Yna drwodd â mi - roedd popeth yn iawn. Diolch fod yna bobl o hyd yn gwneud y gwaith yn drylwyr pan mae llygaid carfan yr Al-Quaida mor barod i daro. Wedi hedfan drwy'r nos cyrraeddasom faes awyr Ezeia yn Buenos Aires. Yno yn ein disgwyl roedd dwy ferch hawddgar, Verginia Moran a Geraldine, merch Monica Jones, o'r Gaiman oedd yn siarad Cymraeg. Cyn cychwyn am Westy'r Impala cawsom fanylion ganddynt am y ddinas fawr. Buenos Aires yw prif ddinas yr Ariannin gyda thair miliwn o bobl yn byw mewn 78.3 milltir sgwâr (cymaint â phoblogaeth Cymru) gyda chyfanswm o ddeg miliwn a chymryd yr ardal allanol. Dim rhyfedd fod yna heddweision arfog bob cornel i'r stryd bron. Gan mai hanner awr wedi saith y bore y bu i ni landio, ychydig iawn o amser oedd gennym i ymlacio cyn cychwyn eto am dri o'r gloch y pnawn ar daith o amgylch y ddinas. Roedd yn agoriad llygad i weld yr adeiladau marmor gwych ac ar yr ochr arall y tai tlawd. Y man cyntaf y bu i ni ymweld ag o oedd Cadeirlan y Metropole yn ei farmor ond eto roedd plant ac oedolion yn begera yn y fynedfa fel yr esgynem o ris i ris. Wedi treulio peth amser yn y Gadeirlan yn rhyfeddu at yr addurniadau ysblennydd, ymlaen â ni i Stadiwm y La Boca mewn rhan arall o'r ddinas. Dyma lle y bu i'r pêl-droediwr enwog, Diego Maradona, gychwyn ei yrfa. Er i lawer o flynyddoedd fyned heibio, mae ei enw yn dal mor fyw ag y bu erioed. Roedd capiau, crysau a phob math o bethau yn cario ei enw. Fe gofiwn ninnau amdano pan ddywedodd mai llaw Duw fu'n gyfrifol i'r Ariannin ennill Cwpan y Byd. Mae'r seren erbyn heddiw wedi diffodd a thywyllwch drygiau wedi pylu ei feddwl. Y diwrnod yma daeth adroddiadau ar y teledu a'r wasg ei fod yn wael iawn. Roedd yr adroddiadau yma yn dal i sôn amdano fel y brenin. Ymlaen â ni eto drwy'r ddinas brysur, heibio i Lysgenhadaeth llawer gwlad, banciau, amgueddfeydd a chofgolofnau oedd yn hynod o lân, heibio'r obelisc sy'n sefyll yn rhodfa Naw de Julio sef y stryd letaf yn y byd. Ni fuasai'n hymweliad yn gyfan heb i ni arwain ein cerddediad i fynwent La Ricoleta lle mae gweddillion Eva Peron sef priod Arlywydd yr Ariannin Juan Domingo Peron, 1895-1974. Fe gipiodd rym llywodraethol yn 1943 ac fe'i etholwyd yn Arlywydd yn 1946, yna yn 1951. Fe'i halltudiwyd ar ôl y chwyldro yn 1955. Daeth yn ôl i'r Ariannin a chael ei ethol eto yn 1972 yn Arlywydd. Yn siŵr fe gofiwn am y ffilm Evita oedd yn rhoddi'r stori yn gryno i ni. Fel y dychwelem o fysg y beddau marmor oedd yn debyg i dai bychain gwelem lawer o gathod yn cael eu bwydo gan wraig yn ymyl y brif fynedfa. Pam tybed? ... i'w barhau. Eurfron
|