Braint a mwyniant oedd cael Rhys Meirion a Mary Lloyd Davies yn unawdwyr. Roedd pawb wedi gwirioni gyda'r perlau 'Yn Bedair Oed" a "Chraig yr Oesoedd".
Cawsom ddatganiad o'r ddeuawd boblogaidd "Hywel a Blodwen" na chafwyd ei thebyg o'r blaen a'r gynulleidfa yn y capel orlawn yn dangos eu mwynhad a'u gwerthfawrogiad.
Roedd y corau ar eu gorau gydag Ann Allman, Richard Griffiths, Willie Roberts a George Lander yn unawdwyr a'r tri卢awd Owen John, Robin a Trefor yn ein swyno a charolau hen a newydd.
Cyflwynydd y noson oedd Donald Glyn Pritchard. Rhoddodd ysgafnder a hiwmor i'r cyngerdd yn ei ffordd radlon ei hun gan wneud pawb, yn artistiaid a chynulleidfa, yn gartrefol ac yn falch o gael bod yno.
Llywydd y noson oedd Margaret Hughes, Llwydiarth Fawr. Gwraig hynod o weithgar ac annwyl gan drigolion y Llan.
Dangosodd ei gwerthfawrogiad o fod yn llywydd y noson drwy roi swm anrhydeddus iawn i Gronfa Atgyweirio Festri CapeI Ifan. Diolch yn fawr iawn i chwi Margaret a Richard eich priod.
Talwyd y diolchiadau gan Linda'r Hafod yn ei ffordd gartrefol ei hun.
Yn bresennol yn y gynulleidfa oedd Dilys Lunt Roberts (Pwllgynnau gynt). Cyfeiriodd Donald Glyn at y biano newydd sydd yn y capel a gyflwynwyd yn rhodd i'r achos gan Dilys.
Cyfeilyddes y noson oedd Gres Pritchard a fu'n hynod o brysur. Hyfryd oedd clywed Rhys Meirion yn cyfeirio ati fel 'Super Star' yn gallu eistedd wrth y piano a chwarae mor fendigedig heb ymarfer ymlaen llaw.
Trefnwyd y noson gan Gres ac Evie Jones. Cyflwynwyd blodau gan blant yr Ysgol Sul a threfnwyd gwledd o luniaeth wedi'r cyngerdd bythgofiadwy.
Bu Lleisiau Llannerch yn canu yn Ysbyty Gwynedd cyn y Nadolig a mawr fu'r canmoliaeth.
Buont hefyd yn diddori aelodau Cymdeithas Lon y Felin nos Fercher, Chwefror 14eg dan arweiniad Gres Pritchard.
|