Dyma a ddywed yn ei llith ddiwethaf i'r Glorian: "Dyma fy erthygl olaf i'r Glorian. Mae tros ugain mlynedd yn amser pur faith ac ni fu yn hawdd cael testun bob mis.
"Felly, rhag i mi eich diflasu, rwyf am roi'r ffidil yn y to gan ddiolch i bawb, heb enwi neb, am eich caredigrwydd a'ch geiriau caredig bob amser.
"Ia, dio1ch yw fy ngh芒n am bapur bro sydd wedi rhoi cyfle i mi ysgrifennu a chael mwynhad.
"Rwyf am derfynu hefo rhyw benillion bach syml fel hyn, sydd yn mynd a fi yn 么l i gyfnod bore oes fel arfer.
Mam a'r Straeon
yn Heulog Fain, Talwrn (fy nghartref)
Pan oeddwn i yn blentyn bach
Fe glywais straeon lu
Adroddai mam i mi fin nos
Tra'n eistedd yn y t欧
Yn ddiddos yn y gegin fach
Wrth danllwyth braf o d芒n,
Y straeon yn byrlymu'n rhwydd
A mam mewn barclod gl芒n.
Roedd lamp yn oleu ar y bwrdd
A'r gath yn canu grwndi
Tra'n meddwl am y llygod lu
Ddoi allan wedi'r nosi.
Daeth Eira Wen, yr eneth dlos
Gan rodio wrth ei hunan
A chafodd waith yn cadw t欧.
I'r hen gorachod bychan.
Yr eneth ddel a'r gwallt lliw aur,
Un annwyl iawn oedd hi
Bu'n profi'r uwd yn nh欧'r dair arth
Ac aeth i'w gwely plu.
Hansel a Gretel a'u t欧 del.
Y tri hen fochyn bach
A Jac a fu yn dringo'r ffa
Yn llencyn llon ac iach.
A Sinderela deg ei gwedd
Mewn hen ffrog ddigon budur
Ond, mynd i'r ddawns a gafodd hi
Mewn p芒r o sgidiau gwydr.
Daeth geneth fach y clogyn coch
A'r hen wrach hyll a main.
A'r hen flaidd mawr - y cyfan 么ll
I gegin Heulog Fain.
Fe gofiaf am y straeon hyn
Ac am ddawn dweud gwych mam
Dim ond cau llygaid raid i mi
Daw ataf fesul cam.
Ac af yn 么l i'r amser gynt
Yn blentyn bach dinam
Gan brofi'r wefr, fel gwnes sawl tro
Tra'n eistedd ar lin mam.
Mary Evans
Ond, ni allwn ni aelodau'r Bwrdd Golygyddol adael i'r achlysur hwn fynd heibio heb gael datgan ein diolch, ein gwerthfawrogiad a hefyd cyfeirio at y ddyled enfawr sydd arnom i Mary Evans am ei ffyddlondeb i'n papur bro am dros ugain mlynedd.
Diolch yn fawr iawn, Mary, gobeithiwn y gwnewch fwynhau oriau o eistedd yn y gadair gyfforddus sydd yn y llun heb orfod poeni am gyfraniad arall i'r Glorian.
Ond cofiwch, os y bydd i'r chwilen gyfansoddi ddod ar ei hawld fe fydd lle i'ch cynnyrch bob amser rhwng cloriau ein papur.
Ein hanrhydedd a'n pleser ni yw rhoi gofod tudalen flaen
rhifyn hwn yn gyfangwbl i lith ddiwethaf Mary
(hyd yma).
Fel y gwelwch mae wedi amlygu dawn arall sydd ganddi sef barddoni.
Coro Eisteddfod M么n cyn diwedd y ddegawd Mary?
Oddi wrthym i gyd, yn weithwyr Y Glorian darllenwyr selog y papur diolch yn fawr iawn.