Mae Eirian yn 32 oed ac yn frodor o Lynfaes, ger Llangefni, ond mae bellach yn byw gyda'i g诺r Arwyn yn Llannerch-y-medd.
Mae hi'n aelod o'r Urdd ers yn 'ddim o beth' ac mae wedi ei
magu yng nghanol s诺n cantorion y fro gan fod ei mam, Iona Stephen Williams, wedi bod yn hyfforddi ieuenctid yr ynys ers blynyddoedd lawer.
"Mae bod yn aelod o'r Urdd dros y blynyddoedd wedi magu hyder enfawr ynof i fel unigolyn.
"Mae gan y mudiad gymaint i'w gynnig i bobl ifanc, profiadau dirifedi, teithiau, cyfleoedd i berfformio, cystadlu a chyfle i wneud llu o ffrindiau newydd ar hyd a lled Cymru," eglura Eirian.
"Rydw i'n fa1ch iawn o fod yn rhan o fudiad mor flaengar!"
Derbyniodd Eirian ei haddysg gynradd yn Ysgol Llandrygarn cyn symud yn ei blaen i Ysgol Gyfun Llangefni.
Astudiodd radd Cyfathrebu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor ac yna dilyn cwrs ymarfer dysgu.
Mae hi bellach yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llanddeusant ers pedair blynedd ac yn mwynhau'n arw.
Adran Bentref Bodwrog fu lloches Eirian fel aelod o'r mudiad ac yno cafodd y cyfle i ymgymryd a gweithgareddau amrywiol yr Urdd a chystadlu.
Mae'n mwynhau canu ac mae'n aelod o Barti Gwerin Lobsgows ar yr Ynys.
Dros y blynyddoedd bu Eirian yn hynod o weithgar gyda'r Urdd ym M么n - bu'n Ysgrifennydd Cylch Cefni, yn Gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n 2004 ac mae bellach yn Ysgrifennydd Cylch Alaw Cybi ac yn Ysgrifennydd Eisteddfod Sir dan 12 oed.
"Mae hi'n anrhydedd fawr cael eich ethol i fod yn Is-Lywydd yr Urdd ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle.
"Ces dipyn o sioc wrth glywed y newyddion ond rwy'n edrych ymlaen at gydweithio a phobl ar draws Cymru fel Llysgennad i fudiad ieuenctid Cymru!" meddai Eirian.
Dymuniadau gorau iddi yn y gwaith oddi wrth bawb o fro'r Glorian.
|