Bydd y datblygiad dros 拢4 miliwn yn sicrhau'r cyfleusterau modern diweddaraf ar gyfer disgyblion a staff yr Ysgol Gynradd a fydd wedi ei lleoli ger Ysgol Uwchradd Friars yn y ddinas.
Mae adeilad yr ysgol bresennol yn dyddio'n 么l 1871, ond yn yr ysgol newydd ceir amrywiaeth o'r cyfleusterau mwyaf modern.
Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys saith ystafell ddosbarth, adnoddau anghenion addysg arbennig
o'r radd flaenaf, ystafell technoleg gwybodaeth,
llyfrgelloedd, ystafell gerddoriaeth, maes chwarae,
meithrinfa stiwdio, ystafell clwb cymunedol yn ogystal a maes parcio pwrpasol.
Bu rhai o ddisgyblion presennol yr ysgol, ynghyd a'r Cynghorydd Dai Rees Jones, yr aelod lleol ar Gyngor Gwynedd yn ymweld a safle'r ysgol newydd, sydd wedi ei chyllido trwy grant GweIla Adeiladau Ysgol Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Rees Jones, aelod Glyder (Bangor) Cyngor Gwynedd, "Rwy'n falch iawn i weld y gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Cae Top yn bwrw ymlaen, ac yn edrych ymlaen at weld yr
ysgol newydd yn datblygu'n ganolbwynt i'r gymuned yn y
rhan hon o Fangor.
" Er gwaetha'r pryderon ar y cychwyn, mae'r gymuned gyfan yn edrych ymlaen at groesawu Ysgol Cae Top i ardal Eithinog, ac rwy'n edrych ymlaen at weld disgyblion yr ysgol yn cydweithio gyda Chyfeillion Caeau'r Briwas i warchod y tiroedd i'r cenedlaethau i ddod."
Bydd yr ysgol newydd yn adeilad amgylcheddol gyfeillgar, gan gynnwys paneli solar, gwresogi geothermol, a chyfleusterau i gasglu d诺r glaw fel y gellir ei ailddefnyddio.
Mae'r cynllun ar gyfer yr ysgol newydd yn cynnwys ardaloedd addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen newydd ac
ardaloedd penodol a fydd yn galluogi'r ysgol i fynd i'r afael
a gofynion y Cwricwlwm Newydd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Ychwanegodd Rhys Hughes, Pennaeth Ysgol Cae Top, "Mae'r adeilad newydd amgylcheddol gyfeillgar yma yn rhoi cyfle gwych i ni addysgu plant Ysgol Cae Top mewn
cyfleusterau modern, o'r radd flaenaf sy'n ateb gofynion addysg
modern."
Mae dros 220 0 ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd, gyda nifer helaeth ohonynt yn dod o deuluoedd sy'n hanu'n wreiddiol o ardaloedd ledled y byd.