Gresyn fod y polion a'r ffensys haearn ar y strydoedd mewn cyflwr mor fler - llawer wedi eu taro a'u plygu - pwy fydd yn talu am eu trwsio tybed? Go brin mai'r rhai a'u hachosodd! Gwelaf fod gwaith mawr yn digwydd ar y gylchfan ar ben draw'r Stad Ddiwydiannol - wal fawr gerrig - un gostus bid si诺r.
Deallaf fod traeniau newydd wedi eu gosod yno gan fod y ffordd yn dueddol o foddi ar dywydd mawr ond mai pwrpas y wal yw cynnal arwydd "Stad Ddiwydiannol Llangefni". Oes angen un d'wedwch, ac eto fyth pwy fydd yn talu?
Deallaf hefyd fod Swyddfa'r Cyngor Sir yn rhy fychan i'w phwrpas (diffyg gweledigaeth wrth gynllunio mae'n debyg).
Maent yn y broses o ychwanegu clamp o fynedfa newydd sbon a'r sgerbwd o goed moethus yn ei le eisoes. Ydi o'n wir fod hyn i gyd yn costio 拢800,000, a phwy sy'n talu?
Rwy'n mawr obeithio y bydd gan y Cyngor arian i osod palmant ar ryw dri chan llath o'r ffordd o goedwig Llyn Cefni i ben yr allt yn Rhosmeirch gan fod y rhan hon o'r ffordd yn wirioneddol beryglus i gerddwyr.
Un sy'n malio.
|