Dyma rai o'r cwestiynau a ofynnwyd : "Pam aethoch chi i Gaerdydd yn y lle cyntaf?", "Pam ddaethoch yn 么l i Fangor?" "Ydych chi'n colli Caerdydd?", "Ydy Bangor wedi newid?" "Ydych chi am aros?" Diolch iddynt am fod mor barod i ateb ac fod mor onest...Geraint Tudur
(Darlithydd ym maes Hanes yr Eglwys Gristnogol yn y Brifysgol. Treuliodd 16 o flynyddoedd, o 1978 hyd 1994 yn weinidog Eglwys Annibynnol Ebeneser Caerdydd).
"Gwahoddwyd fi gan Eglwys Annibynnol Ebeneser Caerdydd i fod yn weinidog iddi. A hithau'n Eglwys gref, wedi ei lleoli yng nghanol y ddinas (y drws nesaf i Marks & Spencer) ac yn cynnig pob math o bosibiliadau ar gyfer datblygu gwaith y Weinidogaeth Gristnogol, ni fum yn hir cyn derbyn y gwahoddiad!"
"Pam dod yn 么l i Fangor? Cefais ar ddeall fod swydd ddarlithio i gael ei hysbysebu gan y Brifysgol ym maes Hanes yr Eglwys Gristnogol, ac wedi ymgynghori gyda'r teulu penderfynais ymgeisio amdani. Yr oedd y posibilrwydd o fedru symud yn 么l i'r gogledd at deulu a hen ffrindiau erbyn hynny yn atyniad cryf."
"O bosibl y gellid dweud mai cyd-ddigwyddiad oedd dod yn 么l i Fangor ei hunan, oherwydd yma yr oedd y sefydliad yr oeddwn yn mynd i weithio iddo".
Cwestiwn mwy perthnasol efallai fyddai, "Pam yr aethoch i Fangor Ucha i fyw, i ganol y myfyrwyr?", a'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw mai yn 么l i'r ardal y magwyd fi ynddi yr oeddwn am fynd. Da yw medru dweud nad ydym fel teulu wedi cael unrhyw reswm i ddifaru penderfynu fel y gwnaethom; mae Bangor Uchaf yn fywiog, yn llawn pobl ifanc ac yn lle eithriadol o ddiddorol i fyw.
Mae rhai pethau yr wyf yn eu colli fawr. Y siopau yw un peth, a'r cyfleustra o gael popeth o fewn cylch o ddwy neu dair milltir. Gwelaf golli yr amrywiaeth o dai bwyta hefyd: yr oedd un ty bwyta Indiaidd yr oeddwn wedi dod yn hoff iawn ohono. Mae dyn hefyd yn colli cwmni ei ffrindiau. Mewn 16 mlynedd, gwneuthum lu o ffrindiau arbennig o dda, ac oherwydd natur fy ngwaith, buom trwy rai o argyfyngau mwyaf ingol bywyd gyda'n gilydd."
"Mae'n debyg mai'r hyn oedd yn syndod i mi wrth ddod yn 么l oedd cyn lleied yr oedd Bangor wedi newid, ac nid peth da yw hynny. O'i chymharu 芒 Chaerdydd yr oedd y ddinas wedi mynd i ymddangos yn dlawd ac fel tref yr oedd angen gwario arni. Gwaetha'r modd, er cymaint sydd ym Mangor y gellid ei ddatblygu a'i farchnata, mae llawer yma sy'n amharod i ganiat芒u newid. Gwrthwynebir pob datblygiad gyda'r canlyniad fod Bangor yn cael ei gadael ar 么l. Mae angen tynnu myfyrwyr ac ymwelwyr yma, a thrwy hynny sicrhau gwaith i bobl leol, a ffyniant ein dinas."
Sioned Bebb
(Perchennog Siop Pendref yma ym Mangor a Chyn-athrawes a Phennaeth Adran Gymraeg yn ardal Caerdydd.)
Roedd yna duedd hyd yn oed n么l yn oes yr arth a'r blaidd, i bobl ifanc heidio i Gaerdydd ar 么l gadael y Coleg. Doedd gen i ddim awydd o gwbl ddilyn y lli, ond gan mai yn y De y cefais gynnig fy swydd gyntaf, bu raid i minnau hefyd ei hel hi am y brifddinas.
Wedi cyrraedd, dyma benderfynu ei bod yn ddyletswydd arna i aros yn y swydd honno am ddwy flynedd, ond rhywsut, rywfodd aeth y ddwy flynedd yn ugain!
Fel pob person ifanc arall, cawn flas aruthrol ar gyffro'r ddinas. Wrth fynd yn hyn, pylai'r ap锚l am Gaerdydd, a dwysau wnai'r awydd i fyw fy mywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwych o beth, felly, oedd cael cyfle i newid byd yn llwyr yn ganol oed a rhoi'r gorau i ddysgu diwedd tymor yr haf 1994, a chychwyn yn y Siop drannoeth!"
Yma y byddai bellach. Fan hyn yw man gwyn man draw i mi, nid y ddinas ei hun ond ei lleoliad godidog ar lannau'r Fenai. Sut yn y byd mae cymharu crwydro Parc y Rhath neu Barc Cathays a throi lawn Siliwen ac ar y Pier, neu dro ar hyd y glannau a thros y Bont? A oes angen deud rhagor?
Mae Bangor wedi newid yn aruthrol ers dyddiau fy mhlentyndod ac nid er gwell. Mae'r Stryd Fawr wedi mynd fel pob stryd fawr arall bellach, ond Bangor Uchaf sydd wedi gweld y newidiadau mwya chwyldroadol. Credwch neu beidio, flynyddoedd yn 么l roedd Bangor Uchaf yn bentref ac yn gymuned, teulu ar bob aelwyd ac amrywiaeth anhygoel o siopau, o Siop Goes Bren - ie'n wir i chi, i siop y Teiliwr, o Department Store i Siop Nwyddau Haearn, heb s么n am yr holl siopau cig, pysgod, ffrwythau, llysiau a blodau.
Mae c芒n Bryn F么n Mardi Gras ym Mangor Uchaf yn cofnodi un cam yn natbtygiad yr ardal ond roedd hi'n dal yn ddifyr ac yn lliwgar bryd hynny.
Seisnig iawn fu Bangor ers cyn co i mi, ac er y dirywiad brawychus yn y pentrefi o'i hamgylch a ddaeth yn sgil y mewnlifiad mae'n braf cael nodi nad yw pethau fawr gwaeth yn y Ddinas ei hun. Yn sicr ddigon, mae mwy o Gymraeg yn yr ysgolion. Hanner canrif yn 么l dim ond yn Ysgol St. Paul y clywech chi swn y Gymraeg, bellach mae i'w chlywed ymhob un o Ysgolion Cynradd y dre. Gwych o beth fyddai gweld y cynnydd yma'n cael ei gynnal yn ein Hysgolion Uwchradd."