Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i'r Parchedig Ddoctor Felix Aubel
Cefndir: Os ydych yn aelod mewn capel, rydych yn gwybod mor fflat mae hi'n gallu bod os nad oes gweinidog ganddoch; neu yn waeth na fflat. Os ydych yn swyddog mewn capel heb weinidog, mae'r gofid yn fwy, ac mae dipyn o'ch amser yn mynd yn pendroni dros y trefniadau y gellir eu gwneud i geisio parhad i waith yr Eglwys.
Tua pedair blynedd yn 么l bu farw James Henry Jones gweinidog Capel y Graig, Penybont a Ffynnonbedr, ac wedi'r flwyddyn gyntaf, dechreuodd yr hunan-holi yngl欧n 芒'r ffordd ymlaen. Parhaodd y gobaith y byddem eto yn cael bugail, a chadwodd yr eglwysi yn weithgar iawn, ond heb ddod yn agosach at alw gweinidog.
Daeth Ionawr 2005 heb unrhyw arwydd bod pethau yn mynd i newid, ond daeth tro ar fyd gyda ymweliad y Parchg Ddr Felix Elfed Aubel 芒'r cylch, ym mis Chwefror ac wedyn ym mis Gorffennaf. Derbyniodd Dr Aubel alwad unfrydol yr ofalaeth ym mis Hydref a dechreuodd weinidogaethu yma ar Sul cyntaf o Fawrth.
Y Sefydlu: Daeth tyrfa ynghyd ar gyfer y cwrdd sefydlu yn y prynhawn, llawer ohonynt o Geredigion yn cynrychioli cyn-eglwysi'r gweinidog sef Neuadd-lwyd, Peniel Aberaeron, Llwyncelyn, Mydroilyn a Seilo Llan-non. Daeth eraill o ardal Y Cardi Bach a Clebran heblaw am aelodau'r dair Eglwys. Roedd nifer o weinidogion yn bresennol yn cynnwys y Parchg Robin Samuel (gofal am y sefydlu), y Parchg T Howell Mudd (offrymodd weddi'r urddo), y Parchg T J Irfon Evans (a bregethodd), a'r Parchgn Beti Wyn James, Jill Hailey Harries, Wynford Thomas, Guto Prys ap Gwynfor, Peter Thomas, Emyr Lyn Evans, Tom Defis, Kevin Davies, Irfon C Roberts, Gwyn Ieuan Morgan ac E Denzil James. Cynrychiolwyd cyn-ofalaeth Dr Aubel gan Mr Elfed Howells a Chyfundeb Aberteifi gan Mrs H Gwendoline Evans.
Mrs Alice Evans a gyflwynodd croeso Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin; siaradwyd dros yr ofalaeth gan Miss Mary Bowen (Capel y Graig), Mr Thomas John Griffiths (Penybont) a Mr Tomos Howells (Ffynnonbedr).
Mae'r croeso a geir wrth y byrddau yn rhan o ddigwyddiadau bywyd gwledig ac yr oedd digon o fwyd dros ben ar 么 te i gynnig swper hefyd i gynulleidfa'r nos. Y gweinidog oedd llywydd y cwrdd hwyrol, pryd y pregethwyd gan y Parchedig D Andrew Lenny BA, Baker Street, Aberystwyth. Cymerwyd y rhannau arweiniol a cyhoeddwyd yr emynau gan Mrs Jean James-Lewis, Mrs Caroline Harries, Y Parch Dorian Samson, Mr Hugh Davies, Y Parchg Llinos Edwards a Mr Aeron Jones.
|