成人论坛

Help / Cymorth

Archifau Mai 2007

Byddwch barod i wylltio

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Iau, 31 Mai 2007

Sylwadau (10)


Mae Matthew Parris yn .

"Oh, I know. Another grumpy Englishman grumbling about bilingualism. And I do realise the use of a language can be out of courtesy and respect, not mere practicality. But in my enforced wait at Newport I never heard a single passenger speak Welsh. Ears rang with a constant stream of announcements repeated in two languages, taking twice as long to convey. There were twice as many notices stuck on walls and steel posts: these too had to be in both languages 鈥 the clutter of signage confusing the eye. Network Rail was doubling the time, space, noise and visual nuisance of public announcements, and hampering access to information, for whose benefit? The largest group of non-English-speakers using Newport station are probably Poles."

Diolch i Andy yn Melbourne am dynnu fy sylw at hwn. Ond dyw'r e-fyd yn fach?

Llunio'r llywodraeth

Vaughan Roderick | 14:21, Dydd Iau, 31 Mai 2007

Sylwadau (1)

Mae Rhodri Morgan newydd gyhoeddi ei gabinet gan ddewis bod yn geidwadol o safbwynt ei bobol ond yn radicalaidd wrth ddidoli'r gwaith. Does 'na ddim un aelod newydd yn y cabinet. Mae hynny'n syndod. Ydy Rhodri yn cadw dwy sedd yn wag yn sgil ymadwiad Alun Pugh a Sue Essex ar gyfer partneriaid clymblaid posib?

Y rhestr yn gyflawn;

Gweinidog Busnes a Chyllid; Jane Hutt. Hwn yw'r penodiad allweddol. Fe fydd Jane yn lysgennad i'r gwrthbleidiau gan ofalu am y meysydd lle mae mwyaf angen osgoi gwrthdaro - busnes y siambr a llunio cyllideb.

Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg; Carwyn Jones. Penodiad clyfar arall. Fe fyddai "gweinidog plesio Plaid Cymru" yn ddisgrifiad teg o'r swydd yma.

Gweindog Cefn Gwlad a Chynaladwyaeth; Jane Davidson

Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Cyhoeddus; Andrew Davies

Economi a Thrafnidiaeth; Dr Brian Gibbons

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Edwina Hart. A fydd aelod Gwyr yn fodlon cau adran niwroleg Abertawe?

Cyfrifoldebau Andrew Davies a Brian Gibbons yw'r syndod mwyaf. Mae gwireddu argymhellion adroddiad Beecham yn waith pwysig i Andrew ond go brin y bydd e'n blest i golli ei hen adran a gweld yr enw yn newid.

"The department of speed-dating" oedd llysenw gwatwarus yr adran Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau. Bydd 'na ddim colled ar ol yr enw yna!

Tu hwnt i'r clawdd

Vaughan Roderick | 11:57, Dydd Iau, 31 Mai 2007

Sylwadau (5)

Ac eithrio ychydig o flogio o adre (ydw dw i mor drist 芒 hynny!) dw i ar wyliau'r wythnos hon ac wedi cael cyfle i ddal lan a phethau y tu hwnt i swigen opera sebon y Bae. Mae Tony Blaid wedi cyhoeddi ei fod am fynd...wir yr. Mae Llafur yn cynnal etholiad i ddewis dirprwy arweinydd ac mae'r Tor茂aid wedi bod yn ymgecru yngl欧n ag ysgolion gramadeg.

Wrth gwrs os oeddech chi'n aelod o'r mwyafrif yng Nghymru sy'n dibynnu ar y cyfryngau Prydeinig am eu newyddion fe fyddwch yn gwybod llawer am y st诺r ynghylch ysgolion gramadeg a "city academies" er nad ydy'r naill na'r llall yn bodoli yng Nghymru. Ar y llaw arall fysech chi'n gwybod nemor ddim am y llywodraeth yng Nghaerdydd sy'n mynd i reoli talpiau helaeth o'ch bywyd chi am y pedair blynedd nesaf.

Mae diffyg diddordeb papurau a chyfryngau Llundain yn yr hyn sydd yn digwydd yng Nghymru yn hen g诺yn wrth gwrs. Mae'n anodd deall y rhesymeg newyddiadurol nac busnes sy'n gyfrifol am y sefyllfa.

O safbwynt newyddiadurol roedd y digwyddiadau yng Nghymru yn ddifyr i unrhyw un yn unrhyw ran o Brydain sydd 芒 diddordeb mewn gwleidyddiaeth. O safbwynt busnes ar y cyfan mae papurau Llundain yn gwerthu cymaint os nad mwy o gop茂au yng Nghymru na'r Alban. Eto'r Alban sy'n cael y driniaeth arbennig gyda rhifynnau rhanbarthol.

Ydy'r sefyllfa hynny yn debyg o newid? Yn anffodus nac ydy. Yr unig beth a allai newid y sefyllfa yw pe bai darllenwyr Cymreig papurau Llundain yn dechrau troi eu cefnau arnynt a dyw hynny ddim yn debygol.

Efallai y bydd pethau'n newid oherwydd y we ond does dim sicrwydd o hynny. Ar hyn o bryd mae'r Guardian yn buddsoddi'n helaeth i ddatblygu fersiwn rhanbarthol o'i safle fydd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a gwleidyddol un wlad arbennig. Da iawn. Nid Cymru yw'r wlad honno...ond yr Unol Daleithiau!

Penbleth y Blaid

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Sylwadau (11)

Wrth i Rhodri Morgan bendroni am ei gabinet penbleth arall sy'n wynebu arweinyddiaeth Plaid Cymru. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd Ieuan Wyn Jones a'i gefnogwyr yn gorfod argyhoeddi cymaint o aelodau'r blaid ac sy'n bosib mai'r "enfys" yw'r ffordd ymlaen.

Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl y bydd Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn cefnogi'r glymblaid arfaethedig. Ond, fel yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, mae maint y mwyafrif yn bwysig. Hynny er mwyn sicrh芒u bod yr aelodau cynulliad i gyd yn derbyn y canlyniad ac i brofi i'r rhai sy'n mwmian am hollti'r blaid y byddai hynny yn brofiad unig ac aflwyddiannus.

Ond mae 'na gwestiynau pwysig i'w hateb gan y ddwy garfan o fewn Plaid Cymru.

Mae'r cwestiwn pwysicaf i'r arweinyddiaeth, yn fy marn i, yn ymwneud 芒 sicrh芒u refferendwm ar bwerau deddfwriaethol i'r cynulliad. Mae angen deugain o bleidleisiau yn y cynulliad i wneud hynny. Tra bod 'na sicrwydd felly y byddai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn gallu delifro refferendwm does 'na ddim sicrwydd y byddai'r "enfys" yn gallu gwneud. Mae'n rhaid i Ieuan a'i gefnogwyr ddarbwyllo鈥檙 aelodaeth bod rhagoriaethau eraill yr "enfys" yn ddigon i gyfiawnhau peryglu'r posibilrwydd o bwerau deddfwriaethol.

Mae'r cwestiwn sy gen i i wrthwynebwyr yr "enfys" yn fwy athronyddol. Cyn belled a dw i'n gweld dyw eu gwrthwynebiad ddim wedi ei seilio ar gynnwys dogfen "Cytundeb Cymru Gyfan". Yr hyn a geir ganddynt yw dadl na ddylai dwy blaid sydd yn seiliedig ar "werthoedd" gwahanol gydweithio a'i gilydd. Y broblem sy gen i yw hyn - os ydy "gwerthoedd" Plaid Cymru a'r Tor茂aid mor wahanol i'w gilydd pam ar y ddaear oedd eu maniffestos mor debyg? Hynny yw os ydy'r gwahaniaethau polisi yn f芒n mae hynny naill ai yn golygu nad oes 'na fawr o wahaniaeth yn eu gwerthodd mewn gwirionedd neu fod y naill faniffesto neu'r llall, neu'r ddau, yn dwyllodrus.

Ydy chwith Plaid Cymru yn credu, mewn gwirionedd, bod gan y Tor茂aid rhyw faniffesto gudd i ddinistrio'r gwasanaethau cyhoeddus ar 么l sicrh芒u rhan mewn llywodraeth? Os mai dyna yw eu cred fe ddylen nhw ddweud hynny'n blaen.

Lincs

Vaughan Roderick | 09:57, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Sylwadau (0)

Wrth i gymaint o flogs gwleidyddol Cymraeg a Chymreig gau yn sgil yr etholiad (hwyl fawr i Chanticleer, Ian Titherington, Alun Pugh ac eraill) mae'n bleser i groesawi un newydd sef . Blog Saesneg yw hwn, hyd yn hyn, ond dw i'n synhwyro bod yr awdur yn Gymro Cymraeg.

Mae na ddigon o flogs yn dal i fynd, wrth reswm. Mae wedi penderfynnu cynnal polau piniwn wythnosol tra bod yn diawlio'r system gynllunio a hap-adeiladu. Yn wahanol i rai dyw ddim yn pwdu! Mae'n dal i ganlyn yr enfys.

Yn yr Unol Daliethiau mae newydd wedi agor yn "profi" bod y byd wedi ei greu chwe mil o flynyddoedd yn ol ac mae'r yn "dathlu'r" digwydddiad!

Cwis

Vaughan Roderick | 17:23, Dydd Mawrth, 29 Mai 2007

Sylwadau (2)

Does na ddim cwis newydd heddiw. Diffyg awen mae gen i ofn! Oherwydd fy mod wedi anghofio am y tim Rygbi roedd na sawl ateb cywir i "ddyn Cymru yn Awstralia" y cynrychiolydd swyddogol Gareth Davies oedd gen i ond mae na sawl Gareth posib arall gan gynnwys Gareth Jenkins a Gareth Charles. Fe ddaeth Bil yn agos at iawn at y rhestr gyflawn.

Dyn Cymru yn Awstralia - G. Thomas
Dyn Hawke ar lwyfan dramor - G. Evans
G. benywaidd - Ms G. Pierce
Gwas bach David(Wigley) y cyn A.S -
G. Thomas?
G. y cynulliad - G. Jones
G. y senedd - G.R.Thomas (Harrow)
Y G. a gollodd i Wil - G. Gates

Yn nhrefn y Wyddor:
GARETH : Evans, Gates, Jones, Pierce,
Thomas, Thomas, G.R.Thomas.

Da iawn Bill...ond cyfeiriad at "The Office" oedd "gwas bach David (Brent)". Yr ateb oedd Gareth Keenan

Problemau wrth benodi

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Mawrth, 29 Mai 2007

Sylwadau (9)

Er ei fod bellach, unwaith yn rhagor, yn brif weinidog megis cychwyn y mae problemau Rhodri Morgan. Y dasg gyntaf sy'n ei wynebu yw penodi cabinet a dyw gwneud hynny ddim yn debyg o fod yn broses hawdd.

Y dewis cyntaf sy'n wynebu Rhodri yw p鈥檜n ai i wneud newidiadau radicalaidd ai peidio. Fe fyddai'n bosib wrth gwrs i gadw pawb lle maen nhw a phenodi dau aelod newydd i swyddi Alun Pugh a Sue Essex. Fe fyddai John Griffiths yn b芒r saff o ddwylo fel gweinidog diwylliant, er enghraifft. Y broblem sy gan Rhodri yw hyn- a fyddai cymryd y llwybr diogel yn arwydd ei fod yn ystyried ei hun fel rhyw fath o ofalwr dros dro, yn cadw pethau i fynd wrth i'r broses o ddod o hyd i drefn fwy parhaol a sefydlog barhau.

Yr ail gwestiwn y mae'n rhaid i Rhodri ei ystyried yw sut mae delio a'r "Jihadwyr". Wrth ystyried aelodau fel Leighton Andrews a Huw Lewis a fydd y prif weinidog yn cofio hen ddywediad LBJ "It鈥檚 probably better to have him inside the tent pissing out, than outside the tent pissing in."? Yn sicr mae'r dalent a'r gallu gan Leighton a Huw i fod yn weinidogion ond pa fath o neges y byddai eu penodi'n rhoi i'r gwrthbleidiau? Wedi'r cyfan go brin y gellid disgrifio'r naill ddyn na 'r llall yn wleidyddion consensws, cynhwysol.

Mae gan Rhodi broblem ddaearyddol hefyd. Yn sgil canlyniadau'r etholiad mae 'na beryg i Lafur ymddangos yn blaid ranbarthol y de-ddwyrain. Dim ond llond dwrn o seddi yn y gogledd-ddwyrain (gyda mwyafrifoedd bregus ym mhob un) sy'n galluogi i Lafur hawlio mai hi yw "gwir blaid Cymru gyfan". Mae cael aelod o'r cabinet nad yw'n cynrychioli'r de-ddwyrain yn hanfodol. Y broblem yw mai dim ond dau aelod cymwys sydd na sef Alun Davies a Lesley Griffiths, ill dau yn newydd-ddyfodiaid i'r cynulliad.

Cwis

Vaughan Roderick | 18:26, Dydd Llun, 28 Mai 2007

Sylwadau (3)

Hwre! Dw i wedi curo chi i gyd am y tro cynta! Roedd ambell i un yn agos ond neb yn gwbwl gywir.

Roedd na bump ateb gyda'r llythrennau cyntaf yn sillafu'r gair "Enfys"

Roedd Guto yn gywir wrth ddweud "Ymerodaeth alltud Caerfaddon = Haile Selassie o Ethiopia" ac wrth enwi Sam Tan fel "arwr ein pentre bach ni". Dyna'r E a'r S felly.

Sylweddolodd Dewi fod tref Clitheroe yn etholaeth Nigel Evans sef yr N. Ond doedd neb yn gwybod bod " Fy nghariad i'n Fenws" nac mai Yeovil oedd hen etholaeth Jeremy John Durham Ashdown- Paddy i'w ffrindiau. Roedd yr awgrym y gallai'r Y fod yn gyfeiriad at Ynys Metgawdd a'r F yn fodan yn ffyrdd eraill clyfar o gyrraedd at yr ateb.

Mae hwn lot yn haws.

Rhowch y Garethiaid yn nhrefn y wyddor.

Dyn Cymru yn Awstralia, dyn Hawke ar lwyfan dramor, Gareth benywaidd, gwas bach David, Gareth y cynulliad, Gareth y senedd a'r Gareth wnaeth golli i Wil.

Blogio a'r BNP

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Llun, 28 Mai 2007

Sylwadau (7)

Nol yn nyddiau cynnar y blog yma fe es i drafferth ar faes-e am ddweud na fyddwn yn cynnwys dolenni i safleoedd oedd naill ai yn enllibus neu'n anweddus. Dyna yw polisi'r 成人论坛 a dw i'n ddigon hapus i gydymffurfio.

Nid fy mod am gyhuddo y blogwyr oedd yn beirniadu'r polisi hwnnw o ragrith ond y gwir plaen amdani yw eu bod yn gwneud yn union yr un peth eu hun.

Mae 'na flog gwleidyddol Cymreig, sydd yn fwy toreithiog na Blamerbell, sydd yn gallu bod yn hynod o ffraeth ac sydd yn amlwg yn cael ei sgwennu gan ddyn addysgedig a darllengar. Eto i gyd y mae'n flog does neb yn cyfeirio ato nac yn cynnig dolen iddo.

Pam? Wel, oherwydd bod y blog yma'n cael ei sgwennu gan un o gefnogwyr y BNP ac nid neges wedi ei saniteiddio sydd yno ond sylwadau sy'n drewi o falais a rhagfarn hiliol a chrefyddol. Mae rhai o'r sylwadau yn ddigon i wneud i ddyn deimlo yn gorfforol s芒l. Yn wir roedd fy mhartner, sydd yn Fwslim, yn gorfforol s芒l ar 么l darllen rhai o'r sylwadau am y grefydd honno.

Y broblem sy gen i yw hyn. Ai anwybyddu'r pethau yma sydd orau? Wedi'r cyfan yn etholiadau'r cynulliad fe enillodd y BNP ddeugain mil o bleidleisiau a phe bai'r seddi rhestr yn cael eu didoli ar sail genedlaethol yn hytrach nac ar sail ranbarthol fe fyddai gan y blaid ddau gynrychiolydd yn y Cynulliad.

Dw i'n meddwl bod y llwyddiant cymharol hwnnw yn deillio o'r ffaith fod y pleidiau mawr yn araf i ymateb i bryderon digon real a pharchus rhai o'r etholwyr. Er enghraifft dyw e hi ddim, o reidrwydd, yn hiliol i ddadlau y dylai pobol leol gael blaenoriaeth ar y rhestrau aros am dai boed hynny ym Mhwllheli neu yn Brixton.

Y broblem yw bod cymaint o wleidyddion yn ofni cael eu cyhuddo o hiliaeth nes eu bod yn cadw'n dawel am broblemau cymdeithasol sydd yn poeni nifer sylweddol o'u hetholwyr. Does ond angen ystyried y i weld pam y mae gwleidyddion yn cadw eu pennau i lawr. Y peryg yw, wrth gwrs, bod y tawelwch hwn ond yn bwydo'r bwystfil.

Cwestiwn gan Daran

Vaughan Roderick | 10:37, Dydd Llun, 28 Mai 2007

Sylwadau (1)

Mae Daran wedi bod yn darllen blog Bethan Jenkins lle mae'r aelod cynulliad yn dweud hyn wrth basio "I was attending a wedding yesterday when Leighton Andrews came over to me..."

Cwestiwn Daran yw hyn "pa briodas oedd mor agored i gynnwys Bethan Jenkins a Leighton Andrews ym mysg y gwesteion?" Cwestiwn da, Daran. Dw i ddim yn gwybod yr ateb. Ydych chi?

Enwogion anghofiedig (2) -John Basson Humffray

Vaughan Roderick | 12:25, Dydd Sul, 27 Mai 2007

Sylwadau (0)

Cafodd JB Humffray ei eni a'i fagu yn y Drenewydd yn fab i wehydd. Roedd ei dad yn gefnogwr i'r siartwyr ac yn ddyn oedd yn darllen yn helaeth gan astudio'r athronwyr clasurol yn ofalus. Cred fawr y tad a'r mab oedd yr arwyddair Lladin "Salus populi suprema lex" (lles y bobol yw'r gyfraith uchaf) ac fe lynodd JB at y gred honno gydol ei oes.

Yn ddyn ifanc ymfudodd i drefedigaeth Fictoria yn Awstralia i astudio'r gyfraith ond roedd ap锚l y mwynfeydd aur yn gryf ac yn fuan penderfynodd drio ei lwc yn Ballarat.

Pan gyrhaeddodd y dref honno fe'i synnwyd gan ddiffyg hawliau'r mwyngloddwyr a'r fordd yr oedd y tirfeddianwyr a'r awdurdodau yn eu trin. Lansiodd papur newydd i leisio cwynion y "diggers" a chadeiriodd gyfarfod o ddeg mil o bobol i sefydlu'r Ballarat Reform League.

Yn y cyfarfod hwnnw mabwysiadwyd cynnig sy'n cael ei ystyried fel conglfaen annibyniaeth Awstralia "that it is the inalienable right of every citizen to have a voice in making the laws he is called on to obey, that taxation without representation is tyranny". Cafodd JB ei ethol yn ysgrifennydd y cynghrair ac arweiniodd dirprwyaeth i lywodraethwr y dalaith ar ran y mwynwyr.

Methiant fu'r ymdrech hwnnw a phenderfynodd nifer sylweddol o fwynwyr wrthryfela yn erbyn y goron. Codwyd baner y "Southern Cross" yn Eureka ar gyrion Ballerat a pharat么dd y mwynwyr am frwydr a'r lluoedd Prydeinig.

Roedd heddychiaeth yn sylfaen i wleidyddiaeth Humffray a chofnodir iddo dreulio oriau yn ceisio perswadio鈥檙 dynion i roi'r gorau i'w gwrthryfel. Methiant fu ei ymdrechion ac yn y frwydr a ddilynodd lladdwyd degau o ddynion, mwynwyr yn bennaf.

Cyhuddwyd tri ar ddeg o ddynion o deyrnfradwriaeth. Cychwynnodd JB ymgyrch ar eu rhan a gwrthododd rheithgorau eu cael yn euog er bod y dystiolaeth yn eu herbyn yn gwbwl eglur. Yn 么l haneswyr digwyddiadau Eureka a'r achosion llys a'u dilynodd oedd man geni Awstralia fel cenedl.

Fe etholwyd JB yn ddiwrthwynebiad i gynrychioli Ballerat yn senedd y dalaith ond erbyn diwedd ei ddyddiau roedd yn byw ar gardod. Fe fu farw yn 1891 ac fe'i claddwyd yn Eureka.

Mewn seremoni wrth i fedd ychydig fisoedd yn 么l dywedodd un o haneswyr amlycaf Awstralia'r Athro John Maloney hyn am JB Humffray

" A patriot will die for his or her country. A saint will die for God. John Basson Humffray did none of those things. In fact, it has to be recognised that he refused to die - he was simply not going to be associated with his beloved mates in life in taking physical action towards constitutional ends. What guided him, of coruse, was that most sacrosanct inner prompting of the human heart that we call conscience. No sacred arbiter is higher than that - even God."

CWIS

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Sul, 27 Mai 2007

Sylwadau (11)

Roeddwn i'n wirioneddol hyderus ynghylch cwestiwn ddoe ond o fewn munudau roedd Sion Gwilym wedi ei ddatrys.

3 + 11 + 18 + 10 = 42
3 - Y mwyafrif y collodd Gwynfor Caerfyrddin
11 - Cartre'r Canghellor
18 - 18 Stryd Doughty - y teledu gwleidyddol ar y we
10 - un o ffilmiau Bo Derek
42 - yr ateb i gwestiwn eithaf bywyd, y bydysawd a phopeth yn 么l Douglas Adams yn yr Hitchhiker's Guide to the Galaxy

Da iawn Sion.

Dw i'n gobeithio cael gwell lwc da hwn!

Fedrwch chi ffurfio enfys trwy ddefnyddio ymerodraeth alltud Caerfaddon, y "Clitheroe Kid", fy nghariad i (nid fi'n bersonol!), hen sedd Durham ac arwr ein pentref bach ni?

Y diweddara o Aber

Vaughan Roderick | 17:27, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Sylwadau (3)

Mae pethau'n symud yn gynt na'r disgwyl. Deallaf y bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn cael ei gynnal o fewn wythnosau i gymeradwyo cytundeb yr enfys. Y son yw bod nifer o'r rhai oedd yn amheus wedi newid eu meddyliau ar ol darllen y ddogfen.

Os ydy'r Cyngor yn cymeradwyo'r ddogfen mae'n debyg y bydd y gwrthbleidiau yn chwilio am reswm/esgus i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y llywodraeth. Efallai y bydd hynny'n digwydd cyn yr haf ond mae'r hydref yn debycach.

Bant a ni eto

Vaughan Roderick | 14:22, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio o 125 i 77 o BLAID clymblaid enfys.

Mae hwn yn fwyafrif sylweddol iawn. Mae'n fandad eglur iawn i Mike German ac yn ergyd drom i obeithion Kirsty Williams o gipio'r awenau. Ydy maint y mwyafrif yn ddigon i ddenu Ieuan Wyn Jones yn 么l i'r bwrdd cyn yr haf? Fe gawn weld.

DIWEDDARIAD; Fe gyrrhaeddodd y newyddion o Landrindod Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru wrth i Ieuan Wyn Jones sefyll ar ei draed i'w annerch. Dw i'n cael ar ddeall bod na bosibilrwydd cryf y bydd y cytundeb yn cael ei ystyried gan aeldoau'r cyngor yn eu cyfarfod nesaf.

Enwogion anghofiedig- Llwynog o'r Graig

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Sylwadau (1)

Pan oeddwn i yn yr ysgol fach roedd 'na wobrau'n cael eu rhoi i "ddisgyblion y flwyddyn". Yr un oedd y wobr bob tro- copi o lyfr o'r enw "Enwogion Cymru". Des i erioed yn agos at ennill un. Roeddwn i'n grwt llawer rhu ddrwg i hynny.

Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod wedi colli mas chwaith. Cefais gip ar "Enwogion Cymru" unwaith ac roedd bron pawb oedd yn cael ei bortreadu yn y llyfr naill ai yn weinidog, yn fardd, neu yn amlach na pheidio'r ddau. Roedd yn well gen i anturiaethau ymerodrol yr "Arthur Mee Book of Heroes".

Wrth feddwl am ffyrdd i geisio cadw'r blog yn fywiog wrth i wleidyddiaeth dawelu penderfynais y byddai'r hanner tymor hwn yn gyfle i atgyfodi rhai o'n "henwogion anghofiedig". Fe wn芒i gychwyn gyda rhyw un y gellid ei ystyried yn fath ar dad bedydd i'r math o sgwennu gwleidyddol sydd i'w canfod ar flogs gwleidyddol Cymru.

"Llwynog o'r Graig" oedd y dyn hwnnw. Fel sawl blogiwr heddiw roedd y Llwynog yn sgwennu dan ffugenw a hynny am resymau da iawn. Roedd ganddo golofn wythnosol ym mhapur Cwm Cynon "Tarian y Gweithiwr" o 1876 ymlaen ac fe'i defnyddiodd i ymosod yn chwyrn ar y ffordd yr oedd glowyr y cwm yn cael eu trin yn enwedig gan eu goruchwylwyr- y "gaffers". Dyma enghraifft o'i waith.

"Set ddrud i'w cadw yw'r gaffers; y mae yn rhatach pesgi cant o foch nac un gaffer. Ond er cymaint yw'r gost, y mae rhai ohonynt yn pesgi yn dda. Byddaf yn gweled rhai ohonynt yn pasio'r graig yma ac y maent mor grwn a Devonshire dymplings"

Fe gyflogodd rhai o'r gaffers gwmni o gyfreithwyr i geisio darganfod pwy oedd y Llwynog ac i ddwyn achos enllib yn ei erbyn. Roedd yntau yn ddiedifar.

"Pe bai'r gaffers yma yn gorfod lladd gymaint o'r corff am eu harian ag y mae y gweithwyr yn gorfod gwneud, ni fyddent mor barod i'w gwario rhwng cyfreithwyr"

Cynigiodd perchnogion y gweithfeydd wobr o 拢400 (gwerth 拢200,000 heddiw) i unrhyw un oedd yn fodlon datgelu pwy oedd yr awdur. Cyflogwyd ditectifs i wylio pawb oedd yn postio llythyrau i'r "Darian".

Roedd y "Llwynog" wedi dod a sgandal cyflwr bywyd yn y cymoedd i lygaid ym mhell du hwnt i gylch darllenwyr y Darian wrth i'w honiadau gael eu hail-gyhoeddi a'u hail adrodd. Yn y diwedd fe wnaeth ei wrthwynebwyr ddarganfod pwy oedd y "Llwynog" ac ar 么l i'w fywyd cael ei fygwth rhoddodd y gorau i'w golofn. Fe ddywedodd un gl枚wr hyn amdano.

"Credwyf mai'r Llwynog yw prif hero yr oes hon...am ei fod yn dod allan i ddadorchuddio twyll a gormes y gaffers yn yr amser caled hwn, pan y mae y glowyr cymaint o dan draed- pan mae y trechaf yn treisio, a'r wanaf yn gwaeddu ond heb neb ond y llwynog i wrando ar ei gwyn"

Glowr cyffredin o Abercwmboi o'r enw Thomas Davies oedd y Llwynog. Roedd yn dad i S.O Davies y sosialydd o genedlaetholwyr a gynrychiolodd Merthyr yn San Steffan am ddegawdau.

Des i ar draws hanes "Llwynog y Graig" yn llyfr ardderchog Robert Griffiths "S.O Davies A Socialist Faith" sydd, yn anffodus allan o brint. Dw i wedi dwyn y dyfyniadau o'r llyfr hefyd ond gan fod Robert bellach yn arweinydd y Blaid Gomiwnyddol dw i'n si诺r y byddai'n eu hystyried yn eiddo i bawb!

Cwis

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Sylwadau (4)

Mae'n amlwg nad oedd cwestiwn ddoe yn ddigon anodd! Yr ateb oedd "ben". Llongyfarchiadau i bawb.

Cwestiwn heddiw

Mini-fwyafrif Caerfyrddin + y T欧 Brown + Doughty + Bo Derek = ?

Mae'r ateb hefyd yn ateb i gwestiwn enwog arall. Beth yw'r cwestiwn hwnnw a phwy oedd ei awdur?

Pam tybed?

Vaughan Roderick | 22:04, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (3)

Yn ystod y bwrlwm yn y bae mae David Cameron wedi bod ym Maldwyn. .


Gormod o bwdin?

Vaughan Roderick | 18:54, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (3)


Fe fydd 成人论坛 Parliament yn darlledu rhaglen ganlynniadau etholiadau Iwerddon o saith o'r gloch heno ymlaen. Fianna Fail fydd y blaid fwyaf ond mae'n bosib mai Fine Gael fydd yn arwain y llywodraeth nesaf. Beth? Yr ail blaid yn arwain y llywodraeth! Amhosib!

Diwedd a Dechrau

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (4)

Mae etholiad 2007 ar ben- o'r diwedd. Os ydych chi eisiau prawf o hynny edrychwch ar bennawd y blog hwn. "Blog Vaughan Roderick" yw e nawr. Ond dyw hynny'n wreiddiol?

Fe fydd na newidiadau eraill hefyd. Fe fydd gennyf amser o'r diwedd i lunio "blogroll" o flogs Cymraeg eraill. Dw i'n ymwybodol fy mod wedi bod yn anghwrtais i flogwyr eraill yn hynny o beth ond fe wn芒i gywiro'r sefyllfa.

Ar ddechrau cyfnod newydd, diolch i bawb am ddarllen, am eu sylwadau a'u straeon.

Cwis

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (8)

Ateb Ddoe; Y pedwar oedd Tomos Charles, Harold Wilson, Pixley ka Isaka Seme (sylfaenydd yr ANC) a Sian Lloyd. Cafodd Dewi tri yn gywir. Roedd Helen Smith yn gywir am y cysylltiad. Roedd y pedwar yn fyfyrwyr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Pwy sy'n gallu ateb hwn?

Beth sy'n cysylltu hoff ddywediad Jim Callaghan o'r Mabinogi, gwleidydd uchel ei gloch o Went a'r g诺r o Plonsk sy'n cael ei goffau yn enw prif faes awyr ei wlad?

Camelot Caerdydd

Vaughan Roderick | 10:23, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (3)

Weithiau mae' amhosib cael can allan o'ch pen. Dwy'n dioddef hynny ar hyn o bryd a dw i'n beio Nick Bourne!

Wrth ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol ddoe fe ddywedodd yr arweinydd Ceidwadol hyn; "They have destroyed one brief shining moment of hope". Dyfynnu oedd Nick o sioi Lerner and Low "Camelot" un o berfformiadau enwocaf Richard Burton. Dyma'r pennill cyfan;

Where once it never rained till after sundown,
By eight a.m. the morning fog had flown...
Don't let it be forgot
That once there was a spot
For one brief shining moment that was known
As Camelot.

How oedd hoff gan yr Arlywydd Kennedy ac oherwydd hynny "Camelot" oedd llysenw'r T欧 Gwyn yn ei gyfnod e.

Ond pwy yw'r Arthur yn Camelot yr enfys? Ieuan, mae'n si诺r! A'r Wenhwyfar a'r Lawnslot a'i bradychodd? Helen Mary a Peter Black o bosib!

Chwech y bore yn y bae

Vaughan Roderick | 07:23, Dydd Gwener, 25 Mai 2007

Sylwadau (7)

Mae'n chwech y bore yn y bae. Mae'r rhedwyr cynnar eisoes allan yn jogio. Mae'r stem yn codi o simnai鈥檙 "Waverley" wrth iddi baratoi am daith o gwmpas Rhonech ac Echni a dwi newydd fwyta'r olaf o'r cant o fananas wnaeth gadw uned wleidyddol y 成人论坛 i fynd ddoe.

Mae hi wedi bod yn naw wythnos o ddyddiau deuddeg awr a dyw'r stori ddim yn mynd i fennu heddiw. Ond fe fyddwn ni'n cyrraedd saib. Diwedd y rhan gyntaf. Ar 么l heddiw fe fydd Rhodri'n heglu hi am ei garaf谩n ym Mwnt ac Ieuan yn hedfan i Ffrainc am gwpwl o ddyddiau. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i Landrindod. Eto.

Gan fod da fi amser i sbario rhwng ymddangosiadau ar Radio Wales a Radio Cymru dw i am geisio rhoi rhyw fath o gyd-destun i bopeth sydd wedi bod yn digwydd.

Fe fydd darllenwyr yr hen golofn "O Vaughan i Fynwy" yn gyfarwydd 芒'r ddamcaniaeth sydd gen i am wleidyddiaeth Cymru sef nad yw'r ffiniau rhwng y pleidiau yn cyd-fynd a'r ffiniau ideolegol o fewn Cymru. Hynny yw, dyw'r patrwm pleidiol Prydeinig sy'n bodoli yng Nghymru ddim, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu lle mae'r rhaniadau barn yn ein cymdeithas.

Yn fy nhyb i roedd y rhaniadau hynny, tan yr wythnosau diwethaf, wedi bod bron yn ddigyfnewid am ganrif. Ar y naill law roedd y sefydliad Llafur ar y llall y sefydliad Rhyddfrydol ac yn sefyll i'r neilltu'r garfan Geidwadol.

Y mwyaf diddorol o rain yw'r sefydliad Rhyddfrydol. Ers iddi golli grym yn ugeiniau鈥檙 ganrif hon mae'r garfan hon wedi bod yn rhanedig ond yn aruthrol o wydn. Ei phlentyn siawns hi, yn anad dim, yw Plaid Cymru. Mae'n rhiant hefyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol ond mae ei haelodau hefyd i'w canfod yn rhengoedd y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol lle mae ei dylanwad wedi amrywio ar hyd y blynyddoedd.

I weld gwerth y ddamcaniaeth hon ystyriwch y cwestiwn hwn. Pe na bai Lloyd George ac Asquith wedi chwalu'r Blaid Ryddfrydol a pha blaid y byddai Cledwyn Hughes, Gwynfor Evans a Wyn Roberts wedi ymaelodi neu Glyn Davies, Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones o ran hynny.

Dw i ddim yn meddwl mai dyna oedd y bwriad ond roedd yr "enfys" yn cynnig cyfle i'r rhan fwyaf o etifeddion y traddodiad Rhyddfrydol Cymreig adael eu halltudiaeth wasgaredig. Mae'n eironig mae'r etifeddion "swyddogol" Rhyddfrydiaeth Cymru wnaeth ddryllio'r cynllun.

Cwis

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Iau, 24 Mai 2007

Sylwadau (8)


Llongyfarchiadau i Tomos Livingstone ar gael cwestiwn ddoe yn gywir. Yr ateb oedd "seren". Dyma gwestiwn heddiw.

Llyfrwerthwyr Mari Jones. Gwr Mary a bos Marcia. Rhagflaenydd Nelson a sylfaenydd ei fudiad. Yr eneth dywydd gath ei gwrthod.

Pwy ydyn nhw -a beth yw'r cysylltiad?

Adfywio'r Enfys?

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Iau, 24 Mai 2007

Sylwadau (5)

Dw i'n clywed bod gr诺p o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn casglu deiseb a fyddai'n gorfodi'r blaid i gynnal y gynhadledd arbennig i drafod yr "enfys". Mae'n dechnegol bosib i'r gwrthbleidiau orfodi gohirio enwebu'r Prif Weinidog tan ar 么l i'r gynhadledd honno gael ei chynnal.

DIWEDDARIAD: Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal eu cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn ac yn pleidleisio ar y cynllun. Dw i'n deall bod Plaid Cymru o'r farn bod hi'n rhu hwyr i adfer yr enfys a bod digwyddiadau neithiwr wedi tanseilio ei hyder yn y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fydd Rhodri Morgan yn cael ei enwebu fel prif Weinidog yfory. Ond am ba hyd?

Rhain oedd lliwiau'r enfys

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Iau, 24 Mai 2007

Sylwadau (5)


Mae Plaid Cymru newydd gyhoeddi'r cytundeb tair plaid arfaethedig "Cytundeb Cymru Gyfan"/ Dyma rai o'r prif bwyntiau.

Adeiladu'r Genedl

Refferendwm ar bwerau deddfwriaethol i'r cynulliad.
Ymladd dros bwerau i'r cynulliad mewn meysydd ychwanegol gan gynnwys ynni a thrafnidiaeth
Comisiwn annibynnol ar fformiwla Barnett
Refferendwm ar gynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol
Deddf Iaith Newydd
Theatr Genedlaethol Saesneg ac Oriel Genedlaethol i Gymru
Strategaeth addysg Gymraeg cenedlaethol gan gynnwys Coleg Ffederal Cymraeg


Economi Fentrus

Ymestyn y cynllun cymorth trethi busnes i Gymru gyfan
Blaenoriaeth i gwmn茂au lleol mewn cytundebau cyhoeddus
Academi Gwyddoniaeth genedlaethol
Dosbarthiadau o 25 neu lai mewn ysgolion cynradd
Cynnydd yn y gwariant ar adeiladau ysgolion
Cynllun Peilot ar liniaduron i ddisgyblion

Byw yn gynaliadwy

Lleihad blynyddol o 3% yn y carbon a gynhyrchir
Corff annibynnol i oruchwylio mesurau o leddfu ar effeithiau newid hinsawdd
20% o drydan o ffynonellau amgen erbyn 2015
Rhaglen gadarn i wella ffyrdd rhwng y De a'r Gogledd

Byw yn iach

Rhoi stop ar gynllun ad-drefnu'r ysbytai
Siartr hawliau cleifion
Adnoddau ychwanegol i addysg gorfforol a nyrs ym mhob Ysgol Uwchradd
Cynllun peilot canolfannau "Byw yn iach"

Cyfiawnder Cymdeithasol

Sicrh芒i llety dros dro digonol i'r digartref
Grantiau i bobol yn prynu t欧 am y tro cyntaf
Buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy
Rhyddhau tir i godi tai yn yr ardaloedd gwledig
Gofal plant fforddiadwy ar gael i bawb
Disgownt ar drethi cyngor i bensiynwyr

Cymru a'r byd

Cynrychiolaeth i Gymru ar gyrff rhyngwladol
Gwell cynrychiolaeth i Gymru ym Mrwsel

Pwdi yn y gornel

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Iau, 24 Mai 2007

Sylwadau (5)

Reit, mae 'na lawer i drafod heddiw. Fe wn芒i gychwyn gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Beth sy'n 'na i ddweud am blaid lle mae un o'i aelodau blaenllaw yn dathlu penderfyniad neithiwr trwy ddatgan ar y Radio Cymru "mae hyn yn golygu y byddai'n gallu mynd i barti Mam Ddydd Sadwrn"?

Mae'n anodd gor-ddweud yngl欧n 芒'r dirmyg sy 'na tuag at y blaid o gwmpas y senedd. Daw'r dirmyg hwnnw nid yn unig o gyfeiriad disgwyliedig Plaid Cymru a'r Tor茂aid ond hefyd o aelodau Llafur sy'n elwa o'u penderfyniad.

Mae 'na ddau gwestiwn syml yn cael eu gofyn. Yn gyntaf sut mae plaid sydd a'r gair "Democratiaid" yn ei theitl yn gallu gwrthod yr hawl i'w haelodau gymryd y penderfyniad pwysicaf yn ei hanes. Yn ail sut y gall prif ladmeryddion cynrychiolaeth gyfrannol wrthod cyfle i wneud i'r system weithio gan benderfynu syllu ar eu bogeiliau eu hun am y blynyddoedd nesaf.

Ar 么l dod dros ei siom fe fydd na wenau enfawr ar wynebau Tor茂aid Powys a Phleidwyr Ceredigion.

Mae hi'n sicr bellach y bydd Rhodri Morgan yn cael ei enwebu fel Prif Weinidog Ddydd Mawrth nesaf. Er bod gan Blaid Cymru, y Tor茂aid a Trish y niferoedd i'w guro does 'na ddim diben gwneud hynny. Fe fyddai llywodraeth leiafrifol ddwy blaid yn un simsan a byrhoedlog ac o ddim mantais i'r naill blaid na'r llall.

Cwestiwn i Rhodri yw'r cwestiwn nesaf. Yn sgil penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i gerdded o'r cau a phwdi ar ys ystlys oes 'na ddiben ail-gychwyn trafodaethau a Phlaid Cymru neu ydy hi'n well straffaglu ymlaen fel llywodraeth leiafrifol tan yr haf a gweld beth sy'n digwydd?

UM!

Vaughan Roderick | 22:39, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Sylwadau (13)

Mae pwyllgor gwaith y Democratiad Rhyddfrydol wedi gwrthod yr enfys.

Beth sy'n digwydd nesaf? Duw... neu Trish Law sy'n gwybod! Mi wnai fentro un sylw. Mae'n drychineb i Mike German a Lembit ac, o bosib, i ddyfodol eu plaid.

Mae na ddewisiadau mawr yn wynebu y pleidiau mawr ond does dim un ohnyn nhw yn wynebu cymaint o argyfwng a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar fe ofynnodd y newyddiadurwr Simon Jenkins "beth yw pwynt y Democratiaid Rhyddfrydol?" Cwestiwn da.

Y cynnig Llafur

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Sylwadau (6)

Mae Llafur newydd gyhoeddi ei chynnig i Blaid Cymru.

Mae'r ddogfen yn rhestri pump "piler" i'r cytundeb. Dyma grynodeb.

1. Cymru Gryfach

Refferendwm ar bwerau deddfwriaethol erbyn 2011
Comisiwn annibynnol ar fformiwla Barnett
Mesur iaith newydd (i'w drafod ymhellach)
Strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg gyfrwng Gymraeg
Symud adrannau'r cynulliad i'r Gogledd, y Gorllewin a'r cymoedd

2. Gwlad Menter

Ymestyn cymorth trethi busnes
Sefydlu Academi Wyddonol i Gymru
Cynllun peilot ar liniaduron i blant ysgol

3. Byw yn Gynaliadwy

Targedau i leihau rhyddh芒i carbon
Grantiau i wella cadwraeth ynni
Cynllun datblygu i'r ardaloedd gwledig

4. Iechyd

Addewidion pendant ynghylch ad-drefnu ysbytai (i'w trafod ymhellach)
Siartr hawliau cleifion
Un nyrs i bob ysgol uwchradd
Cynllun peilot canolfannau "byw yn iach"

5. Cyfiawnder Cymdeithasol

Ceisio sicrh芒i gofal plant fforddiadwy i bawb
Grantiau i brynwyr tai neu fesurau eraill i sicrh芒i tai fforddiadwy
Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr
Cymorth ychwanegol i bensiynwyr sy'n talu trethi cyngor

Cwis!

Vaughan Roderick | 14:01, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Sylwadau (8)

Fe geisiais i lansio cwis bach dyddiol ddoe ond oherwydd y trafferthion technolegol aeth hi'n draed moch braidd gyda'r ateb yn ymddangos yn ogystal 芒'r cwestiwn.

Fe wn芒i drio eto. Pwy all ateb hwn?

Beth sy'n nefolaidd ynghylch Jac Glan-y-gors, Kim Howells AS a "S Club 7" a beth sy'n eu cysylltu?

Darllen y dogfennau

Vaughan Roderick | 07:39, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Sylwadau (12)

Erbyn hyn dw i wedi gweld y ddwy ddogfen oedd yn cael eu trafod gan aelodau Plaid Cymru neithiwr ac mae'r ddwy yn wahanol iawn i'w gilydd.

Rhestr faith o bolis茂au yw dogfen yr enfys heb unrhyw arwydd o ba rai fyddai'n cael y flaenoriaeth. Mae 'na ambell i broblem wedi ei datrys. Er enghraifft fe fyddai na refferendwm cenedlaethol ar gynrychiolaeth gyfrannol mewn llywodraeth leol. Mae 'na feysydd eraill lle nad oes cytundeb. Mae dyfodol gwasanaethau niwrolegol yn Abertawe yn un o rheiny.

Ar 么l diystyru rhestr faith o flaenoriaethau deddfwriaethol Llafur mae'r ail ddogfen yn llawer byrrach. Mae'n cynnig treiali nifer o bolis茂au Plaid Cymru megis gliniaduron i ddisgyblion ysgol. Mae'n addo refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad erbyn 2011. Yn allweddol mae gan Lafur y niferoedd yn y cynulliad i warantu hynny. Does dim sicrwydd y gallai'r "enfys" gyflawni'r addewid cyffelyb yn eu dogfen nhw. Roedd Llafur hefyd yn cynnig comisiwn i adolygu fformiwla Barnett. Roedd y ddwy Blaid wedi methu cyrraedd cytundeb yngl欧n 芒 Deddf Iaith ac ad-drefnu'r ysbytai.

Mewn un ystyr mae'r dogfennau yn amherthnasol. Penderfyniad strategol, gwleidyddol oedd un Plaid Cymru ac mae'r un peth yw wir am y pleidiau eraill. Mae'r rhaniad barn ym Mhlaid Cymru yn un un dwfn ond mae'r ddwy ochor yn derbyn fod safbwyntiau ei gwrthwynebwyr yn gwbwl anrhydeddus. Amser a ddengys a fydd hynny'n ddigon i osgoi rhwyg parhaol yn ei rhengoedd.

Enfys yw fy mywyd

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Sylwadau (3)

Toc wedi wyth heno, wedi pump awr o drafod, cyhoeddodd aelodau cynulliad Plaid Cymru eu penderfynniad. Yr "enfys" amdani. Pam trafod mor hir? Mae'n sicr cawn wybod rhywbryd ond peidied neb a meddwl bod hwn yn benderfynniad hawdd.

Ar y naill law mae'r "enfys" yn cynnig cyfle i brofi mai nid grwp gwthio na phlaid ymylol yw Plaid Cymru. Mae'n gyfle i wireddu polisiau sy'n agos iawn at galonau'r blaid mewn meysydd pwysig fel addysg, yr iaith a chynllunio. Os ydy'r llywodraeth yn un effeithiol a phoblogaidd gallai Plaid Cymru sefydlu ei hun fel un o "ddwy blaid fawr Cymru".

Ar y llaw arall mae'n golygu cyfaddef nad yw yr amcanion sy'n cael eu rhestri ar gerdyn aelodaeth y blaid yn adlewyrchiad teg o'r hyn yw hi. Mae'n golygu cyfaddef nad yw hunan-lywodraeth/annibyniaeth yn amcan realistig yn y tymor byr ac hefyd nad yw y blaid mor sosialaidd ac mae rhai o'i haelodau yn credu. Mae ei pholisiau yn rhai asgell chwith ond nid sosialeth yw pwrpas ei bodolaeth.

Pan oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng y "prosiect cenedlaethol" a chadw ei sosialaeth yn bur doedd ond un dewis mewn gwirionedd.

Sori!

Vaughan Roderick | 17:52, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Sylwadau (0)

Ymddiheuriadau bod hi wedi bod yn galed i chi (a fi) bostio ar y blog heddiw. Problemau technegol, mae gen i ofn!

Fel gwobor gysur dyma ddolen ffantastig. Darllenwch disgrifiad o'ch pentref, tref neu eich dinas chi yn 1849 yn .

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 13:06, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae Ieuan Wyn Jones yn dathlu ei benblwydd yn 58 heddiw. Tybed beth fydd e'n cael fel anrheg?

Fe wnes i daro i mewn i fy nghyfaill John Jones y tu fas i'r senedd heddiw. Gl枚wr wedi ymddeol yw John. Am flynyddoedd roedd e'n ysgrifennydd yr NUM yng nglofa Wyndham Western yng Nghwm Ogwr ac mae'n dipyn o hanesydd Llafur. Boi Plaid Cymru yw John o ran ei wleidyddiaeth a dw i'n si诺r bod 'na elfen o ddiawlineb wrth iddo dynnu fy sylw at y llywodraeth Lafur gyntaf yn 1924. "Pwy oedd y Blaid fwyaf ar y pryd?" oedd cwestiwn John. Yr ateb wrth gwrs yw'r Ceidwadwyr.

Enfys y bore, aml gawodau

Vaughan Roderick | 09:55, Dydd Mawrth, 22 Mai 2007

Sylwadau (7)

Mae 'na ambell o gawod o gwmpas o hyd i ddilynwyr yr enfys. Os nad wyf yn camddarllen pethau'n llwyr dw i'n synhwyro bod Plaid Cymru ar fin dod a'r trafodaethau 芒 Llafur i ben gan ganolbwyntio ar siarad 芒'r Tor茂aid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dw i'n weddol sicr hefyd y bydd y tair plaid yn cyrraedd cytundeb ac y bydd cyngor cenedlaethol Plaid Cymru yn cymeradwyo'r cynllun.

Ond, a dyma'r ond fawr, dwi'n amau y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol simsanu. Dw i ddim yn rhagweld y bydd Mike German yn troi n么l at Lafur ond dw i yn meddwl bod hi'n bosib (posib sylwer, nid tebyg) y bydd cynhadledd y blaid Ddydd Sadwrn yn penderfynu cefnu ar glymbleidiau a chytundebau'n llwyr gan orchymyn i'w haelodau fod yn wrthblaid i ba bynnag llywodraeth sy'n cael ei ffurfio.

Beth fyddai canlyniad hynny? Mae'r ateb i'r cwestiwn yna yn dibynnu'n llwyr ar un person sef Trish Law, aelod annibynnol Blaenau Gwent.

O dan y fath amgylchiadau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymatal, dw i'n cymryd y byddai Llafur yn enwebu Rhodri Morgan fel prif Weinidog Ddydd Mercher nesaf tra byddai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn enwebu Ieuan Wyn Jones.

Mae'r fathemateg yn syml. Fe fyddai Ieuan yn ennill pe bai Trish yn ei gefnogi neu yn ymatal. Os oedd Rhodri yn gallu ei darbwyllo i'w gefnogi fe, fe fyddai'r niferoedd yn gyfartal ac fe fyddai'r dyfroedd cyfansoddiadol yn rhai dyfnion.

Lincio

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Llun, 21 Mai 2007

Sylwadau (1)

Gan fod popeth yn digwydd y tu ol i ddrysau caedig heddiw dw i ddim yn bwriadu blogio llawer. Dyma gasgliad o ddoleni i gadw chi i fynd.

Mae na ddigon o drafod am yr enfys ar y blogs yma; , (Cymraeg) , a (Saesneg)

Gan fod tim rygbi Cymru yn Awstralia dyma safleodd diddorol o'r wlad honno. Y safle gwleidyddol gorau yw (safle tanysgrifiad ond mae'n bosib cofrestru am ddim am gyfnod). Os ydych chi'n ddilyn Clwb Peldroed Caerdydd gallwch ymuno a'r . Ymunwch yn y canu gyda neu yn . Darllenwch am ran y Cymry yn yr unig wrthryfel yn erbyn y Goron yn hanes Awstralia yn .

Llanast Llandrindod

Vaughan Roderick | 08:55, Dydd Sul, 20 Mai 2007

Sylwadau (14)

Mae'n anodd i unhyw un o dan ei hanner cant (sy'n cynnwys fi!) ddeall dyn cweit mor bwysig ym mywyd Cymru'r ganrif ddiwethaf oedd Huw T. Edwards. Ef oedd prif Undebwr Llafur Cymru, roedd yn berchen ar "Y Faner" ac yn gadeirydd yr egin-gynulliad a sefydlwyd gan lywodraeth Attlee "Cyngor Cymru a Mynwy". Roedd e'n cadeirio'r Bwrdd Croeso hefyd, yn aelod o'r Bwrdd Nwy ac yn fawr yn yr Eisteddfod. Does dim syndod felly ei fod yn cael ei adnabod fel "Prif Weinidog answyddogol Cymru" a phan roedd Huw T, yn siarad roedd y genedl yn gwrando!

Rhys Evans awdur cofiant Gwynfor ac un o fy mosus wnaeth fy atgoffa am Huw T drannoeth cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol. Roeddwn i'n cellwair mai'r cyfarfod hwnnw oedd yr unig beth diddorol i ddigwydd yn Llandrindod erioed ond roedd Rhys yn barod i'm cywiro. Yn Llandrindod ar ddechrau'r pumdegau y cynhaliwyd y cyfarfod i lansio'r " " oedd yn tynnu ynghyd Plaid Cymru, carfan gref o Ryddfrydwyr ac un Aelod Seneddol Llafur y bythgofiadwy SO Davies. Roedd y cyfarfod hwnnw yn siambols pur a chymaint oedd dirmyg Huw T. am y syniad nes iddo sgwennu llyfr "They Went to Llandrindod" yn dilorni'r ymgyrch, ei haelodau a'i nod.

Fe newidiodd Huw T ei feddwl rai blynyddoedd yn ddiweddarach gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur ac ymuno, am gyfnod, 芒 Phlaid Cymru. Trodd yn ymgyrchwr brwd dros ddatganoli ac er iddo farw yn 1970 roedd yn rhan allweddol o'r broses a arweiniodd at refferendwm aflwyddianus 1979.

Dw i'n ceisio dychymygu beth fyddai Huw T. yn gwneud pe bai'n ymweld a Bae Caerdydd heddiw. Mae'n sicr y byddai wrth ei fodd i weld adeilad Senedd Cymru. Ond o glywed bod Plaid Cymru a'r Toriaid ar fin ffurfio llywodraeth yno dw i'n meddwl y byddai fe'n cael harten. Wedi'r cyfan y rheswm yr oedd Huw T. yn cefnogi datganoli oedd er mwyn amddiffyn Cymru rhag llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Efallai y byddai fe'n penderfynu mae ei safbwynt gwreiddiol oedd yn gywir a bod "dim byd da yn dod allan o Landrindod"

Bath oer 'da Bethan

Vaughan Roderick | 18:36, Dydd Sadwrn, 19 Mai 2007

Sylwadau (3)

Ar ei mae Bethan Jenkins yn ceisio taflu ychydig o ddwr oer ar yr holl son am glymblaid yr enfys. Mae Bethan am i ni gofio rhywbeth.

Mae'r cyfryngau traddodiadol a'r blogiau i gyd yn cyffroi gymaint am y syniad o glymblaid enfys ei fod yn peri cywilydd ar eu rhan! A wnewch chi gofio bod rhaid i unrhyw symudiad o ochr Plaid gael ei gyflwyno i'r grwp Cynulliad, y Bwrdd Gwaith Cenedlaethol a chyfarfod o'r Cyngor Cenedlaethol.

I fod yn deg dw i ddim yn meddwl bod unrhywun wedi anghofio hynny. Ond yn yr un modd ac roedd hi'n bosib synhwyro NA fyddai'n bosib i Mike German werthu'r syniad o glymblaid 芒 Llafur i'w blaid mae'n weddol eglur y GALLAI Ieuan Wyn Jones ddarbwyllo'i blaid i dderbyn clymblaid enfys- neu gytundeb 芒 Llafur o ran hynny.

Ta beth,Bethan, mae geiriau'r hen Oscar yr un mor wir am wleidyddiaeth a phopeth arall...

The only thing worse than being talked about is not being talked about

Y Nationalistas a'r Jihadwyr

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Sadwrn, 19 Mai 2007

Sylwadau (7)

Mae'r llysenwau "Nationalista" a "Jihadydd" yn rhai digon cyffredin o gwmpas y Senedd a Th欧 Crughywel ond dw i ddim yn meddwl eu bod wedi lledaenu ymhell tu hwnt i hynny. Rhain yw鈥檙 termau a ddefnyddir i ddisgrifio'r ddwy garfan o fewn Llafur Cymru- carfannau a allai fod wrth yddfau ei gilydd os ydy'r Blaid yn colli grym yn y cynulliad.

Pwy ydyn nhw? Wel, y "Nationalistas" yw'r aelodau hynny, o goridor yr M4, yn bennaf, oedd yn ddigon parod i weld Llafur yn cydweithio a Phlaid Cymru, pobol fel Carwyn Jones, Jane Hutt ac Edwina Hart. Y Jihadwyr yw'r aelodau, o'r cymoedd gan fwyaf, sydd 芒 chasineb, llwythol bron, tuag at genedlaetholdeb ar y naill law a Cheidwadaeth ar y llaw arall, aelodau fel Huw Lewis a Leighton Andrews.

Nawr mae 'na beryg, yn enwedig ymhlith y Cymry Cymraeg, i bortreadu'r Jihadwyr fel pobol sydd mewn rhyw ffordd yn wrth Gymreig neu'n wrth Gymraeg. Dyw hynny ddim yn wir nac yn deg. Cymraeg, er enghraifft, yw'r iaith ar aelwyd Leighton a'i deulu. Yr hyn sydd yn wir amdanynt yw eu bod yn bobol sy'n rhoi blaenoriaeth i'r frwydr yn erbyn tlodi ac angen uwchlaw popeth arall. Iddyn nhw mae dadleuon cyfansoddiadol neu ieithyddol yn wastraff amser. Dyrchafir gwleidyddiaeth dosbarth uwchlaw popeth arall.

Dyw hon ddim yn rhaniad newydd o fewn y Blaid Lafur. Yr un oedd y ddadl rhwng Neil Kinnock a Michael Foot yn y saithdegau, George Thomas a Cledwyn Hughes yn y chwedegau ac Aneurin Bevan a Jim Griffiths yn y pumdegau. Yn wir gellid dadlau bod hon yn rhaniad sy'n ymestyn yn 么l i'r ymgiprys rhwng Llafur a'r Rhyddfrydwyr am oruchafiaeth wleidyddol yng Nghymru.

Camp enfawr Rhodri Morgan oedd llwyddo i bontio'r ddwy garfan. Mae'n deg i ddweud, dw i'n credu, mae Llafur oedd y gr诺p mwyaf unedig a disgybledig yn yr ail gynulliad ond o golli grym gallai pethau newid yn gyflym gyda'r ddwy garfan yn beio ei gilydd am fod ar feinciau鈥檙 gwrthbleidiau.

Oherwydd hynny dw i'n fodlon mentro na fyddai Rhodri Morgan yn rhuthro i ymddeol fel arweinydd Llafur Cymru pe bai Ieuan yn Brif Weinidog. Y peth olaf fyddai angen ar Lafur yn y fath amgylchiad fyddai rhyfel cartref gwaedlyd dros arweinyddiaeth a chyfeiriad y Blaid.

Pobol yr enfys

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Gwener, 18 Mai 2007

Sylwadau (4)

Lle awn ni nesaf? Mae Rhodri yn gwneud ei orau glas heddiw i aros yn y g锚m ond mewn gwirionedd mae'r cyfan allan o'i ddwylo nawr. Ieuan yw'r ffigwr allweddol a dwi i'n ei chael hi'n anodd credu y bydd hi'n bosib iddo gerdded i ffwrdd o swyddfa鈥檙 Prif Weinidog.

Mae'n amlwg bod Rhodri yn gobeithio y bydd aelodau Plaid Cymru yn gwrthryfela yn erbyn yr "enfys" yn yr un modd a wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar lawr gwlad wrthryfela yn erbyn cytundeb a Llafur. Gallai pethau newid ond dw i ddim yn synhwyro bod hynny'n digwydd. Yn sicr mae 'na bobol sydd yn anesmwyth ac yn anhapus a'r syniad o gydweithio a'r Tor茂aid ond dwy ddim yn cael yr argraff eu bod yn ddigon niferus nac yn ddigon cryf eu teimladau i rwystro Ieuan rhag cyrraedd cytundeb os ydy e'n dymuno hynny.

Mae pawb yn awr yn dechrau dychmygu pwy allai fod ym mha swydd yn llywodraeth yr enfys. Mae hynny braidd yn ff么l yn fy nhyb i oherwydd nad oes na unrhyw sicrwydd y byddai'r llywodraeth newydd yn cadw at yr un ffiniau adrannol a'r llywodraeth bresennol.

Serch hynny fe wn芒i fentro y byddai Mike German yn gorfod dewis rhwng Kirsty Williams (a allai wrthod oherwydd ei hamharodrwydd i weithio a'r Tor茂aid) a Jenny Randerson. Fe fydd Nick Bourne yn ei chael hi'n anodd iawn i beidio cynnig llefydd cabinet i Jonathan Morgan a David Melding (er mai aelod meinciau cefn yw David ar hyn o bryd). Yn sicr fe fyddai Ieuan Wyn Jones yn gorfod dod o hyd i swyddi i Helen Mary Jones a'i ddirprwy Rhodri Glyn Thomas. Er mwyn sicrh芒i cydbwysedd daearyddol fe fyddwn i'n rhagweld y byddai na swydd bwysig i un o Joneses y Gogledd Alun Ffred neu Gareth.

Yn colli allan felly fyddai rhai ffigyrau amlwg fel William Graham ac Alun Cairns o'r Ceidwadwyr a Dai Lloyd a Janet Ryder o Blaid Cymru. Dyfalu yw hyn oll wrth gwrs. Fe gawn wybod pan ac os daw'r enfys i fodolaeth.

Dau o'r Bae

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Gwener, 18 Mai 2007

Sylwadau (2)

Efallai ei bod hi'n rhy gynnar i wneud hyn ond waeth i fi bractiso. Nerys Evans, Alun Cairnes a Dewi Knight fydd yn lleisio barn y llywodraeth ar "Dau o'r Bae" heddiw. Eluned Morgan fydd yn cynrychioli'r wrthblaid.

Anhygoel

Vaughan Roderick | 08:00, Dydd Gwener, 18 Mai 2007

Sylwadau (3)


Doedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ddim yn bresennol yng nghyfarfod hanesyddol ei blaid neithiwr.

Lle'r oedd e? Wel yn 么l y son roedd aelod Maldwyn mewn stiwdio deledu yn recordio "Have I got News for you". Blaenoriaethau.

Lliwiau'r enfys

Vaughan Roderick | 07:57, Dydd Gwener, 18 Mai 2007

Sylwadau (3)

Doeddwn i ddim wedi bwriadu rhannu hwn am y tro ond gan fod Nick Speed eisoes wedi blabio ar "Waterfront" waeth i mi gyfaddef fy mod i yn un o'r rhai oedd yn swpera yng nghartref Rhodri Morgan pan ddaeth y newyddion am benderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol neithiwr.
Mae'n adrodd cyfrolau am Rhodri ei fod wedi cadw at ei wahoddiad er ei fod yn synhwyro beth oedd am ddod o gyfeiriad Llandrindod. Roedd y gwin yn dda a'r gwmn茂aeth yn well a dw i'n dweud dim byd mwy na hynny.

Cyn belled ac y mae'r tri arweinydd arall yn y cwestiwn mae'n anodd rhagweld yr un ohonynt yn gallu cefnu ar yr "enfys". Mae'n amhosib dychmygu'r dirmyg y byddai Ieuan yn ei ddioddef pe bai'n gwrthod y cyfle i fod yn Brif Weinidog tra bod y Ceidwadwyr o fewn dyddiau i fod 芒 gweinidogion mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 1997. Pe bai Mike German yn newid ei feddwl eto fe fyddai ei hygrededd gwleidyddol yn deilchion. Dyw'r g锚m ddim ar ben eto ond ry' ni'n closio at y diwedd.

Draw dros yr enfys

Vaughan Roderick | 22:49, Dydd Iau, 17 Mai 2007

Sylwadau (1)

Dyna ni felly. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynnu mai'r "enfys" yw eu dewis nhw. Os ydy Ieuan eisiau bod yn Brif Weinidog Cymru mae'r ffordd o'i flaen yn glir. Pwy fase wedi meddwl hynny bedair blynedd yn ol?

Fe fyddaf yn sgwennu llawer mwy am hyn yfory.

Sibrydion....a sylwadau

Vaughan Roderick | 15:42, Dydd Iau, 17 Mai 2007

Sylwadau (3)

Mae fy mhen i'n troi! Dw i'n clywed gymaint o wahanol straeon a sibrydion gyda nifer ohonynt yn gwrthddweud ei gilydd.

Heb unrhyw ymgais i'w dadansoddi dyma gasgliad ohonynt

"Wythnos yn 么l fe fyddwn wedi chwerthin ar ben y syniad o Ieuan fel Prif Weinidog...erbyn hyn dw i wedi newid fy meddwl. Fe fyddai unrhyw gytundeb 芒 Llafur yn gwbwl annerbyniol i'r blaid"- AC Dem. Rhydd.

"Yr unig gwestiwn yw ydyn ni am fynd am yr enfys nawr neu aros am chwe mis a chwilio am esgus?"- AC Ceidwadol"

" Mae'r aelodau Llafur yn teimlo'n llawer mwy hyderus erbyn hyn... 'dw i'n meddwl y gall Mike German ddarbwyllo'i blaid i gefnogi Llafur" AC Llafur.

Ble mae Karl Williams...mae angen bwci i weithio hwn mas!

A chan bobol y gellir eu henwi

"Mi fedra i gadarnh芒u ein bod yn trafod ffurfio Llywodraeth 芒 Phlaid Cymru... ond fe fyddai'n rhaid cael aelodau Ceidwadol yn y cabinet."- Nick Bourne

" Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol benderfynu. Ydyn nhw eisiau dylanwad dros lywodraeth Lafur neu ydyn nhw'n dymuno rhoi dyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn nwylo'r Tor茂aid" -Peter Hain

Lincs

Vaughan Roderick | 12:42, Dydd Iau, 17 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae Peter Black yn anhapus 芒 Jenny Randerson tra bod wedi cychwyn yn galw ar ein gwleidyddion i brysuro!

Mae dau flog gwleidyddol Eingl-Gymreig newydd wedi ymddangos. Unoliaethwr o Forgannwg yw tra bod yn hawlio ei fod yn blogio o'r "tu mewn".

Mae'n ymddangos bod wedi alaru 芒 gemau gwleidyddion y Bae gan benderfynu bod digwyddiadau yn yr Alban yn fwy diddorol!

Le Crunch

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mercher, 16 Mai 2007

Sylwadau (0)

Dw i'n meddwl ei bod hi'n bosib ein bod ni'n agos at ddiwedd y g锚m. Mae'n ymddangos bod datganiad Rhodri yn awgrymu nad oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi peri i ddynion a gwragedd y canol sobri rhywfaint gan roi'r gorau i'w cecru cyhoeddus.

Heno cynhelir cyfarfod allweddol o'r blaid i benderfynu ar eu cam nesaf. Mae Llafur yn hanner gobeithio y bydd y posibilrwydd o glymblaid ffurfiol yn ail-godi. Os nad yw hynny'n digwydd maen nhw'n disgwyl awgrym cryf mai sicrh芒u cytundeb 芒 Llafur yn hytrach nac un 芒 Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr yw bwriad y Democratiaid Rhyddfrydol.

O'r holl gyfarfodydd sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn dw i o'r farn mai hwn yw'r pwysicaf. Hwn yw'r "crunch".

Closio at yr enfys?

Vaughan Roderick | 12:58, Dydd Mercher, 16 Mai 2007

Sylwadau (9)

Wel, fe wnes i lwyddo i gyrraedd amser cinio heb sgwennu am y trafodaethau!

Dw i newydd ddychwelyd o gynhadledd newyddion ddiweddara Ieuan Wyn Jones ac am y tro cyntaf ers i'r holl broses yma gychwyn dw i'n synhwyro bod y "glymblaid enfys" fondigrybwyll yr un mor debygol 芒 rhyw fath o lywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur.

Aeth Ieuan Wyn Jones allan o'i ffordd i bwysleisio bod y trafodaethau ffurfiol sy'n cael eu cynnal rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar y naill law a Phlaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall yn gydradd a'i gilydd ac na fyddai ei blaid yn dewis rhyngddynt tan ddiwedd y trafodaethau.

Y cwestiwn sy'n fy nharo i yw hyn. O gymryd bod y Tor茂aid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydsynio beth ar y ddaear y gallai Rhodri ei gynnig i Ieuan na fyddai Ieuan ei hun, fel Prif Weinidog, yn gallu ei gyflawni?

Bethel, Brains a Barberellas

Vaughan Roderick | 10:24, Dydd Mercher, 16 Mai 2007

Sylwadau (5)

Dw i'n dechrau deall sut oedd Bill Murray yn teimlo yn "Groundhog Day". Dw i ddim yn gwbwl sicr p鈥檜n ai Rhodri neu Ieuan sydd yn r么l Punxsawtaney Phil yn y ddrama hon ond dw i'n saff mai fi yw'r un sy'n dioddef profiad arteithiol y dyn tywydd oedd yn gorfod ail-fyw'r diwrnod hyd dragwyddoldeb. Er mwyn gallu aros yn gall fe wn芒i sgwennu am rywbeth arall!

Un o brofiadau rhyfedd heneiddio yw gwylio adeiladau y mae dyn wedi eu gweld yn cael eu codi yn cael eu dymchwel.

Pan oeddwn i'n grwt roedd yr ardal o gwmpas Bridge Street a Mary Anne Street yng nghanol Caerdydd yn gymysgedd o hen adeiladau Fictoraidd. Yno roedd Bethel, capel teulu Mam, yr hen Ebeneser lle roeddwn yn mynd i'r Ysgol Sul a thafarn y "Greyhound" lle ces i (a bron pawb arall o'n genhedlaeth i yng Nghaerdydd) fy mheint cyntaf. Nid nepell i ffwrdd roedd y "New Moon Club" lle'r oedd Iris Williams a Cherddorfa Jas Cymru yn arfer perfformio a Barberella's lle'r oedd Hywel Gwynfryn yn cynnal ei ddisgos Cymraeg wythnosol.

Fe ddiflannodd y cyfan yn y Saithdegau. Nawr mae'r adeiladau a gymerodd eu lle, cymysgedd di-nod o feysydd parcio a siopau, hefyd wedi mynd. Lle fel'na yw dinas. Does dim byd llawer yn para.

Trwy gyd-ddigwyddiad wrth i dalp o'r brifddinas ddiflannu mae dau gynllun gwahanol i agor amgueddfeydd yn croniclo hanes y ddinas ar fin cael eu gwireddu. Fe fydd un, "Amgueddfa'r Bobol," wedi ei lleoli yn yr hen lyfrgell ar yr Ais tra bydd y llall yn canolbwyntio ar ardal y dociau yn adeilad y "Pierhead" sy'n ganolfan ymwelwyr i'r cynulliad ar hyn o bryd.

Dw i'n gobeithio na fydd yr Amgueddfeydd hyn yn anwybyddu un elfen bwysig yn hanes Caerdydd sef ei Chymreictod. Am ryw reswm neu'i gilydd y rhan honno o hanes y ddinas sy'n tueddu mynd yn angof wrth i arddangosfeydd a llyfrau ganolbwyntio ar yr elfen Wyddelig ym mywyd y Ddinas a chymuned egsotig Tiger Bay.

Y g诺r sydd wedi gwneud fwyaf i groniclo hanes Caerdydd fel dinas Gymreig a Chymraeg yw'r cyn AC Owen John Thomas. Diolch i'w waith ef rydym yn gwybod, er enghraifft, bod siopau fel David Morgan a James Howells yn hysbysebu am weithwyr rhugl yn y Gymraeg hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mai'r Gymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o addoldai'r ddinas tan yn gymharol hwyr yn yr un ganrif.

Am ryw reswm mae dinasyddion Caerdydd a'r Cymry Cymraeg fel ei gilydd yn tueddu anwybyddu'r hanes hwnnw gan lyncu mytholeg nad yw'r ddinas mewn rhyw ystyr yn perthyn i Gymru o gwbwl. Nonsens yw hynny a dylid achub ar y cyfle i brofi hynny.

Dim ffiars o beryg! (2)

Vaughan Roderick | 16:51, Dydd Mawrth, 15 Mai 2007

Sylwadau (3)

Ar 么l cyfarfod y gr诺p Llafur prynhawn yma cadarnhaodd Rhodri Morgan bod llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a'r democratiaid Rhyddfrydol nawr yn "annhebyg iawn". Dim limo i Mike felly!

Yn 么l Rhodri mae trafodaethau'n parhau 芒 Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn ymgais i ffurfio llywodraeth leiafrifol Llafur a fyddai'n gynaliadwy. Y broblem yw y gallai cytundeb felly fod hyd yn oed yn llai atyniadol na chlymblaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol a bod Plaid Cymru yn debyg o godi pris uchel iawn am ei chefnogaeth.

Dim ffiars o beryg!

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Mawrth, 15 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae 成人论坛 Cymru wedi siarad 芒 33 o'r deugain ymgeisydd etholaeth oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad y cynulliad. Mae 22 ohonyn nhw yn gwrthwynebu unrhyw ddel 芒 Llafur a dim ond chwech yn cefnogi clymblaid. Mae'r blaid wedi gohirio cyfarfod oedd i'w gynnal yn Llandrindod heno oherwydd "bod 'na ddim byd i drafod."

Drosodd i Ieuan.

Dal i ddisgwyl

Vaughan Roderick | 10:43, Dydd Mawrth, 15 Mai 2007

Sylwadau (1)

Dw i n么l wrth fy nesg ar 么l cwpwl o ddyddiau o dorri gwair a smwddio crysau. Dw i newydd ddanfon canlyniadau rhanbarthol yr etholaethau i bawb wnaeth ofyn amdanyn nhw. Mwynhewch! Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau eu postio nhw i wneud hynny- mae'n ormod o waith i ddiogyn fel fi, Hedd!

Treuliodd fy nghydweithwyr y diwrnod ddoe yn ffonio'r byd a'r betws yngl欧n 芒'r sefyllfa wleidyddol. Does 'na ddim mwg gwyn yn dod o simnai鈥檙 Fatican eto ond mae'n gymharol amlwg mai yfory (Dydd Mercher) yw'r diwrnod allweddol.

O'r hyn ydyn ni'n casglu mae hi bron yn sicr na fyddai Mike German yn gallu darbwyllo ei blaid i wasanaethu mewn clymblaid. Y broblem, mae'n deybyg, yw nad yw Mr German ei hun yn sylweddoli hynny. Dyna'r rheswm y mae'r wasg a'r cyfryngau yn cael eu defnyddio i siarad dros ben ei harweinydd a gweddill y Democratiaid Rhyddfrydol gan awgrymu cytundeb llai ffurfiol. Ond ein hargraff ni yw na fyddai hynny chwaith yn dderbyniol i drwch aelodau plaid y canol.

Mae hynny yn gadael Ieuan Wyn Jones fel y ffigwr allweddol. Fe fydd gr诺p Plaid Cymru ynghyd a rhai o bobol fawr y blaid yn trafod y sefyllfa yfory gan ystyried beth bynnag sydd gan Lafur i 'wgynnig a gofynion eu partneriaid posib yng nghlymblaid yr enfys.

Yn y cyfamser mae nifer o fewn y Blaid Lafur yn amau bod eu harweinwyr wedi bod yn ystyried delio 芒 Phlaid Cymru ers tro byd. Yn eironig ddigon ymhlith y rhai sy'n amau hynny mae ambell i aelod wnaeth ymosod yn chwyrn ar Betsan a finnau am awgrymu鈥檙 fath beth yn ystod yr ymgyrch.

Lincs

Vaughan Roderick | 17:24, Dydd Sul, 13 Mai 2007

Sylwadau (2)

Mae 'na fwy (llawer mwy!) am drafferthion y Democratiaid Rhyddfrydol ar flog . Mae am ddweud ei ddweud hefyd.

Dyw canlyniadau y bleidlais ranbarthol mewn etholaethau unigol ddim ar gael ar y we o hyd. Os ydych chi eisiau eu gweld e-bostiwch fi (vaughan.roderick@bbc.co.uk) gan osod y gair "rhanbarth" fel testun ac fe wnai ddanfon nhw atoch chi fel atodiad.

Mae'r safle yn caniatau i chi ddarllen 450 o bapurau dyddiol o bedwar ban byd o fewn oriau i'w cyhoeddi.

Sibrydion Sul

Vaughan Roderick | 12:11, Dydd Sul, 13 Mai 2007

Sylwadau (0)

Ddoe oedd fy niwrnod cyntaf i ffwrdd o'r gwaith ers dros fis. Nid fy mod yn cwyno dw i'n dwlu ar etholiadau a byswn i ddim eisiau colli eiliad!

Mae'n amhosib dianc rhag y sibrydion a'r clecs serch hynny mae'r sibrwd y penwythnos hwn yn awgrymu鈥檔 gryf fod y posibilrwydd o lywodraeth glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn prysur ddiflannu. Yr hen "opsiwn Seland Newydd" yna sy dan ystyriaeth nawr. Gan fod Llafur eisoes wedi sicrh芒u cyllideb eleni y gobaith yw y gallai'r blaid lywodraethu fel lleiafrif am y flwyddyn nesa o leiaf gyda'r pleidiau yn ail-ystyried y sefyllfa ar 么l etholiadau lleol 2008.

Heddiw mae Mick Bates wedi awgrymu cytundeb tair neu hyd yn oed pedair plaid i lunio rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y cynulliad. Dw i ddim yn gweld y syniad yna yn cael ei groesawu gan y Tor茂aid. Maen nhw'n disgwyl yn eiddgar am ateb gan arweinydd Plaid Cymru i gwestiwn digon syml sef "ydy Ieuan Wyn Jones eisiau bod yn brif weinidog y cynulliad?". Gallai'r wobr honno fod o fewn ei gyrraedd os ydy e'n fodlon ei chymryd.

Dadlau `da Alex Salmond

Vaughan Roderick | 13:40, Dydd Gwener, 11 Mai 2007

Sylwadau (0)


Dw i newydd fod yn dadlau gyda Alex Salmond yngl欧n 芒 pha mor effeithiol y mae llywodraethau lleiafrifol yn gallu bod. Roedd y ddau ohonom ni yn westeion ar raglen "Riddoch Questions" ar Radio Scotland a dydw i ddim yn meddwl fod Alex yn hapus i glywed am brofiadau anhapus Alun Michael a Rhodri Morgan yn arwain llywodraethau lleiafrifol yng Nghymru!

Ddydd Mercher nesaf disgwylir i Alex gael ei enwebu fel Prif Weinidog Senedd yr Alban a dywed ei fod yn gobeithio gallu llywodraethu trwy gonsensws. Dyna oedd gobaith Alun Michael hefyd. Y gwahaniaeth yw yn 么l Mr Salmond fod Alun a diffyg awdurdod oherwydd y ffordd y cafodd ei ddewis fel arweinydd Llafur Cymru.

Roedd gan Alex eiriau caredig iawn hefyd am y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban. Mae'n ymddangos ei fod o hyd yn gobeithio gallu denu'r blaid honno i mewn i glymblaid rhywbryd yn y dyfodol

Tony y Tacsis a fi

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Gwener, 11 Mai 2007

Sylwadau (2)

Roeddwn yn ceisio meddwl ddoe am rywbeth y gallwn ychwanegu at y m么r o eiriau a ddarlledwyd ac a ysgrifennwyd yngl欧n 芒 phenderfyniad Tony Blair i gamu o'r llwyfan. Dim ond y bore 'ma y cofiais i hanesyn am un o ddyddiau gwaethaf fy ngyrfa fel darlledwr. I ddweud y gwir dw i wedi bod yn ceisio anghofio am y digwyddiad!

Yn ystod etholiad 2001 fe drefnwyd i mi wneud rhaglen a Tony Blair ar gyfer Radio Wales yn fyw o westy yng Nghanol Caerdydd. Y syniad oedd gwahodd gwrandawyr i ffonio mewn a'u cwestiynau i'r Prif Weinidog. Fe aeth y rhaglen yn iawn ond cefais i (a Tony dw i'n meddwl) ein synnu gan gyn lleied o alwadau a dderbyniwyd.

Dim ond ar 么l y rhaglen y gwnes i ddarganfod y gwir echrydus. Doedd bron neb wedi clywed gair yr oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud oherwydd bod swyddfa tacsis cyfagos wedi ymyrryd a'r signal radio! Fe gadwodd cynhyrchydd y rhaglen yn dawel am y broblem gan adael i Tony a finnau balu 'mlaen. Gwn芒 i ddim enwi'r cynhyrchydd dim ond dweud bod profiad fel yna yn paratoi dyn ar gyfer siomedigaethau mawr bywyd - methu ac ennill isetholiad seneddol mewn cadarnle Llafur er enghraifft.

Stats gan Scully

Vaughan Roderick | 13:25, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Sylwadau (2)


Diolch i Roger Scully o adran wleidyddiaeth Aber am y ffeithiau diddorol yma.

1. Enillodd Llafur 32.2% o'r bleidlais etholaethol yng Nghymru, union yr un canran ac yn yr Alban. Hwn yw'r tro cyntaf ers 1924 nad oedd y bleidlais Lafur yng Nghymru yn uwch na'i phleidlais yn yr Alban.

2. Fe wnaeth si芒r y Blaid Lafur o'r bleidlais ostwng yn 39 o'r 40 etholaeth. Yr eithriad oedd Canol Caerdydd.

3. Fe wnaeth ymgeisydd o'r tu allan i'r pedair prif blaid lwyddo i ddod yn bedwerydd neu'n uwch mewn 11 o etholaethau o gymharu 芒 5 yn 2003. Yn y bleidlais ranbarthol fe enillodd y pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol 16.3% o'r bleidlais o gymharu a 11.95% yn 2003 a 4.9% yn 1999

Stori ddifyr yn "Golwg"

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Sylwadau (4)

Mae'n werth darllen "Golwg" yr wythnos hon. Mae'n cynnwys stori ddifyr iawn am Blaid Cymru yn y Gogledd. Fe fydd yn rhaid i chi ddarllen y cylchgrawn i gael y stori gyfan ond dyma ragflas.

Mae鈥檙 chwerwedd wedi methiant Dafydd Wigley i ddychwelyd i鈥檙 Cynulliad wedi ffrwydro gydag un cyn-ymgeisydd i Blaid Cymru yn galw ar Aelod Cynulliad o鈥檌 blaid ei hun i ildio ei sedd. Yn 么l y cyn-ymgeisydd, sydd am aros yn ddienw, mae Janet Ryder AC wedi 鈥渃olli hyder鈥 mwyafrif ymgeiswyr Plaid Cymru yn y Gogledd yn dilyn ymgyrch etholiad eleni.
鈥淢ae Janet Ryder wedi colli cefnogaeth aelodaeth y blaid yn ogystal 芒鈥檙 ymgeiswyr etholaeth鈥, meddai鈥檙 cyn-ymgeisydd, a safodd mewn sedd yn y Gogledd. 鈥淢ae ei hymddygiad tuag at weithwyr y Blaid dros yr 18 mis diwethaf yn golygu nad oes ryw lawer o hyder ynddi ymhlith rhengoedd uwch y Blaid, chwaith."

Yn y cyfamser mae dau flog Plaid Cymru sef a yn awgrymu y dylai Janet Ryder ildio'i sedd i Dafydd Wigley.

Canlyniadau'r rhestr

Vaughan Roderick | 09:58, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Sylwadau (5)

Mae nifer o bobol wedi gofyn a ydy canlyniadau rhestr etholaethau unigol ar gael ar y we. Yn anffodus dw i wedi methu dod o hyd iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt gen i ond yn anffodus nid ar ffurf sy'n hawdd ei hatgynhyrchu. Os ddoi ar eu traws fe wn芒i bostio dolen. neu safle yw'r bet gorau.

Yn y cyfamser dyma ychydig o bigion diddorol. Roedd y Tor茂aid ar frig y rhestr mewn pedair etholaeth lle'r oedd eu hymgeiswyr etholaethol yn aflwyddiannus sef Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Dyffryn Clwyd a Maldwyn. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn fuddugol o safbwynt y bleidlais restr yng Ngorllewin Abertawe tra'n aflwyddiannus yn y frwydr etholaethol. Ym mhob sedd arall yr un blaid oedd yn fuddugol yn y ddwy ornest.

Os ydych chi'n ymddiddori mewn unrhyw etholaeth arbennig- gofynnwch a chwi a gewch!

Rhywle 鈥raw dros yr enfys鈥

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Sylwadau (2)

Yn ddigon rhesymol mae鈥檙 holl sylw yn y senedd ar hyn o bryd ar ymdrechion Rhodri Morgan i ffurfio llywodraeth ar sail clymblaid neu gytundeb da鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru. Does fawr o son am yr opsiwn arall 鈥 y llywodraeth ddi-Lafur a adwaenir fel yr 鈥渆nfys鈥.

Dyw hynny ddim yn golygu nad yw鈥檙 opsiwn honno yn bosibiliad go iawn. Mae ffynonellau o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu bod gan Rhodri Morgan tan y penwythnos yma i鈥檞 hargyhoeddi mai cytundeb rhwng y ddwy blaid yw鈥檙 ffordd orau ymlaen. Yn y cyfamser maent yn pwysleisio eu bod yn parhau i drafod 芒 Phlaid Cymru hefyd.

Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn cadarnhau hynny. Mae 'na awgrym y bod y blaid yn fodlon aros tan ddydd Mercher nesaf i weld sut hwyl mae Rhodri鈥檔 ei gael. Os nad yw Llafur yn agos at gyrraedd cytundeb erbyn hynny fe fydd trafodaethau go iawn yn cychwyn rhwng y gwrthbleidiau.

Fy nealltwriaeth i yw bod Plaid Cymru a鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol yn ystyried clymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid i ffurfio llywodraeth. Fe fyddai鈥檙 llywodraeth honno yn dibynnu ar gytundeb gyda鈥檙 Ceidwadwyr i sicrh芒u mwyafrif ond heb aelodau Ceidwadol wrth fwrdd y cabinet. A fyddai hynny鈥檔 ddigon i鈥檙 Tor茂aid? Mae鈥檔 anodd gwybod.

Blog Cymraeg newydd

Vaughan Roderick | 21:20, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Sylwadau (2)


"Bwriad y blog yma yn rhoi sylwadaeth a dadansoddiad ar y ddiwylliant Gymreig sy'n or-ddibynnol ar ddiwylliannau ein cymydog cryfach a'r UDA."

Croeso!

Glyn v Lembit (2)

Vaughan Roderick | 20:36, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Sylwadau (0)

Amser cinio heddiw ar Radio Wales fe wnes i dynnu coes Glyn Davies ynghylch sefyll yn erbyn Lembit ym Maldwyn yn yr etholiad cyffredinol. O'i ymateb fe wnes i synhwyro ei fod mwy neu lai wedi penderfynu sefyll. Mae'n cadarnhau hynny ar ei ;

"...there is a little voice inside me (which is getting louder by the day) saying that I really should have a crack at the General Election. I was going to take a month out before deciding what, if anything, political I was going to do. I feel this timetable is shortening.
I already know that I can't let it go. I love politics too much. For years I've worked to develop a Centre/Right party in Wales, committed to a successful future for the Welsh Language and everything that makes my dear country of Wales the culturally distinctive heaven that it is. In particular, I love selling this concept to my very 'English' friends. And they almost all buy into it. I don't think I can just let that dream go."

Lincs

Vaughan Roderick | 13:38, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Sylwadau (3)

Gyda'r holl brysurdeb mae'n beth amser ers i mi bostio ychydig o ddolenni i'ch difyrru. Mae gan Simon Jenkins n yngl欧n 芒'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a'r Alban ar wefan y Guardian.

Mae'n bosib ail-fyw cyffro etholiad Ceredigion ar flog

Mae 'na goblyn o ddadl ar . Yngl欧n 芒 beth? Ewch i yn i ganfod yr ateb.

A fydd eich cartref chi yn diflannu oherwydd newid hinsawdd? Dyma'r .

Blogio

Vaughan Roderick | 07:38, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Sylwadau (1)

Mae 'na ddadl ddifyr iawn yn digwydd ar yngl欧n 芒 gwerth blogio yn sgil sylwadau gan yn difr茂o鈥檙 cyfrwng.

Dw i ddim am wneud sylw'r naill ffordd na'r llall ond gan ein bod wedi bod yn adolygu perfformiad y blog hwn wrth gysidro ei ddyfodol fe wn芒i rannu ychydig o ffigyrau 芒 chi.

Mae'n debyg fy mod yn rhif 170,452 yn siart Technorati o'r blogs mwyaf poblogaidd. Dw i'n curo Russell Brand (412,305) ond yn colli mas i Chris Moyles (164,131). Yn ystod tair wythnos gyntaf ei fodolaeth roedd y blog yn denu rhwng mil a dwy fil o ddarllenwyr y dydd, niferoedd digon parchus. Diolch i chi gyd. Fe wn芒i gario ymlaen felly.

Yr hen restrau yna

Vaughan Roderick | 07:37, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Sylwadau (5)

Mae'r cyfnod ar 么l etholiad yn gyfnod pan mae gwleidyddion o wahanol bleidiau yn tueddu i ddod ymlaen 芒'i gilydd gan rannu ambell i farn na ellir ei leisio ym mwrlwm ymgyrch.

Ces i sgwrs ddifyr iawn ddoe gydag un o'r newydd-ddyfodiaid Ceidwadol i'r cynulliad a chyn aelod seneddol Llafur, ill dau yn poeri gwaed am system etholiadol y Cynulliad.

Esboniodd y Llafurwr pam a sut y daeth y gyfundrefn i fodolaeth. Roedd Tony Blair meddai yn benderfynol o sicrh芒u elfen gyfrannol yn y cynulliad. Roedd yr arweinydd Llafur yn ofni y byddai'r cynulliad heb hynny fel un o'r hen gynghorau sir yna "yn llawn o 'deadbeats' a hen ddynion heb syniad newydd yn eu pennau". O ganlyniad fe edrychodd criw o aelodau Llafur Cymru ar y system restrau yn yr Almaen ac argymell ei mabwysiadu yng Nghymru. Yn 么l y cyn aelod seneddol roedd hynny'n gamgymeriad, a gofynnodd y cwestiwn hwn "sut mae esbonio system lle weithiau'r ffordd i gael eich dyn neu'ch menyw chi i mewn yw pleidleisio i rywun arall?"

Yr un oedd barn y Ceidwadwr a awgrymodd bod angen i'r cynulliad a'r senedd adolygu'r gyfundrefn i'w gwneud hi'n fwy cyfrannol ac yn haws ei deall. Yn 2003 fe wnaeth y Ceidwadwyr elwa o fympwyon y system, yn 2007 nhw oedd ar eu colled. Cymerwch un esiampl yn rhanbarth y Gogledd fe enillodd Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr oddeutu 50,000 o bleidleisiau鈥檙 un eto yn y rhanbarth hwnnw mae gan Lafur 5 AC, Plaid Cymru 4 a'r Ceidwadwyr 3.

Mae 'na nifer o atebion posib i'r broblem. O gadw at gyfundrefn restr fe fyddai cael mwy o aelodau rhanbarthol o gymorth yn yr un modd fe fyddai un rhestr genedlaethol yn gwneud y canlyniad yn fwy cyfrannol. Argymhelliad comisiwn Richard oedd cyfundrefn STV mewn etholaethau aml-aelod. Beth bynnag yw'r ateb mae 'na gwestiynau difrifol yn cael eu gofyn

Dychwelyd i'r Bae

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Mawrth, 8 Mai 2007

Sylwadau (0)

Dyma ni felly. Ar 么l mis yn gweithio o bencadlys y 成人论坛 yn Llandaf dyma ni yn 么l yn ein swyddfa yn y bae. Mae 'na awyrgylch "diwrnod cynta'r ysgol" yma heddiw gyda hen gyfeillion yn cyfarch eu gilydd ac yn llongyfarch y newydd-ddyfodiaid.

Ceisio dyfalu pa fath o lywodraeth fydd yn cael ei ffurfio mae pawb wrth gwrs ond mae'r sefyllfa yn aneglur a dweud y lleiaf. Mae Llafur wedi ei rhannu rhwng yr aelodau hynny (o'r cymoedd yn bennaf) sy'n ffarfrio clymblaid 芒'r Democrataid Rhyddfrydol a'r rhai (o goridor yr M4) sydd am weld cytundeb 芒 Phlaid Cymru.

Mae'n ymddangos fod y Blaid honno yn ddigon parod i aros i weld beth sydd gan Lafur i gynnig. Yn sicr dy' nhw ddim yn ffraeo ynglyn 芒'r ffordd ymlaen fel y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae wedi taro ei ergyd diweddaraf gan ddweud hyn;

" No matter how vehemently we denied it, no matter how much we insisted that policy and principle took priority, people still believed that our prime concern was to get our backsides into ministerial limousines. This was especially so in respect of our group leader."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd ar hyn o bryd i drafod swyddi'r llywydd a'r is-lywydd ond mae'n ymddangos bod gobeithion Jenny Randerson o esgyn i'r gadair fawr yn brysur ymbellhau. Ar Dafydd Elis Thomas a Gwenda Thomas y mae'r arian clyfar.

1800: Ac mae'n debyg bod yr arian clyfar yn anghywir- DET a Rosemary Butler yw'r dewis tebygol ar 么l i Gwenda farnu nad yw ei chlyw yn ddigon da i wneud y gwaith.

Mae'n nhw'n paratoi at ryfel...

Vaughan Roderick | 17:41, Dydd Llun, 7 Mai 2007

Sylwadau (0)

Roeddwn yn cymryd rhan ar raglen ar Radio Wales gyda Peter Black heddiw ac mae'n rhaid dewud ei fod e mewn hwyliau da iawn. Roeddwn yn cael y teimlad ei fod yn teimlo rhyddhad o allu lleisio ei farn am arweinyddiaeth Mike German a Lembit Opik yn gyhoeddus.

Mae ei wedi ei droi yn rhyw fath o beiriant "instant rebuttal ". Heddiw er enghraifft o fewn oriau iddo gael ei ddisgrifio gan Lembit fel "llais unig" roedd yn dyfynnu'r i brofi bod ganddo gyfeillion.

Dw i ddim yn disgwyl gweld pethau'n gostegu. Os ydy Mike German yn cyrraedd cytundeb clymblaid 芒 Rhodri fe fydd 'na uffern o ffrae. Yn ddiddorol, mynnodd Peter mai "clymblaid" y mae'n ei gwrthwynebu nid "cytundeb". Bant 芒 ni i Seland Newydd eto!

Yr hoelen olaf?

Vaughan Roderick | 12:27, Dydd Llun, 7 Mai 2007

Sylwadau (1)


Mae Lembit wedi datgan ei gefnogaeth lwyr i Mike German. Fel y gwnaeth e i Charles Kennedy ac ar 么l ei gwymp e i Mark Oaten. Gyda chyfeillion fel rhain...

Cathod mewn sach ...eto

Vaughan Roderick | 00:05, Dydd Llun, 7 Mai 2007

Sylwadau (1)

O wefan Peter Black:

From the 成人论坛 on Saturday 5 May 2007:

Asked if she had confidence in Mr German, Ms Burnham replied: "We have to discuss that today".

Pressed on the issue, she said: "We have to do better than last time, when people like myself didn't have the opportunity to express a view".

From the 成人论坛 today:

Ms Burnham said Mr Black should not be raising the leadership issue.

"I think Peter Black is being irresponsible," she said. "He's in a minority, I assure you.

Ac eto nid myfi

Vaughan Roderick | 23:32, Dydd Sul, 6 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae Duncan Borrowman yn dweud;

"So what about Wales? Well (and Vaughan Roderick and ). The fact is that the Liberal Democrats are a democratic and devolved party. The welsh took the strategic decisions for Wales. The welsh drafted the words (yes I did play with them a bit). I designed the leaflets, arranged the print contracts, personally "hand finished" about a quarter of them, checked the words coming from constituencies did not conflict with the messages that the WELSH HAD DECIDED, and generally made sure that the ground war ran as smoothly as possible.

I hope that is all clear.

Cathod mewn sach

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Sul, 6 Mai 2007

Sylwadau (1)


Mae Elinor Burnham yn dweud hyn "Mae Peter Black yn bod yn anghyfrifol fedrai ddweud wrthoch chi ei fod e mewn lleiafrif". Pechod Peter wrth gwrs yw cwestiynu arweinyddiaeth Mike German.

Mae Peter Black yn ddiedifar ar ei flog mae'n dweud hyn "I could always have taken the other option of secretly and anonymously briefing the media so as to undermine Mike's position. After all that is how the MPs got rid of Charles Kennedy. That, though, is not my style." Mae honna'n brifo!

Does neb o'r cyfryngau yn gallu cysylltu 芒 Mike ac mae Kirsty yn cadw ei phen i lawr ond fe fydd Lembit am ddweud ei ddweud ar y radio bore fory.

Yn y cyfamser mae arweinydd Cyngor Caerdydd Rodney Berman yn grac bod arweinydd Cyngor Penybont Cheryl Green wedi honni bod arweinwyr cyngor y blaid i gyd yn erbyn clymblaid.

O ba fodd y cwymp y cedyrn?

Pwy oedd yn broffwyd (2)

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Sul, 6 Mai 2007

Sylwadau (1)


Ar 么l nodi llwyddiant y bwci Karl Williams fel proffwyd beth am fwrw golwg ar rai o'r proffwydoliaethau eraill a wnaed?

Dwy ddim am ychwanegu at boen Mike German ond mae gen i ofn nad oedd "We will be the big winners on May 3." yn agos at fod yn gywir!

Hat tip enfawr i fyfyrwyr gwleidyddol Aber wnaeth gynnal arolwg barn yn Llanelli fel rhan o'u gwaith cwrs. Doeddwn i ddim yn cael rhannu hwn a chi cyn yr etholiad ond dyma oedd eu casgliadau- gyda'r canlyniad go iawn mewn cromfachau.

Plaid 鈥 51% (50.1%)
Llafur 鈥 35% (36.1%)
Ceid 鈥 9% (10%)
Dem鈥 5% (3.8%)

Mae Dicw a Scully yn eu dysgu nhw'n dda!

Duncan Borrowman J'ACCUSE!

Vaughan Roderick | 07:52, Dydd Sul, 6 Mai 2007

Sylwadau (10)

Prin fod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gallu cuddio eu siom y penwythnos hwn ar 么l dychwelyd chwe aelod i'r cynulliad am y trydydd tro yn olynol. Aeth yr holl waeth yna'n ofer. Rhannwyd dwy filiwn a hanner o daflenni heb, mae'n ymddangos, fawr o effaith.

Ond dyma i chi ffaith ddiddorol fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol llawer yn well ar y bleidlais gyntaf na'r ail. Derbyniodd y blaid 14.8% o'r pleidleisiau etholaethol o gymharu 芒 11.7% o'r pleidleisiau rhanbarthol. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy ffigwr yn sylweddol fwy nac i un o'r pleidiau eraill. Wrth edrych ar etholaethau unigol mae'r gwahaniaeth yn ysgytwol. Y Tor茂aid, er enghraifft enillodd y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed.

Wrth gwrs, ac eithrio mewn llond dwrn o etholaethau, y bleidlais ranbarthol oedd yn bwysig i'r blaid. Beth felly aeth o le? Wel y gwir plaen, anhygoel, anghredadwy yw bod y blaid wedi targedu'r bleidlais anghywir.

Dwy'n si诺r eich bod chi'n cofio'r holl ffwdan am y siartiau a dyfyniadau ar daflenni'r Blaid yn mynnu fod "hwn yn ras dau geffyl" neu " dim ond ni all guro plaid X yn fan hyn". Beth oedd y rheiny yn gwneud mewn gwirionedd?. Wel gwahodd pobol i fwrw pleidlais dactegol mewn ras amherthnasol gan ei gadael i wneud beth a fynnont 'da'i hail bleidlais- y bleidlais oedd yn cyfri.

Pwy oedd yn gyfrifol am y blwmer strategol yma? Mae'n bryd i ni gwrdd 芒 Duncan Borrowman.

Pwy yw Duncan Borrowman? Wel, Democrat Rhyddfrydol sydd am fod yn Faer Llundain. Ar ei ei hun mae'n dweud hyn;

"I have lived in London all my life - South East London and North West London - and have worked across the capital. I would represent the party across ALL of London"

A beth sydd a wnelo Duncan Borrowman a Chymru? Ar ei cawn ddysgu;

"Obviously I didn't want to post what exactly I had been doing for Wales recently, just that I was "busy" doing stuff for their elections. Well today the printers phoned to say the last of the 102 variants of Election Address literature I had been involved in for the Welsh Assembly elections were on their way to Royal Mail. They have been falling through doors for weeks now - addressed items, unaddressed items, enveloped items, full colour items, two colour items. You name it. Getting the designs (by me), text, checking localised text stays "on message", Welsh translations, proofing etc done has been a huge task for a total of 2.23 million items dropping through doors."

Ie, Duncan Borrowman oedd yn gyfrifol am yr holl daflenni yna, yr holl siartiau a dyfyniadau. Ai Duncan Borrowman
oedd yn gyfrifol am dargedi'r bleidlais anghywir? Ife Duncan Borrowman, y g诺r o'r blaid sy ymgyrchu dros gynrychiolaeth gyfrannol oedd y g诺r wnaeth fethu deall sut mae ymgyrchu mewn etholiad cynrychiolaeth gyfrannol? Duncan Borrowman J'accuse!

Glyn v Lembit

Vaughan Roderick | 22:03, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae Glyn Davies wedi dechrau eto! I ychwanegu at boen y Democratiaid Rhyddfrydol mae'n cadarnahu'r sibrydion.

"Over the sandwiches, almost the entire room seemed to be commiserating with me and begging/challenging/ordering me to stand against Lembit Opik in the next General Election. I felt the first green shoots of recovery emerge out of the oppressive blackness of electoral defeat - a bit like the first stirrings in the loin area after my bowel cancer operation."

Meddyliwch!

Straeon yn y sylwadau

Vaughan Roderick | 21:35, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)


Mewn sylwad ar ei flog mae Peter Black wedi mynd ymhellach. Mae'n dweud :

I have questioned Mike German's leadership in the AM Group and the National Executive. As such I now feel able to do it publicly. Now is precisely the time when we need to sort these issues out.

Lincs

Vaughan Roderick | 13:33, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)

Mae Cymru'n haeddu penawdau yn heddiw. Yn agosach at adref mae a yn dadansoddi'r canlyniadau. Mae Dicw a Denis Balsom yn rhoi'r etholiadau yn eu cyd-destun hanesyddol ar . Dyw ddim yn blogio ar y funud ond yn y Western Mail heddiw mae'n dweud ei fod yn gobeithio nad yw ei fywyd cyhoeddus ar ben. Glyn v Lembit yn 2009? Fe fyddai honno'n ornest werth ei gwylio!

Pwy oedd yn broffwyd? Jack Brown yn cau'r siop.

Vaughan Roderick | 13:17, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)

Pwy broffwydodd yn gywir? Fe wn芒i edrych ar yr arolygon barn yn y man ond yn gyntaf sut gwnaeth y bwci? Dyma broffwydoliaethau Karl Williams o gymharu 芒'r hyn a ddigwyddodd.

O safbwynt y nifer fyddai'n pleidleisio ffefryn Karl oedd 42-43% (3-1). Roedd Karl ar y marc yn fan hyn. Roedd ei broffwydoliaethau hefyd yn gywir yn Aberconwy, Ceredigion, Ynys M么n, Gorllewin Clwyd, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Llanelli a Chaerffili. Roedd Karl yn anghywir ym Mhreseli lle proffwydodd y byddai Llafur yn cadw ei gafael a Gorllewin Caerfyrddin lle proffwydodd fuddugoliaeth i Blaid Cymru. Yr un hen neges felly- y bwci sy'n gwybod orau.

Diddorol!!!

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (3)


Mae Peter Black yn dweud hyn- a mwy ar ei :

We obviously want to put Liberal Democrat policies into effect but there are other ways of doing that apart from being in government. The last thing we need is to enter a divisive and difficult process of negotiation with a Labour Party that has been rejected by the people of Wales when our own problems remain unresolved. We need to take our members with us on this not drive them away and surely the opposition of our four Council leaders to a deal with Labour must form a part of that process.

Duncan Borrowman J'ACCUSE!

Vaughan Roderick | 08:14, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)

Prin fod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gallu cuddio eu siom y penwythnos hwn ar 么l dychwelyd chwe aelod i'r cynulliad am y trydydd tro yn olynol. Aeth yr holl waeth yna'n ofer. Rhannwyd dwy filiwn a hanner o daflenni heb, mae'n ymddangos, fawr o effaith.

Ond dyma i chi ffaith ddiddorol fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol llawer yn well ar y bleidlais gyntaf na'r ail. Derbyniodd y blaid 14.8% o'r pleidleisiau etholaethol o gymharu 芒 11.7% o'r pleidleisiau rhanbarthol. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy ffigwr yn fwy nac i un o'r pleidiau eraill. Wrth edrych ar etholaethau unigol mae'r gwahaniaeth yn ysgytwol. Y Tor茂aid, er enghraifft enillodd y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed.

Wrth gwrs, ac eithrio mewn llond dwrn o etholaethau, y bleidlais ranbarthol oedd yn bwysig i'r blaid. Beth felly aeth o le? Wel y gwir plaen, anhygoel, anghredadwy yw bod y blaid wedi targedu'r bleidlais anghywir.

Dwy'n si诺r eich bod chi'n cofio'r holl ffwdan am y siartiau a dyfyniadau ar daflenni'r Blaid yn mynnu fod "hwn yn ras dau geffyl" neu " dim ond ni all guro plaid X yn fan hyn". Beth oedd y rheiny yn gwneud mewn gwirionedd?. Wel gwahodd pobol i fwrw pleidlais dactegol mewn ras amherthnasol gan ei gadael i wneud beth a fynnont 'da'i hail bleidlais.

Pwy oedd yn gyfrifol am y blwmer strategol yma? Mae'n bryd i ni gwrdd 芒 Duncan Borrowman.

Pwy yw Duncan Borrowman? Wel, Democrat Rhyddfrydol sydd am fod yn Faer Llundain. Ar ei ei hun mae'n dweud hyn;

"I have lived in London all my life - South East London and North West London - and have worked across the capital. I would represent the party across ALL of London"

A beth sydd a wnelo Duncan Borrowman a Chymru? Ar ei cawn ddysgu;

"Obviously I didn't want to post what exactly I had been doing for Wales recently, just that I was "busy" doing stuff for their elections. Well today the printers phoned to say the last of the 102 variants of Election Address literature I had been involved in for the Welsh Assembly elections were on their way to Royal Mail. They have been falling through doors for weeks now - addressed items, unaddressed items, enveloped items, full colour items, two colour items. You name it. Getting the designs (by me), text, checking localised text stays "on message", Welsh translations, proofing etc done has been a huge task for a total of 2.23 million items dropping through doors."

Ie, Duncan Borrowman oedd yn gyfrifol am yr holl daflenni yna, yr holl siartiau a dyfyniadau. Duncan Borrowman
wnaeth dargedi'r bleidlais anghywir. Duncan Borrowman, y g诺r o'r blaid sy ymgyrchu dros gynrychiolaeth gyfrannol oedd y g诺r wnaeth fethu deall sut mae ymgyrchu mewn etholiad cynrychiolaeth gyfrannol. Duncan Borrowman J'accuse!

Pwy oedd yn broffwyd? Jack Brown yn cau'r siop.

Vaughan Roderick | 08:13, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (0)

Pwy broffwydodd yn gywir? Fe wn芒i edrych ar yr arolygon barn yn y man ond yn gyntaf sut gwnaeth y bwci? Dyma broffwydoliaethau Karl Williams o gymharu 芒'r hyn a ddigwyddodd.

O safbwynt y nifer fyddai'n pleidleisio ffefryn Karl oedd 42-43% (3-1). Roedd Karl ar y marc yn fan hyn. Roedd ei broffwydoliaethau hefyd yn gywir yn Aberconwy, Ceredigion, Ynys M么n, Gorllewin Clwyd, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Llanelli a Chaerffili. Roedd Karl yn anghywir ym Mhreseli lle proffwydodd y byddai Llafur yn cadw ei gafael a Gorllewin Caerfyrddin lle proffwydodd fuddugoliaeth i Blaid Cymru. Yr un hen neges felly- y bwci sy'n gwybod orau.

O'r ffrynt lein

Vaughan Roderick | 07:24, Dydd Sadwrn, 5 Mai 2007

Sylwadau (5)

Mae pethau diddorol yn digwydd yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol- nid yn aml mae hynny'n digwydd! Yn ol Cheryl Green arweinydd Cyngor Pen-y-bont mae pedwar arweinydd cyngor y Blaid yn unfryd NA ddylai'r Blaid gyrraedd unrhyw gytundeb a Llafur. Mae Peter Black wedi lled awgrymu hynny hefyd gan awgrymu hefyd bod hi'n bryd i'r blaid ystyried ei harweinyddiaeth. Dwy hefyd yn synhwyro hefyd nad oes 'na unrhyw frwdfrydedd o gwbwl yn y rhengoedd Llafur dros gytundeb a phlaid y canol.
Dwy'n weddol sicr erbyn hyn y byddai Mike a Rhodri yn ei chael hi'n anodd i awn i werthu鈥檙 syniad o glymblaid rhwng y ddwy blaid i'w cefnogwyr. Dwy'n dechrau synhwyro mai Plaid Cymru sy'n allweddol ac mai Llafur/Plaid neu'r "enfys" sy'n debygol. Wedi'r cyfan fel y dwedais i ac felmae Llafur wedi bod yn ystyried cytundeb a Phlaid Cymru ers tro byd.

Marw ar fy nhraed

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (6)

Dwy'n marw ar fy nhraed ac ar fin ei heglu hi am adref. Mae na gymaint o bethau dwy eisiau sgwennu amdanyn nhw ond mae'n rhaid cael cwsg yn gyntaf. Ond i wneud un peth yn eglur...fe fydd y blog yn parhau ac mae gen i nifer o stareon blasus i'w cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.

Fel tamaid i aros y pryd dyma rai o'r sylwadau y clywais tra'n crwydro'r Senedd heddiw. Mae rhai yn ddi-enw. Cewch chi ddyfalu pwy yw nhw ac o ba blaid.

"Dwy yn erbyn clymblaid a Llafur...mae nhw'n wrth Gymraeg ac mae pobol yn eu casau nhw"-Gareth Jones AC. "Our people need a bloody reality check if they think this is winning..." AC dienw. "Pam ddiawl byse ni cynnig clymblaid i'r Lib Dems flwyddyn cyn etholiadau lleol?" AC dienw arall. "Wrth gwrs bod croeso i Gareth ddweud ei farn yn blaen..." Dafydd Trystan. "Poor John Dixon...he came so close"

Mewn gwironedd clywais i'r un ola yna ddwywaith, unwaith yn cyfeiro at John Dixon (Plaid) ym methu o ychydig gannoedd yng Nghorllewin Caerfyrddin a'r llall at John Dixon (Lib. Dem) yn methu yng Nghanol De Cymru o 78 pleidlais.

Does dim un John Dixon yn y cynulliad felly. Diolch byth am y ddau Andrew Davies,

Y diweddara

Vaughan Roderick | 11:28, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (6)

Mae'n hanner awr wedi unarddeg a dwy nol yn y bae ar gyfer rhaglenni amser cinio. Ar hyn o bryd dyma fel mae pethau'n sefyll. Fe fydd gan Lafur 26 aelod yn y cynulliad newydd. Fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol 6 -dyna beth yw fflatleinio 6-6-6 rhif y bwystfil. mae'r ffigyrau hynny'n sicr.

Gan ddibynnu ar ganlyniad y sedd olaf yng Ngorllewin De Cymru fe fydd gan Blaid Cymru 14 neu 15 a'r Toriaid 12 neu 13. Dauddeg saith rhyngddyn nhw felly.

Mae clymblaid rhwng Llafur a'r Democrataid Rhyddfrydol yn bosib ond gyda dim ond 32 o aelodau fe fyddai angen disgyblaeth haearnaidd am dymor cyfan ac fe fyddai unrhyw hap neu ddamwain yn gallu dryllio'r mwyafrif. Ydy Rhodri'n fodlon dibynnu ar fys pleidleisio Brian Gibbons am ei fwyafrif ac a fydd Mike German yn gallu darbwyllo'i blaid i lywodraethu ar ol y methiant etholiadol. Mae'n bosib bod her i'w arweinyddiaeth ar y ffordd.

Dyw'r grwp llafur ddim am gwrdd tan ddydd Mawrth. Mae grwp Plaid Cymru yn cwrdd brynhawn yma. dwy'n meddwl bod hynny'n ddiddorol.

Y Bore wedyn

Vaughan Roderick | 08:43, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (3)

Diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r blogio byw neithiwr. Roedd hi'n wahanol! Fe fyddai nol i'r drefn arferol yn Yn hwyrach heddiw. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod hi'n agos rhwng y Tor茂aid a Phlaid am y sedd restr olaf yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n ymddangos y galla'r Democratiaid Rhyddfrydol gymryd un sedd o Blaid Cymru ar rest Canol De Cymru.

Y Blog BYW 4- brecwast

Vaughan Roderick | 04:10, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (8)

Rhodri yn bod yn Rhodri eto!

Si bod Llafur wedi ennill Wrescsam ond colli Bro Morgannwg

Dafydd Wigley newydd ddweud ei fod yn disgwyl garddio a nid gwleidydda o hyn ymlaen

Proffwydoliaeth y 成人论坛 Llafur;26 Plaid 14, Ceid 12, Dem Rhydd. 7 Ann. 1

Carwyn mewn trwbwl sydd hefyd yne effeithio ar y briffydolaeth

y moslem cyntaf ir cynulliad

Dwy wedi blino nawr.... sut mae Adam Price yn edrych mor ffres

S4C yn bennu....post cyntaf nesa

Y Blog Byw 1 - 4

Vaughan Roderick | 01:04, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (27)

O am ganlyniad! Plis ...hyd yn oed pleidlais restr Aberafan....

1.25 Plaid Cymru'n agos yng Nghastell Nedd yn ol y Democratiaid Rhddfrydol Llaur yn halio ei bodam gadw gorll Caerfyrddin

1.30 Mae Llafur yn poeni yn Islwyn

Bro Morgannwg yn agos iawn yn ol y Toriaid

Y turnout o leiaf pump y cant yn fwy na 2003

Diolch byth!!!! Canlyniad Islwyn. Trychineb i Lafur ond yr ymgeisydd annibynnol yn achub eu croen! Afydd hynny'n digwydd yng Nghaerffili?

2.15 Blaenau Gwent...dim problemau i Trish Law y gwrthryfel yn parhau!

Llafur ar y blaen o 100 yn Nyffryn Clwyd

Andrew Davies nol....nae'n ddyn lwcus iawn bod dim un o'r gwrthbleidiau yn llwyddo i sefydlu ri hum fel y dewis clir

Caerffili.....Mae Llafur yn lwcus heno ...y bleidlais yn syrthio ond neb yn elwa!

Castell Nedd un i wylio tro nesaf

LLanelli y sibrydion yn gywir felly ...200 rhwng Plaid a Llafur yng Ngorllewin Caerfyrddin

MWY Mae'r Toriaid yn y ras yng Ngorllewin Caerfyrdddin hefyd ac o bosib ar y blaen o drwch blewyn

Rhodri yn ol. Y Democrat Rhyddfrydol yn olaf...od gan mae "ras dau geffyl yw hon" Gallai seddi rhestr Elinor Burnham a Peter Black bod yn fregus.

Y Blog BYW 12-1

Vaughan Roderick | 00:00, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

Sylwadau (16)

49% wedi pleileisio ym Mon.

12. 22 Mae'n dawel...... duw fi eisiau clywed canlyniadau!

12.23; Y toriaid yn dweud mai nhw sydd ar y blaen ym mhleidlais ranbarthol Aberconwy

12.39 Llafur yn cyfaddef ei bod wedi colli Llanelli

12.50 Carwyn Jones mewn trafferthion ym Mhenybont

12.54 Democratiad Rhyddfrydol yn cyfaddef eu bod am fethu yng Ngheredigion

Y Blog Byw 11-12

Vaughan Roderick | 23:08, Dydd Iau, 3 Mai 2007

Sylwadau (9)

11. 13 Y BNP yn polio'n dda yn Wrecsam yn ol Richard. Rhagor o dystiolaeth o " turnout" isel mewn ardaloedd Llafur.

11.25. Eluned Morgan yn beio arian am arglwyddiaethau am "newid hinsawdd yr ymgyrch"

11.26 John Griffith wedi colli Dwyrain Canewydd i'r Dem Rhydd. yn ol y Ceidwadwyr.

11.37 Plaid wedi cipio Gorllewin Caerfyrddin yn ol y Dem. Rhyddfrydol. Son bod y bleidlais Lafur wedi colapsio ym Mlaenau Gwent.

11.47 sibrydion bod Plaid Cymru wedi ennill yn hawdd yn Arfon

Y Blog BYW 10-11

Vaughan Roderick | 17:43, Dydd Iau, 3 Mai 2007

Sylwadau (12)

10.59 Y blaidlais bost yn Llanelli yn agos iawn. Plaid yn meddwl bod hynny'n ffafrio nhw

10.50; Ein panelwyr ni mewn hwyliau da heno ...dioch byth! Eleri Morgan yn darogan y bydd hi'n saith y bore cyn cyhoeddi canlyniadau Caerdydd

10.40 Richard Wyn yn awgrymmu y bydd canran y bleidlais Lafur yr is heno nac mewn unryw etholiad ers 1918

10.35 rhaglen S$C wedi cychwyn Aled Huw yn darogan bod Llanelli'n agos

10.30 Mwy o'r arolwg
Pwy ddylai fod a'r dylanwad mwyaf dros lywodraeth Cymru?
Y cynulliad 56%
San Steffan 19%

10.28; "Turnout" o hyd at drigain y cant mewn ardaloedd Ceidwadol yn Abertawe a Chaerdydd

10.25 Canlyniad arall o arolwg barn y 成人论坛.
Os oedd na refferendwm i droi'r cynulliad yn senedd a'r hawl i ddeddfu a chodi trethi. Sut byswch chi'n pleidleisio?
Ie;47%
Na;43%
Ansicr 10%


10.20 Y Toriaid yn hyderus yng Ngorllewin Casnewydd. Llafur yn becso am ddwyrain y ddinas

10.00; Mae'n ddeg o'r gloch. Bant a ni felly. Dwy'n cyfrannu i raglen Radio Cymru ymhen ychydig funudau ac yn cychwyn ar S4C am 10.30. Gai bach o rybudd- peidiwch 芒 disgwyl gormod o flogio yn yr oriau cynnar hesb a maddeuwch i mi am unrhyw "deipos" neu gam-sillafu. Fe fydd cyflymdra a chywirdeb ffeithiol yn bwysicach na chywirdeb teipio heno! Mae arolwg barn gan y 成人论坛 yn awgrymu y bydd 58% o'r etholwyr yn pleidleisio...mi fwytai het Richard Wyn Jones os ydy honna'n gywir. Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu mae'r llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid yw hoff glymblaid bosib yr etholwyr gyda'r "enfys" yn ail. Y dewis lleiaf poblogaidd yw clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Diwrnod y Pleidleisio

Vaughan Roderick | 16:03, Dydd Mercher, 2 Mai 2007

Sylwadau (3)

Dw i ddim yn bwriadu blogio tra mae'r gorsafoedd pleidleisio ar agor. Fe fydd y blog yn fyw o'r eiliad maen nhw'n cau am ddeg o'r gloch.
Yn y cyfamser mae croeso i chi ddefnyddio'r edefyn hwn i bostio unrhyw sylwadau, argraffiadau neu broffwydoliaethau. Fe fydd y sylwadau hefyd yn ymddangos am ddeg.

Diwrnod y Pleidleisio

Vaughan Roderick | 16:03, Dydd Mercher, 2 Mai 2007

Sylwadau (0)


Dwy ddim yn bwriadu blogio tra mae'r gorsafoedd pleidleisio ar agor. Fe fydd y blog yn fyw o'r eiliad maen nhw'n cau am ddeg o'r gloch.
Yn y cyfamser mae croeso i chi ddefnyddio'r edefyn hwn i bostio unrhyw sylwadau, argraffiadau neu broffwydoliaethau.

Y ddefod o bleidleisio

Vaughan Roderick | 15:48, Dydd Mercher, 2 Mai 2007

Sylwadau (5)

Bwriais fy mhleidlais gyntaf ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn ddeunaw. Refferendwm y Farchnad Gyffredin oedd yr achlysur af fe bleidleisiais i yn erbyn. Dw i ddim yn cofio pam. Dw i wedi pleidleisio ym mhob un etholiad a refferendwm er hynny gan gefnogi buddugwyr weithiau ac achosion coll ar adegau eraill.

Mae profiad fy Mam yn wahanol. Mae hi'n wythdeg eleni a bwriodd ei phleidlais gyntaf yn etholiad cyffredinol 1950. Refferendwm 1997 oedd yr achlysur cyntaf iddi bleidleisio i'r ochor fuddugol. Gofynnais iddi unwaith pam oedd hi'n boddran o gwbwl ond i'w chenhedlaeth hi, yn enwedig ei chenhedlaeth hi o fenywod, roedd y bleidlais yn rhywbeth i'w thrysori a'i defnyddio.

Bues i'n sgwrsio a Huw Lewis (Llafur, Merthyr) heddiw. Mae Huw'n digalonni'n llwyr fod 'na genhedlaeth gyfan o fenywod yn ei etholaeth sydd erioed wedi bwrw pleidlais. Yn 么l Huw mae'r genhedlaeth hon bellach yn famau i blant ifanc- yr union bobol sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fwyaf. Eto i gyd does ganddyn nhw ddim diddordeb o gwbwl yn y cyrff sydd mewn sawl ffordd yn rheoli eu bywydau.

Mae Huw am weld pleidleisio gorfodol, fel sy'n digwydd yn Awstralia. Dw i ddim yn si诺r am hynny ond yn sicr mae 'na broblem ddifrifol.

Siop Rithwir Jack Brown

Vaughan Roderick | 10:29, Dydd Mercher, 2 Mai 2007

Sylwadau (3)

Ar 么l dos ddwbl o newyddion da i Blaid Cymru ddoe mae gan ein bwci Karl Williams ronyn o gysur i Lafur heddiw yn ei broffwydoliaethau olaf.

Bro Morgannwg

Llafur 4-7
Ceidwadwyr 5-4
Plaid Cymru 50-1
Dem. Rhydd. 100-1

Caerffili

Lafur 2-5
Ron Davies 3-1
Plaid Cymru 9-2
Ceidwadwyr 25-1
Dem Rhydd. 50-1

Sylw Karl; "Mae mwyafrif Llafur sylweddol a phleidlais Plaid Cymru gadarn yn golygu bod hwn yn dalcen caled i'r g诺r oedd arfer perchen y sedd"

Sylw Vaughan; "Am ddim ond yr eil dro dw i am anghytuno 芒 Karl. Dw i o'r farn mai Plaid Cymru yw'r bygythiad i Lafur yn fan hyn."

'Stwrbo cwsg Alun Cairns

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Mercher, 2 Mai 2007

Sylwadau (1)

Dw i newydd ddychwelyd o'r senedd lle'r oedd Post Cyntaf a Good Morning Wales yn darlledu'r bore 'ma. Roedd y gwleidyddion i gyd mewn hwyliau da gan wybod, efallai, bod 'na fawr o ddim y gallan nhw wneud i newid pethau nawr.
Roedd Alun Cairns yn grac da fi am 'stwrbo ei gwsg. Rhag ofn i unrhyw un gamddeall, cwyno oedd Alun am alwadau ff么n ben bore o bencadlys y Tor茂aid yn gofyn iddo gyfieithu rhai o'r straeon o'r blog. Mae Alun yn un da am gymryd j么c ond fe wnaeth e wgu pan awgrymodd Darren o "Positif Politics" y gallai'r Tor茂aid yng Ngorllewin De Cymru efelychu Llafur yn y Gogledd. Awgrymodd Darren fabwysiadu'r slogan "Vote Titherington- Get Smart!" . A barnu o'i ymateb dw i ddim yn synhwyro bod Alun yn ffan mawr o'i gyd-ymgeisydd.

Linc

Vaughan Roderick | 20:43, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Sylwadau (0)

Fe wnes i fwynhau er nad wyf yn gwbwl sicr fy mod yn ei ddeall. Democrat o'r Unol Daleithiau yn cymharu Edward I yng Nghymru 芒 George Bush yn Iraq. Mae'n wahanol!

Seddi i'w gwylio

Vaughan Roderick | 17:13, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Sylwadau (6)

Mae pawb yn hen-gyfarwydd erbyn hyn 芒'r seddi allweddol yn yr etholiad yma ac fe fyddwn ni i gyd yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniadau Aberconwy a Gogledd Caerdydd, Ceredigion a Llanelli. Ond dw i am restri pum sedd arall i'w gwylio lle y gallai pethau annisgwyl ddigwydd, un o bob un o'r rhanbarthau etholiadol.
Yn y gogledd mae'n werth cadw golwg ar , Mae llawer o s么n wedi bod am seddi cyfagos Gorllewin Clwyd a Delyn ond os ydy hi'n noson drychinebus i Lafur gallai hon fynd hefyd.
Yn y Gorllewin a Chanolbarth dw i'n dewis fel etholaeth lle mae sioc yn bosib. Ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwylio eu cefnau'n ddigon da fan hyn tra'n taflu adnoddau a gweithwyr at Geredigion?
yw fy newis yng Ngorllewin De Cymru. Mae yna sibrydion rhyfedd yn dod o'r ail ddinas y gallai'r gweinidog menter, Andrew Davies, fod mewn trafferthion.
Yng Nghanol De Cymru gallai gweinidog cabinet arall, Jane Hutt, fod mewn peryg ym . Cafodd Llafur ganlyniad gwael mewn is-etholiad Cyngor yma rai wythnosau yn n么l. Ydy hynny'n argoeli rhywbeth?
Yn olaf yn yn Nwyrain De Cymru fe fyddwn i'n awgrymu gwylio allan am ganlyniad sioc y noson yn 1999. Ydy'r un peth am ddigwydd eto?
Nawr, mae'n ddigon posib na fydd yr un o'r seddi yma'n newid dwylo. Dyma'r ail reng o frwydrau ond fel yn Rygbi mae'r ail reng yn gallu ennill y g锚m!

Gareth Thomas- un cwestiwn bach

Vaughan Roderick | 12:11, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Sylwadau (9)

Fe fydd cyn AS Llafur Gorllewin Clwyd Gareth Thomas yn datgan ei gefnogaeth i ymgeisyddiaeth Dafydd Wigley'r prynhawn yma ac yn cymell pobol y gogledd i ddefnyddio eu hail bleidlais dros Blaid Cymru. Mae Gareth yn disgwyl cael ei ddiarddel gan Lafur o ganlyniad. Ond beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn mae fe'n ei ddweud a'r ymgeiswyr hynny sy'n arddel o slogan "Vote Labour-Get Wigley"?

Noson y cownt

Vaughan Roderick | 12:06, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Sylwadau (3)

Ar 么l treulio鈥檙 bore yng Nghasnewydd (dinas ddi-boster o'r hyn a welais i) dw i newydd fod yn cael cipolwg ar y stiwdio lle byddwn yn darlledu Nos Iau.
Dewi Llwyd fydd yn y gadair, fel arfer, gyda Richard Wyn Jones a finnau gwneud y gwaith dadansoddol. Rhuanedd Richards fydd yn holi'r gwleidyddion yn y stiwdio. Ein panelwyr y tro yma yw Eluned Morgan, Dafydd Iwan, Guto Bebb ac Aled Roberts. Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn y stidwio VR (virual reality nid Vaughan Roderick!)
Yn ogystal 芒'r darllediadau arferol o'r canolfannau cyfri fe fyddwn hefyd yn darlledu'n fyw o'r senedd, lle mae disgwyl i nifer sylweddol o bobol ymgasglu i wylio'r canlyniadau. Am y tro cyntaf fe fyddwn yn blogio tra'n darlledu ac rydym wedi gwahodd rhai o flogwyr annibynnol amlycaf Cymru i ymuno 芒 ni. Y syniad yw eu bod yn gallu rhoi eu "sbin" unigol eu hunain ar y wybodaeth wrth iddi ein cyrraedd.

Jack Brown- Dwyrain Caerfyrddin a Llanelli

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Sylwadau (5)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithwir.

Dw i'n ildio i bwysau yn fan hyn! Ar ar 么l sawl cais dyma brisiau Karl ar gyfer dwy o etholaethau'r Gorllewin.

Gorllewin Caerfyrddin a de Penfro

Plaid Cymru 4-7
Llafur 5-2
Ceidwadwyr 7-2
Dem. Rhydd. 50-1


Llanelli

Plaid Cymru 8-11
Llafur EVS
Ceidwadwyr 100-1
Dem. Rhydd. 100-1

Os ydy'r ffefrynnau yn ennill ym mhob ras etholaethol (Byddan nhw ddim- dyna pam y'ch chi byth yn gweld bwci tlawd)

Llafur 24-25* (-4/5)
Plaid 8 (+3)
Ceidwadwyr 3 (-)
Annibynnol 1/2*

* Dyw Karl ddim yn gallu dewis rhwng Llafur ac Annibynnol yn Wrecsam

Carwyn Jones yw'r ffefryn i olynu Rhodri pan ddaw'r amser ond er gwaethaf sibrwd am gytundeb rhyngddyn nhw mae Karl yn rhagweld mae Jane Davidson fydd ei brif wrthwynebydd. Ar 么l dweud hynny er mai Carwyn yw'r ffefryn amlwg ym Mhen-y-bont dyw e ddim yn gallu bod yn gyfan gwbwl sicr o'i sedd.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.