Hwn fydd pentref y myfyrwyr a godir ar y cae rygbi wrth Maes Glas. Gwalia, cymdeithas dai o Gaerdydd fydd yn gyfrifol am y datblygiad os bydd yn cael caniat芒d terfynol. Roedd eu Swyddogion hwy a'r Coleg yn y cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas Trigolion Bangor Uchaf.
Ond roedd cynrychiolwyr Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a'r Cylch a Chyngor Diogelu Cymru Wledig yn fwy gwrthwynebus na neb i'r datblygiad. Sbardunwyd hyn oherwydd bod rhai sy'n byw yr ochr draw i'r Fenai yn dal yn ffyrnig yn erbyn un o'r Neuaddau diwethaf i'r Coleg ei chodi. Mae hon i'w gweld yn glir uwchben y coed o gyfeiriad yr Ynys, er i'r coed dyfu llawer yn y cyfamser.
Eisoes mae'r cynlluniau gwreiddiol wedi eu newid i godi Neuaddau pedwar llawr yn lle pump. Unwaith y byddent wedi eu hadeiladu byddai Neuaddau Emrys Evans a Plas Gwyn yn cael eu dymchwel.
Byddai'r datblygiad yn gwneud llawer o wahaniaeth i Ffordd Ffriddoedd. Gall olygu y bydd cynnydd mewn trafnidiaeth drwm adeg yr adeiladu. Unwaith y byddai'r 1,080 o fyfyrwyr wedi symud yno byddai ffordd yn debyg o fod yn llawer prysurach.
Caniat芒d amlinellol a roddwyd i'r cynllun hyd yma gan y Cyngor Sir. O 6 Chwefror am wythnos mae'r cynlluniau i'w gweld yn Swyddfa Stadau'r Brifysgol.
|