Tu mewn i Westy'r Bulkeley roedd cymdeithas arall yn cyfarfod - Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian. Cymdeithas a sefydlwyd flynyddoedd yn 么1 gan Mrs Mallt Anderson, Caerdydd, a'i chydnabod (priod Dr Donald Anderson yw Mallt, Cyn-ymgynghorydd Meddygol lechyd y Gymuned yn y Ddinas) i gofio am y Dywysoges fechan a gipiwyd, ar gais brenin Lloegr, o'i chartref yn Abergwyngregyn ac a dreuliodd weddill ei hoes mewn lleiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 54 mlwydd oed heb fod yn gwybod , mae'n si诺r, pwy oedd, nac sut i sillafu ei henw.
Bu i dros gant o'r aelodau a Hrindiau o bell ac agos ymgynnull dan lywyddiaeth Yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas gyda Mr Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad a Mr Paul Beauchamp, o swyddfa'r mapiau Ordnans, yn bresennol.
Cyfarfod oedd y Gymdeithas i wireddu breuddwyd Janet Elson, un o'r aelodau, a weithiodd yn ddiwyd drwy ysgrifennu i'r gwahanol gymdeithasau i geisio cael cytundeb i newid enw Carnedd Uchaf yn Carnedd
Gwenllian er mwyn rhoi enw Gwenllian gydag enwau'r teulu - ei thad, Llywelyn, ei mam Elinor (Yr Elen) a'i hewythr Dafydd - ar y Carneddau unwaith ac am byth. Ni fu'r dasg yn un hawdd, a rh aid oedd cynnal cyfarfod ffurfiol ar gais y Swyddfa Ordnans.
Un o Lanfairfechan yw Janet Elson, yn ferch i'r diweddar Daniel Griffiths a'i briod Gaynor - ei thad yn gynddeintydd yn ardal Penmaenmawr ond yn wreiddiol o Aberdaron ac o'r un dras a Mrs Margaret Jones, Porthaethwy (Ffordd Farrar gynt).
Mae Janet a'i phriod Keith yn byw yn Dorset ond mae ei chalon ynghlwm ym mynyddoedd Cymru, yn arbennig yn y Carneddau lle'r arferai gerdded llawer pan yn ifanc ac mae'r ebolion sydd yno yn agos iawn at ei chalon.
Erbyn heddiw mae mapiau Ordnans 2009 wedi eu cyhoeddi a cheir arnynt yr enw 'Carnedd Gwenllian' ac yn fach mewn cromfachau 'Carnedd Uchaf'.
Ond pan gyhoeddir mapiau 2012 'Carnedd Gwenllian' yn unig fydd arnynt.
Felly diolch i Janet am fod mor ddygn - nid yn aml mae rhywun yn cael caniat芒d i newid enw mynydd.
Roedd ei ffeil yn un drwchus - tair blynedd o lafur diflino!
Gwell Cymro yw Cymro oddi cartref meddai'r hen ddywediad.
Aeth Mallt a hithau adref yn ysgafn droed gyda Janet yn cael y clod iddi gyflawni'r amhosibl gan ddod a hanes y Dywysoges druan yn 么l i'n bywydau ninnau, a rhoi mwy o hanes Cymru ynghlwm i'r Carneddau.
Enid Roberts (Bangor)