (pobl Lesotho) o'u hunaniaeth.
Daeth Lesotho i fodolaeth o dan adain y Brydain Imperialaidd er mwyn osgoi colli mwy a mwy o dir i Affricaneriaid y Free State.
Yn gyfreithlon ni all unigolion Basotho fod yn dirfeddianwyr, rhag ofn iddynt gael eu temtio i werthu i'r Affricaneriaid. Am ddegawdau dosbarthwyd yr hawl i bori gan y penaethiaid (chiefs) lleol ond bellach mae'r holl gyfundrefn ffiwdal yn torri i lawr.
Ond gyda'r traddodiadau cenedlaethol mor gryf, mae'n anodd iawn datblygu cyfundrefn newydd dderbyniol yn ei lle.
Mae mynyddoedd y Maloti yn Lesotho wedi datblygu ecoleg unigryw a gwerthfawr er nad yw hyn yn gysur i'r pentrefwyr tlawd. Er enghraifft ceir yno fawnydd unigryw sydd yn rheoli llif y d诺r i'r afonydd ond sydd yn hawdd eu dinistrio o dan draed yr anifeiliaid.
Yn anffodus nid oes gynllun tebyg i Dir Gofal yn bodoli yn Lesotho er mwyn hybu'r tyddynwyr i warchod y tiroedd hyn. Mae ein prosiect felly yn ceisio atebion cynaladwy i ofynion y bobl tra'n gwarchod eu hetifeddiaeth fiolegol.
Ar hyn o bryd mae Mrs Tsedi Maphale, sydd wedi derbyn ysgoloriaeth George Thomas er mwyn gweithio am ei doethuriaeth dan adain Dr Einir Young, wedi bod gyda ni ym Mangor. Tan yn ddiweddar hi oedd arweinydd y t卯m yn Lesotho.
Er bod Lesotho yn wlad eithriadol o dlawd a bod bywyd yn galed iawn i bron holl drigolion y wlad, yn arbennig yn y mynyddoedd, mae yna rai manteision o fyw yn yr ucheldir.
Mae'r tir yn llawer gwlypach na'r iseldir, gyda phridd da mewn mannau. Un o'n hamcanion gyda Tsedi a'i th卯m yw hybu mudiadau cydweithredol yn ardal ein prosiect i dyfu cnydau fel tatws h芒d, bresych, garlleg ac yn hanfodol eu galluogi i'w gwerthu am bris teg yn Maseru a dinasoedd mawr De Affrica. Buasai hyn wrth gwrs, yn creu incwm ychwanegol i'r teuluoedd. Mae'r un potensial i ddatblygu crefftau fel gwneud basgedi i fanteisio ar Lyn Katsi i bysgota ac ar gyfer twristiaeth. Fel mewn llawer gwlad, y broblem yw pwy fydd yn rheoli a phwy sydd yn meddu ar y cyfalaf i fuddsoddi mewn mentrau newydd? A fydd y brodorion yn manteisio?
Cawsom ein calonogi'n fawr yn ddiweddar gan benderfyniad Dolen i geisio codi arian i helpu'r grwpiau cydweithredol gael eu traed danynt ac yn wir buaswn yn hynod falch i weld y Goriad yn ymuno yn y fenter.
Er nad yw'n brosiect yn delio'n uniongyrchol 芒 iechyd, mae presenoldeb HIV/AIDS fel cwmwl du dros bawb. O dan y drefn apartheid nid oedd hawl i deuluoedd fudo i Dde Affrica. Yn hytrach dim ond y dynion g芒i fynd yno i labro ac roedd yn rhaid iddynt aros mewn barics gerllaw'r mwyngloddiau.
Tanseiliwyd y drefn gymdeithasol o ganlyniad i'r polisi annynol hwn gan agor y drysau i HIV/AIDS. Pan oeddem yn Ha Lajone yn Ionawr 2003 bu Ella, fy ngwraig, a Tsedi yn ymweld 芒 rhai o'r teuluoedd yn eu rondevel (t欧 crwn o fwd a th么 gwellt) lle roedd criw o hogia bach o'r un oed yn chware efo ci bach.
Deallodd Ella bod rhai o'r mamau eisoes wedi marw o AIDS a bod eu nain yn eu gwarchod. Erbyn 2004 clywsom fod dau o'r hogiau bach wedi marw hefyd. Rhaid cydnabod nad oes gobaith i'r prosiect wneud llawer mwy na dadansoddi'r holl broblemau a dechrau helpu pentrefwyr i ddatblygu rhai mentrau newydd.
Rydym yn llawn edmygedd o ddygnwch y pentrefwyr a phenderfyniad ein cyd-weithwyr o Brifysgol Lesotho yn Roma. Rydym yn agor drysau iddynt hwythau ac yn eu galluogi i gyfrannu at leihau problemau un o wledydd mwyaf apelgar ond tlotaf Affrica.