Roedd awyrgylch arbennig o braf ym Mharti Pandy gyda'r crefftwyr coed yn brysur a theithiau tywys i Nant y Pandy yn rhoi pleser. Ar brif lwyfan yr Wyl cafwyd perfformiadau da brynhawn a nos Sadwrn. Gwnaeth Baldande o Gaerfyrddin argraff gyda'u caneuon gwerin/roc bywiog ddiwedd y prynhawn, cyn i'r Wyl dynnu at ei therfyn trwy gyfres o berfformiadau cryf gan Paccino, Bysedd Melys, Estella, Crasdant, Mim Twm Llai a Celt. Roedd y dyrfa o flaen y llwyfan yn bownsio i ganeuon cyhyrog Mim Twm Llai a Celt. Bydd gwaith paratoi at Wyl 2003 yn cychwyn yn fuan. Mae Gwyl Cefni yma i aros ac yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau M么n. Dylan Morgan
|