成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Y Parch O. R. Parry Coff芒d: Parch O. R. Parry
Hydref 2005
"Ar arferion Cymru gynt
Newid ddaeth o rod i rod"
... meddai Ceiriog, ac un newid mawr amlwg yn y byd crefyddol heddiw yw prinder ymgeiswyr am y weinidogaeth.

Ym 1938 roedd yna oddeutu deunaw o ymgeiswyr yn Sir F么n yn unig, ac yn nechrau 1939 fe ychwanegwyd pedwar arall atynt. Dyna pryd y gwelais i Owen Richard Parry am y tro cyntaf. Pedwar ohonom, O. R. Parry o Fodffordd, Huw Jones o Rosbeirio, Glyn Peris Jones o Lanfechell a finnau o'r Fali yn cyfarfod yn Festri Tabor, Y Fali i eistedd arholiad y Bwrdd Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, cyn ymddangos gerbron y Bwrdd yng Nghaer yn ddiweddarach. Fe fu'r pedwar ohonom yn ffodus i basio'r arholiad a chael ein derbyn fel ymgeiswyr ar brawf a'n hanfon i Goleg Clwyd yn y Rhyl.

Roedd gan Miss Jones, oedd yn cadw T欧 Capel yn y Fali chwaer oedd yn byw yn Llangefni a gair uchel iawn ganddi i'r llanc ifanc o eglwys y Gad, Bodffordd oedd ar y pryd yn gweithio i hen gwmni E. B. Jones a thrwy ryw gysylltiadau fel yna y trefnwyd i mi gydletya hefo Dic Parry (fel yr adnabyddid ef gan ei gyfeillion).

Yn ddiweddarach buom yn rhannu llety hefo Meredydd Evans, llanc ifanc o Danygrisiau, a dyna gychwyn cyfeillgarwch sydd wedi para hyd heddiw. Fe fuom yn cydletya hefo'n gilydd am bedair blynedd yn y Rhyl a Bangor, ac rydw i'n ystyried fy hun yn ffodus iawn fy mod wedi cael y fraint o rannu y blynyddoedd yma gyda dau a ddaeth i'r amlwg yn eu gwahanol feysydd - Mered (Dr Meredydd Evans, Cwmystwyth) fel athronydd ac awdurdod ar ganu gwerin, a Dic a ddaeth i'r brig fel pregethwr mawr a phregethwr oedd Dic yn anad dim. Cofier mai nid mynd i'r Weinidogaeth roeddem ni yn y pedwar degau ond mynd yn bregethwyr - y pulpud oedd yn ein denu.

Nid oes ofod, ac yn wir nid dyma'r lle, i s么n am hwyl a miri, a throeon trwstan dyddiau diofal coleg ond yn sicr nid anghofir byth chwerthiniad iach, rhyfeddol o heintus Dic!

Fe newidiodd Mered ei gwrs ac fe'i penodwyd yn athro athroniaeth yng Ngholeg Harlech. Fe gafodd Dic alwad i Dregarth a finnau i Lanbrynmair. Y fi briododd gyntaf hefo Menna o Roscefnhir ym 1947 a Dic yn was priodas inni. Ymhen blwyddyn priododd Dic hefo Menna o Dreffynnon a minnau yn was priodas iddynt.

Buan iawn y daeth Dic i'r amlwg fel pregethwr Cyrddau Mawr, a bu galw arno i wasanaethu mewn sawl Sasiwn a Chymanfa ar hyd y blynyddoedd, Yn y pulpud roedd ei bersonoliaeth hawddgar a'i lais cyfoethog a'i hiwmor cynnil yn gymorth mawr iddo, a'i neges bob amser yn gyfoes, a'i eglurebau yn ddifeth yn taro deuddeg a'i draethu yn ddiffuant a rhyw angerdd tawel yn cyffwrdd ei gynulleidfa bob amser.

Wedi bwrw ei brentisiaeth yn Nhregarth, ac yntau bellach yn dad i ddwy eneth ifanc, Morfudd a Delyth, derbyniodd alwad i Drawsfynydd. Roeddwn i yn weinidog erbyn hyn yn Nazareth a'r Fron, Penrhyndeudraeth ac yn hynod o fa1ch o groesawu Dic i Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Dyma pryd y sylweddolais i mai nid pregethwr yn unig oedd fy nghyfaill ond ei fod yn fugail ardderchog a gofalus, yn barod i helpu i ddwyn y cynhaeaf i ddiddosrwydd mewn aml i ffarm yn y fro. Mi glywais sawl un yn y Traws yn dweud fod ymweliadau Mr Parry cystal a photel o ffisig hawdd y gallaf gredu!!

Ei symudiad olaf oedd i Fethania, Rhuthun, lle y bu yn hynod o weithgar a llwyddiannus am chwarter canrif hyd ei ymddeoliad.

Gwnaeth waith cofiadwy fel Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Sasiwn y Gogledd am flynyddoedd mewn cyfnod anodd yn hanes y Cyfundeb a phan etholwyd ef yn Llywydd Sasiwn y Gogledd fe gyflawnodd y swydd gydag urddas a doethineb, a'r ffraethineb oedd mor nodweddiadol ohono yn ysgafnhau pethau pan fyddai galw!

Daliodd i bregethu ac i ddarlithio'n hynod o ffraeth a derbyniol, ac i farddoni peth, nes i'r afiechyd blin a'i goddiweddodd ar derfyn ei oes ei drechu a'i ddistewi'n llwyr.

Diolch i bawb ac i'w deulu yn arbennig am eu ffyddlondeb iddo yn ystod ei gystudd, ac am ei warchod yn ofalus hyd y diwedd. Mae ein cydymdeimlad yn gywir iawn 芒 Menna, Morfudd a Delyth a'u plant oedd mor agos at ei galon, Lowri, Huw, Nansi a Mared a Rhun.

Roedd Dic yn gymeriad na fydd yn hawdd ei anghofio, ac yn ffrind arbennig iawn, iawn.

"Doe'n ddiddan yn ein canol
Heno rhaid wylo ar d'ol" (R.WP.)

Emrys W Thomas (Parch.), Caernarfon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy