1 Ionawr - Creuwyd Cymanwlad Awstralia gydag Edmund Varton yn Brif Weinidog cyntaf y wlad newydd. 22 Ionawr - Bu farw'r Frenines Fictoria. 31 Mawrth - Cyflwynodd Cwmni Daimler eu car arloesol newydd, y Mercedes. 18 Mai - Tywyllwyd rhannau o'r byd gan ddiffyg llwyr ar yr haul. 24 Mai - Ffrwydrad Glofa'r Universal, Senghennydd - lladdwyd 81 o weithwyr. * 18 Mehefin - Ganwyd Annie Mary yn 3ydd o bum plentyn i William a Mary Williams, Ty'n Pwll. Roedd ganddi bedwar brawd - Owen John, William, Richie ac Edwyn. 24 Mehefin - Cynhaliwyd arddangosfa gyntaf o waith Pablo Picasso. 14 Medi - Bu farw William Mckinley, Arlywydd UDA wyth diwrnod wedi iddo gael ei saethu. 2 Hydref - Lansiwyd llong danfor gyntaf Y Llynges Frenhinol. 30 Tachwedd - Cyflwynwyd cymorth clyw cyntaf i'r byd. 10 Rhagfyr - Dyfarnwyd Gwobrau Nobel cyntaf erioed. 11 Rhagfyr - Anfonodd Guglielmo Marconi signal radio ddwy fil o filltiroedd o Gernyw i Newfoundland.
|