Mae'r system newydd yn caniat谩u i staff yr ysgol allu cysylltu 芒 rhieni plant sydd yn absennol ar y diwrnod cyntaf drwy gyfrwng e-bost, testun neu alwad lleisiol. Eleni, mae'r Cynulliad wedi gosod targed i leihau absenoldeb mewn ysgolion o'r lefel oedd yn 2003-03 sef 9.5% i 8%. Mae Ysgol Gyfun Llangefni - ysgol gyda dros 800 o ddisgyblion - yn cymryd camau pendant i gyrraedd y nod yma. Mae dros 1,000,0000 blant yn absennol o ysgolion bob blwyddyn. Mewn un diwrnod mae 50,000 o blant heb fod yn yr ysgol a chyda 8 miliwn diwrnodau ysgol wedi eu colli ar draws y DU bob blwyddyn mae absenoldeb heb ganiat芒d yn bwnc llosg ym myd addysg. Unwaith y mae wedi ei sefydlu mae system 'Truancy Call' yn galw'r rhieni yn awtomatig nes bydd ateb wedi ei gael. Unwaith mae rhiant wedi ateb yr alwad bydd y galwadau am y diwrnod hwnnw yn stopio yn awtomatig. Nid oes angen i'r ysgol fuddsoddi mewn sustem ff么n newydd, llinellau newydd na chyfrifiadur newydd. Dywedodd Mr Haydn Davies, Prifathro Ysgol Gyfun Llangefni: "Mae gosod ''Truency Call' wedi gwneud gwahaniaeth mawr i absenoldeb disgyblion. Roedd yn rhaid i ni gael sustem a fyddai'n galw'r rhieni mewn Cymraeg a Saesneg gan fod y mwyafrif o'r plant o gefndir Cymraeg. "Rydym wedi cael adwaith dda gan y rhieni i'r sustem gan ei fod yn eu hatgoffa fod angen dweud wrth yr ysgol yn syth os fydd eu plentyn yn absennol. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi lleihau'r amser yr oedd yr ysgol yn ei wario yn cysylltu 芒 rhieni. Gynt roedd yn rhaid i ni gysylltu 芒 phob rhiant ar wah芒n ond yn awr dim ond pwyso botwm sydd raid ac mae'r system yn gwneud y gwaith i ni".
|