Ar 么l cyfnod fel cadet ym Mangor, ymunodd Gareth Osmond Jones 芒 Heddlu Gogledd Cymru ym mis Awst 1974 gan gymryd rhif ei dad - 26, sydd wedi bod yn y teulu ers 1962. Yn wreiddiol o Lanegryn ym Meirionnydd, gweithiodd Gareth ym Mhwllheli, Abersoch a Llangefni cyn symud i'r adran draffig. Cafodd ei ddyrchafu'n Rhingyll ym 1985 gan weithio yn Llangefni, Porthaethwy a Chaergybi ond dychwelodd i'r adran draffig yn eithaf buan. Yn 1997 fe'i dyrchafwyd yn Arolygydd ac yn 2003 daeth yn rheolwr yr Adran Adnoddau Dynol yn yr Adran Cefnogaeth Weithredol. "Rwyf wedi cael lot o bleser yn gweithio i'r adran draffig, ond rwyf wedi gweld nifer o ddamweiniau erchyll," meddai gan gofio damwain yn 1991 pan laddwyd 8 o bobl ym Mhentraeth. Pan ofynnwyd iddo am atgofion doniol, soniodd Gareth am ei gyfnod fel swyddog ar brawf panarestiodd ddyn t芒n oedd yn cario radio yn ei law dde tra ar ei ffordd i argyfwng. "Ro'n i'n meddwl ei fod wedi dwyn y radio a'i fod yn trio rhedeg i ffwrdd!" meddai. Er ei fod wedi ymddeol fel swyddog gyda'r heddlu, dychwelodd i swydd fel Ymgynghorydd Lleihau Gwrthdrawiadau er mwyn rhannu ei wybodaeth. Gan na fydd yn gweithio oriau maith ar alwad bellach, mae Gareth yn bwriadu treulio mwy o amser gyda'i wraig, Llewela, a'i blant Dylan ac Elen yn ei gartref yn Rhosmeirch. Mae hefyd yn gobeithio ymuno 芒 ch么r, cerdded mynyddoedd Eryri a chwarae mwy o golff. "Rwyf wedi mwynhau f'amser fel swyddog heddlu a dwi'n ffodus iawn o fod wedi cael gweithio yn y rhan fwyaf o ogledd orllewin Cymru. Ond dwi'n edrych ymlaen at beidio cael galwadau ff么n am 2 a 3 o'r gloch y bore yn gofyn i mi fynd i ddamweiniau drwg."
|