Does dim dwywaith mai'r wiwer goch ydi un o'n mamaliaid harddaf ni ac yn un y gwyddom ni sydd wedi bod yng Nghymru ers diwedd Oes yr l芒 diwethaf, tua deng mil o flynyddoedd yn 么l.
Mae hi hefyd yn greadures fach sydd dan fygythiad enbyd gan y wiwer lwyd.
Dechreuodd Prosiect y Wiwer Goch ym M么n, dan adain Menter M么n, ddeng mlynedd yn 么l pan benodwyd Dr Craig Shuttleworth i ofalu am y prosiect ac i weld beth yn union oedd sefyllfa'r wiwer goch yma.
Cyn iddo gychwyn ar y prosiect, roedd yna gred fod yna wiwerod coch ar 么l ar Fynydd Llwydiarth ac yng Nghoedydd Niwbwrch.
Y peth cyntaf wnaeth o oedd mynd ati i weld faint yn union o wiwerod coch oedd ar 么l ym M么n a chael mai deugain yn unig oedd yng Nghoed Llwydiarth ac nad oedd dim yn weddill yng Nghoedydd Niwbwrch. Sefyllfa argyfyngus ac eto roedd hi'n well ym M么n nag mewn sawl man arall yng Nghymru.
Felly, dyma fynd ati i gychwyn wrth ei draed a thrapio'r gwiwerod oedd yn byw yn y coed ar Fynydd Llwydiarth. Roedd pob gwiwer lwyd roedd o'n ei ddal yn cael ei difa neu yn cael ei hanfon ar gyfer gwaith ymchwil. Roedd pob gwiwer goch, ar y llaw arall, yn cael tatw bychan y tu mewn i'w chlust ac yna ei rhyddhau yn 么l i'r gwyllt.
Mewn dwy flynedd, roedd nifer y gwiwerod coch ym M么n wedi codi i gant.
Gan mai'r cyfan wnaeth Craig Shuttlewroth oedd symud y gwiwerod llwyd o Goed Llwydiarth roedd hyn yn dangos yn berffaith glir mai nhw oedd y bygythiad mawr i'r wiwer goch. Unwaith roedd y wiwer goch yn cael chwarae teg, roedd hi'n dychwelyd i'w chynefin naturiol.
Hwn oedd y tro cyntaf drwy Ynysoedd Prydain i'r wiwer goch lwyddo i adfeddiannu darn o'i chynefin ar 么l i'r wiwer lwyd ei ddwyn oddi ami. Yn fwy na hynny, fe welwyd fod y gwiwerod coch yn lledaenu o'r coed conifferaidd ar Fynydd Llwydiarth i'r coed llydanddail ym Mhlas Gwyn ac yn Wern y Wylan.
Erbyn dechrau 2000, roedd yna tua chant o wiwerod coch ar Fynydd Llwydiarth a'r dybiaeth oedd mai tua'r nifer yma o wiwerod coch y gallai'r coed confferaidd yno eu cynnal. Y gobaith ydi y byddan nhw'n symud o Goed Llwydiarth i goedlannau eraill ym M么n, ond er mwyn sicrhau rhwydd hynt iddyn nhw, mae'n rhaid trapio a difa yr holl wiwerod llwyd sydd ar yr ynys - tasg nid ansylweddol!
Fe gychwynwyd hefyd ar brosiect ail gyflwyno'r wiwer goch i goedwig Niwbwrch. I ddechrau, wrth gwrs, roedd yn rhaid cael gwared 芒'r gwiwerod llwyd yn llwyr o'r goedwig hon ac fe wnaed hynny yn ystod 2003.
Yn 2004 y dechreuodd y cynllun ailgyflwyno a dim ond y cywion, sy'n cael eu geni i'r gwiwerod sydd wedi'u magu mewn caetsys yn ddwfn yng nghoedig Niwbwrch, sy'n cael eu rhyddhau i'r gwyllt. Ym mis Medi y flwyddyn honno, rhyddhawyd y tair ar hugain i'r gwyllt ac yn fuan iawn fe ddechreuodd y gwiwerod coch ifanc yma ledaenu drwy'r goedwig.
Ers 2004 mae rhai ymwelwyr 芒'r goedwig wedi bod yn ddigon ffodus i gael cipolwg cyflym ar rai o'r gwiwerod bach coch hudolus yma. A dwi ddim yn siwr pwy sydd wedi cael y sioc fwyaf - y nhw neu'r gwiwerod!
Eleni fe wnaed cyfrif o'r gwiwerod coch a'r newyddion da ydi fod yna tua chant o wiwerod coch yn byw'n wyllt yn Niwbwrch a thua chant arall yng Nghoed Llwydiarth.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prosicet y Wiwer Goch ym Mon wedi gwneud cytundebau ag amaethwyr a thirfediannwyr i gael mynediad i'w tir i osod trapiau i ddal a difa'r gwiwerod llwyd er mwyn cael yr ynys yn gyfan gwbl rydd o'r gwiwerod llwyd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r amaethwyr hynny am gydweithredu hefo ni.
Wrth edrych i'r dyfodol mae Cyfeillion Gwiwerod Coch M么n yn gobeithio y bydd trigolion yr ynys yn gallu gweld gwiwerod coch yn adfeddiannu'r coedydd mewn sawl lle.