Pan ddywedodd Dewi, Blaen y Wawr wrthyf noson plygu rhifyn Mehefin o'r Glorian mai hwnnw fyddai'r ola' o weithdy Owie Jones, tybiais mai tynnu fy nghoes yr oedd. Y bore Gwener canlynol es i fyny Stryd y Bont a'r hyn a welais yno oedd yr hyn a welir yn y llun uchod. A llinell ola' cerdd R. Williams Parry i'r "Llwynog" ddaeth ar amrant i'r cof. Ni allwn goelio fy llygaid, ond oherwydd fod y gweithdy ac adeiladau cyfagos yn Stryd y Bont yn llwybr y l么n arfaethedig drwy'r cae s锚l ac ymlaen i'r Stad Ddiwydiannol, nid oedd gan Gwen a David ond un dewis - cau y siop. Ac os oes rhywun o fysg gwyr busnes tref Llangefni yn haeddu ymddeoliad cynnar, yna Gwen a David yw dau o'r rheini.
Rhyw 12-15 mlynedd yn 么l y deuthum i yn ymwelydd cyson 芒'r gweithdy. Ers hynny, rwyf wedi mwynhau mynd yno bob tro. Fel cwt y crudd ac efail y gof a sawl un o siopau bach ein pentrefi ers talwm nid mynd yno yn unig i n么l neu brynu rhywbeth yr oeddech. Roeddech hefyd yn siwr o gael sgwrs ddifyr hefo'r perchennog a chyda cyd-ymwelwyr eraill. Roedd y byd yn cael ei roi yn ei le yno yn siwr, hefyd caech glonc neu ddwy! Eilbeth oedd trafod busnes ac heb yn wybod roeddech wedi treulio chwarter awr a mwy yno. Lle felly oedd palas Gwen a David yn Stryd y Bont, ac roedd ei gweithwyr oll o'r un anian hefyd.
O'r gweithdy hwn y daeth pob un copi o rifynnau Y Glorian dro gyfnod o 25 mlynedd a mwy. Tipyn o gamp onide, ac ar ben hynny pob rhifyn yn gymen a chwir, o safon uchel iawn ac wedi eu cyrchu i'r canolfannau plygu, (Gaerwen, Llangefni, Talwrn, Rhostrehwfa a Rhosmeirch) cyn i'r plygwyr cyntaf gyrraedd yno. Hyn ar waethaf rhai o ohebwyr y Glorian, a rhai o'r swyddogion, wedi sleifio i mewn i'r swyddfa hefo 'Stop Press' go bwysig yn eu tyb hwy. Derbyniwyd y rhain i gyd gyda gw锚n gan Gwen, dim gwg na siars.
Gan mai dweud 'Diolch yn fawr' yw'r drefn arferol pan yn ceisio datgan, mewn geiriau, deimladau'r galon am wasanaeth a chymwynasau lu, rhaid i mi gyfaddef nad yw geiriau felly yn ddigonol o bell ffordd i ddatgan teimladau fy nghyd-swyddogion a hefyd, mi dybiaf, holl ddarllenwyr Y Glorian. Pe bawn i'n fardd fe luniwn 'Awdl o Foliant' a 'Chywydd o Fawl' i chwi.
Gan nad wyf yn fardd rhaid bodloni ar 'Can diolch a mwy Gwen, David, Gwenda, Nia, Gerallt ac Alun am eich ymroddiad dros y blynyddoedd i achos 'Y Glorian.' Dymunwn pob bendith a hapusrwydd i bob un ohonoch i'r dyfodol ac yn arbennig felly i Gwen a David.
Wn i ddim pwy o F么n sy'n sibrwd yn achlysurol yng nghlust swyddogion yr Eisteddfod a'r Orsedd. Mi gredaf fod Gwen a David dros y blynyddoedd wedi cyfrannu yn aruthrol tuag at gynnal llenyddiaeth Gymraeg gyda'r holl bapurau bro, llyfrau o naws lleol, adroddiadau eglwysi a chymdeithasau ac yn y blaen, a gynhyrchwyd yn Stryd y Bont dros yr hanner can mlynedd diwethaf.
Argraffwyd y rhifyn hwn yng ngweithdy W. O. Jones yn Llangefni, cangen o'r un goeden deuluol eto. Rydym yn edrych ymlaen at flynyddoedd lawer o gyd-weithio yr un mor hapus gyda'r gweithwyr yno. Diolch yn fawr Mr Jones.
Ifan Wyn Williams