Oherwydd diffyg presenoldeb yn y gymdeithas y misoedd diwethaf fe benderfynodd yr ychydig aelodau o'r "Hogia" mai dod i'r gweithgareddau i ben fyddai yr unig ateb ac felly gyda thristwch terfynwyd y mudiad ym mis Ebrill. Yn ystod y cyfarfod olaf fe gyflwynodd y swyddogion ddwy siec yn Nant yr Odyn, un i'r Ambiwlans Awyr (拢500) ac un i Fad Achub Moelfre (拢450). Mae llawer mudiad gwirfoddol wedi cael gymorth gan yr 'Hogia' dros y blynyddoedd ac yn wir fel dywedodd un o'r aelodau: "Peth pleserus iawn oedd cael cyflwyno siec yn enwedig i elusennau lleol". (Clywch, clywch). Casglwyd ymhell dros 拢90,000 yn ystod y cyfnod bu'r 'Hogia' mewn bod yn cynnwys siec o 拢13,000 i 'Ap锚l Cancr Ysbyty Gwynedd' ar 么l y daith (flinedig, ond pleserus iawn) i n么l gwin o Ffrainc. Mae'r hogia yn diolch o galon i deulu a staff Glantraeth, Bodorgan, a fu'n edrych ar eu h么l yn y blynyddoedd cynnar ac wedyn i berchnogion a staff Nant yr Odyn am eu caredigrwydd yn ystod y blynyddoedd olaf. Diolch i'r rhai fu mor weithgar yn y gorffennol, yn aelodau a chyn aelodau ac yn enwedig i'r criw bach a fu mor ffyddlon i'r diwedd. Diolch i'r cefnogwyr ym mhobman, y rhai a fu yn ein noddi ac hefyd drwy gyfrannu'n ariannol. Diolch o galon.
|