Mynegwyd pryder am y ffaith fod y papur yn colli bron i dair
mil o bunnoedd y flwyddyn oherwydd ffigyrau gwerthiant siomedig ac incwm hysbysebion cymharol isel.
Ers y cyfarfod hefyd y mae Rhian Haf, y cydlynydd a David James, y trysorydd wedi datgan eu
bod yn rhoi'r gorau i'w swyddi o fewn deufis.
Heb gydlynydd i gysylltu gyda'r golygyddion a'r cyhoeddwyr fe fydd parhad y papur yn y fantol.
Mae angen brwdfrydedd a gwaed newydd! Dylwn nodi yma ein diolchgarwch i'r ddau am eu gwasanaeth i'r papur a diolch i'r criw bychan o olygyddion sydd wedi ymgymryd a'r gwaith golygyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
I gadw'n pennau uwchlaw'r d诺r mae angen cydlynydd, trysorydd a gwirfoddolwyr ac mae angen diwygio nifer o elfennau a nodweddion sy'n perthyn i'r papur.
Bydd cyflog yn cael ei dalu am wneud gwaith cydlynydd/trysorydd a'r oriau gwaith yn
cyfateb i oddeutu ddiwrnod a hanner y mis.
I'r pwrpas hwn rydym yn galw cyfarfod cyffredinol eto ar Nos Sul, Ionawr l0 fed am 7.00 o'r gloch yng Nghapel Berea Newydd.
Os ydych am weld parhad y Goriad dewch i'r cyfarfod.
|