Cantorion Bro Cefni
Teimlad braf i aelodau'r c么r oedd canu yn ein Cyngerdd nos Sul y Blodau yn Eglwys Cyngar Sant, Llangefni a gweld y lle'n llawn! Diolch i bawb am eu cefnogaeth - llwyddwyd i gasglu dros 拢400 at Ap锚l T欧 Gobaith. Agorwyd y noson gyda gweddi gan y Parchedig Richard Jones ac yna cafwyd eitemau gan Aeron Gwyn Jones, Raymond Jones a Marian Roberts gyda chyn-arweinydd y c么r, Elen Wyn Keen, yn cyfeilio iddynt ar y piano. Roeddem i gyd yn falch o'i gweld. Cymerwyd rhan hefyd gan Barti Llefaru Caian a hyfforddir gan Mrs Eleanor Jones. Cyflwynwyd yr eitemau gan Dr Meurig Hughes a chroesawodd yn gynnes iawn Mr Dewi Jones, Benllech a gyfieithodd i'r Gymraeg 'O'r Olewydd i Galfaria' gan J.H. Maunder a berfformiwyd gan y c么r a'r unawdwyr yn yr ail hanner. Diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Gadeirydd y c么r, Margaret Roberts, gan gyfeirio at Catherine Blackwell a Vernon Jones a fu'n hyfforddi'r c么r ac wrth gwrs yr arweinydd gwadd - John Hywel a'n hysgogodd i ganu'n gorau glas yn y cyngerdd! Cafodd ein cyfeilydd, Rhian Lloyd Jones, glod arbennig gan John Hywel a datganodd ei werthfawrogiad o'i champ fawr yn cyfeilio mor raenus i ni ar yr organ. Un o nodweddion y cyflwyniad o'r gwaith cysegredig 'O'r Olewydd i Galfaria' oedd cyd-ganu'r tair emyn gyda'r gynulleidfa a theimlai pawb fod hyn wedi gosod naws arbennig i'r noson.
Syndod i ni gyd oedd gweld ein Cadeirydd, Margaret Roberts wedi cyrraedd i 'n hymarfer cyntaf ar 么l gwyliau'r Pasg a hithau wedi glanio'r bore hwnnw o'r Unol Daleithiau. Bu Margaret gyda Thaith y Gwynoliaid yn gweld a chlywed Gwyn Hughes Jones yn perfformio yn yr opera 'Nabuco' yn Efrog Newydd. Edrychwn ymlaen at glywed ei hanesion difyr! Croesawyd yn gynnes Vernon a Valmai Jones yn 么l atom ar 么l wythnosau pryderus i'r ddau. Edrychai Vernon yn eithriadol o dda ar 么l cael llawdriniaeth fawr yn ddiweddar yn Ysbyty Manceinion a llongyfarchwyd Valmai am ofalu mor dda amdano.
Cyn cloi, rhaid dweud cymaint oedd pawb yn edmygu Dilys Hughes a dorrodd ei braich cyn yr ymarfer wythnos cyn y cyngerdd ond a fynnodd barhau i ganu a gwenu drwy'r cyfan. Wrth i'r Glorian gael ei baratoi daeth y newyddion hapus fod Nansi Roberts yn hen nain unwaith eto. Llongyfarchiadau iddi - ganwyd merch fach i'w hwyres Siwan a'i g诺r Howell.
Lleisiau'r Frogwy
Gorchwyl anodd fu inni fel c么r i ganu yn arwyl y ddiweddar wraig ifanc Rhiannon Meredith Herbert oedd yn chwaer i Dafydd Williams, Tyddyn Waen, Rhosmeirch, llywydd ein c么r. Teithiodd nifer dda o'r c么r mewn dau fws mini i eglwys St Michael's yn Huyton ac yno buom yn canu tri emyn sef 'Yr Arglwydd yw fy Mugail' ar y d么n Crimond; Cwm Rhondda, "Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd" a hefyd yn effeithiol iawn fe ganwyd 'Calon L芒n' pan oedd Rhiannon yn gadael yr eglwys am y tro olaf. Canwyd 'Behold I'm standing by the door' gan Clarence Jones a hynny yn arbennig iawn a than deimlad cywir. Roedd y teulu wedi trefnu ar ein cyfer ar derfyn y gwasanaeth a hoffem ddiolch iddynt am baratoi mor drylwyr. Mae ein diolch hefyd i Victor a Gwynfor am eu gyrru gofalus i fynd a dod o Lerpwl ac i'n harweinydd amryddawn, Gareth Glyn, am ein hyfforddi mewn byr amser.
Roedd y dyrfa fawr ddaeth i'r arwyl yn arwydd o barch teilwng i Rhiannon, ac roedd y rheithor yn amlygu hynny yn ei deyrnged iddi fel gwraig gadarn ac ymroddgar yn ei gwaith fel gweinyddes a ddringodd i frig ei phroffesiwn. Roedd rhwng tri a phedwar cant o alarwyr yno a bydd hynny yn gysur i Dafydd a'r teulu i feddwl fod ei chwaer wedi llenwi'r t欧.
Gorffennaf trwy ddyfynnu yr hyn a ddywedodd y ficer amdani mewn un frawddeg "She was proud of her Welsh roots to the very end".
Er nad oeddwn i yn ei hadnabod yn bersonol roedd yn brofiad trwm i weld y ddraig goch yn gorchuddio'i gweddillion ar y daith araf o'r eglwys.
O ffydd a barn gadarnaf - hi garodd
Y gorau i'r eithaf
Ciliodd cyn gwae y Gaeaf
O'n bro yn y Gwanwyn braf.
Machraeth
Dymuna Dafydd a Lesley, Tyddyn Waen, Rhosmeirch, ddiolch o waelod calon i Gareth a'r hogia am eu cyfraniad a'u gwasanaeth dwys o gario allan un o ddymuniadau olaf Rhiannon Meredith Herbert (chwaer Dafydd) drwy ganu ei hoff emynau yn ei hangladd ddydd Iau, Mawrth 25ain yn Eglwys St Michael yn Huyton. Roedd yr eglwys yn orlawn a'r parch tuag ati yn llifo yn y canu, yn enwedig yn yr unawd gan Clarence. Mawr fydd ei gwobr yn y nefoedd.
Hogia'r Ddwylan
Mae Hogia'r Ddwylan wedi cael naw mis llwyddiannus iawn. Ym mis Gorffennaf bu'r Hogia yn fuddugol yn Ng诺yl Fawr Aberteifi ac ym mis Awst y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Ddiwedd y flwyddyn cipwyd y wobr gyntaf yng ng诺yl gorawl gogledd Cymru yn Llandudno.
Ym mis Mawrth aeth yr Hogia drosodd i Goleraine yng Ngogledd Iwerddon a dod adref gyda'r wobr gyntaf yn yr adran i Gorau Meibion. Mae'r c么r yn mynd o nerth i nerth o dan arweinyddiaeth Ilid Anne Jones. Edrychwn ymlaen am y CD sydd ar y ffordd.