Etholwyd Dai Davies a Edmund Bailey mewn cyfarfod Cyngor ym Mhencadlys NFU Cymru ar faes y sioe yn Llanelwedd. Ar 么l cael ei ethol, fe dalodd Dai deyrnged i Peredur Hughes am ei waith caled fel llywydd NFU Cymru yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Meddai Dai Davies, "Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i mi weithio gyda Peredur Hughes yn ystod fy nghyfnod fel is-lywydd yr Undeb, a rwy'n dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol".
Yn ystod ei ddwy flynedd fel llywydd NFU Cymru, disgwylia Dai, sy' n berchen ar fferm laeth 360 acer, a Chwmni Gosod Tai ger San Cl锚r, weld ffermwyr a phroseswyr llaeth yn parhau i ddod at ei gilydd. Mae nifer o ffermwyr yn eu 50'au yn meddwl o ddifrif am eu dyfodol", meddai.
Ddwy flynedd yn 么l, dechreuodd Dai bartneriaeth gydag un o'i weithwyr, Anthony Jones, o dan yr enw Fenni Farms. Mae Anthony a Dai yn derbyn cyflog o'r busnes sy'n gyfatebol a'r nifer o oriau mae nhw'n ei weithio a maent hefyd yn rhannu unrhyw elw o'r fferm.
Mae gan Dai ddwy ferch sydd yn byw yng Nghaerdydd, ond gan nad oes diddordeb ganddynt yn y fferm, cred Dai mai'r bartneriaeth rhyngddo ef ac Anthony yw'r opsiwn gorau i bawb. "Oni bai am bartneriaeth, byddai wedi bod yn amhosibl i mi weithio fel Is-Lywydd NFU Cymru dros y bedair mlynedd diwethaf," meddai.
Wedi iddo glywed ei fod wedi ei ethol yn Is-lywydd yr Undeb am y ddwy flynedd nesaf, dywedodd Edmund Bailey; "Mae gen i lot i ddysgu am fy r么l newydd a rwy'n gobeithio'n fawr bydd y cydweithrediad rhwng Dai a minnau yn gwneud cymaint dros yr Undeb a wnaethpwyd gan y t卯m llywyddol diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y sialens o fod yn Is-lywydd NFU Cymru."
Emma Evans (NFU)
Rydym fel ardal yn ymfalch茂o yn llwyddiant Dai ac yn dymuno'n dda iddo.
Erthygl o bapur bro Y Cardi Bach.
|