|
Mae'r gofeb i gofio am y Dywysoges Gwenllian 1282-1337, unig blentyn i Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Eleanor de Montfont. Carcharwyd hi mewn lleiandy yn Sempringham am 54 o flynyddoedd dan orchymyn y brenin Edward 1af er mwyn sicrhau llinach
Tywysogion Cymru.
Roedd pawb wedi eu cyffwrdd gan yr ymweliad a gosodwyd blodau gerbron y gofeb a chanwyd yr Anthem Genedlaethol.
Fore Sul, yng nghwmni aelodau o Eglwys St George cafwyd gwasanaeth gydag aelodau o'r clwb yn cyflwyno emynau, darlleniad a gweddi. Gwefreiddiol oedd clywed y Gymraeg yn diasbedain ar furiau'r Eglwys.
Dymunwn ddiolch i Nigel a Nan Davenport am ein croesawu i Sempringham ac am ein tywys a chyflwyno hanes Gwenllian yn eu ffordd hynod ac unigryw.
Hoffem ddiolch hefyd i'r Parchedig Tegid Roberts am ei ymweliad a'r c1wb cyn y daith i sicrhau ein bod yn gyfarwydd 芒 hanes Gwenllian.
Cafwyd taith fythgofiadwy. Cefnogwyd y daith gan 'A Bawb'.
|
|
|
|
|
|