Daeth nifer sylweddol o drigolion Bangor ynghyd i leisio eu hanfodlonrwydd mewn protest swnllyd ar y Stryd Fawr ar bnawn Sadwrn, Mawrth 21 ain. Dadl y protestwyr oedd bod Bangor yn cael ei disystyru ar draul trefi ac ardaloedd eraill yng Ngwynedd. Mae Bangor wedi colli ei Theatr a'i sinema. Mae llawer o siopau'r Stryd Fawr wedi cau ac yn 么l y protestwyr ychydig iawn o gyfleusterau sydd yna i blant a phobl ifanc. Mae Bangor yn gallu brolio mai ganddi hi mae'r stryd fawr hira' ym Mhyrdain ac mae'n bwysig i'r stryd fawr honno fod mewn cyflwr graenus a deiniadol i ddenu siopwyr ac ymwelwyr. Tybed oes bai arnom ni drigolion Bangor am droi cefn ar y Stryd Fawr gan anelu ein ceir yn hytrach am siopau ac archfarchnadoedd cyrion y ddinas? Yn 么l John Wynn Jones, Maer Bangor, cynghorydd Gwynedd a chadeirydd 'Balchder Bangor' y mae pawb yn benderfynol o gyd dynnu a chyd weithio i wella delwedd Bangor ac adfer balchder y cyhoedd yn eu dinas a'i chyfleusterau. Mewn erthygl yn y 'Daily Post' yn ddiweddar datgelwyd fod Cyngor Gwynedd yn chwilio am arian o Ewrop er mwyn adfywio tair tref yng Ngwynedd - Bangor, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog. Gobeithio yn wir y gwelir gwireddu hyn yn fuan.
|