成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Llien Gwyn
Mike Phillips Mike a'r Gamp Lawn
Ebrill 2005
Rydym i gyd fel ardal yn llawenhau yn llwyddiant Michael Phillips, 22 oed, ym myd rygbi. Mae'n fab i Trevor a Morfydd, Fferm Parcyrabbot, San Cl锚r ac mae ganddo ddau frawd h欧n, Robert a Mark.

Dechreuodd Michael chwarae rygbi yn Ysgol Gynradd Bancyfelin o dan hyfforddiant Mr. Trefor Evans, Glyn-mynach, Hendygwyn. a oedd yn Brifathro yno ar y pryd. Yna bu'n chwarae yn San Cl锚r o dan 9 oed ac o dan 13 oed, gyda'r hyfforddwyr Lloyd Davies a Huw Lewis.

Symudodd wedyn i d卯m ieuenctid Hendygwyn at Lynn, Ray a Morlais a chafodd pob cefnogaeth gan Glwb Rygbi Hendygwyn. Ar 么l gadael Ysgol Dyffryn Taf a'r athrawon, Christopher Skone a Graham Evans, cafodd ei ddewis i d卯m dan 21 Llanelli. Bu'n chwarae i d卯m Cymru mewn cystadlaethau saith-bob-ochr gan deithio'r byd, i Dubai, Malaysia, Singapore a Chile. Pan yn 19 oed chwaraeodd i d卯m Cymru o dan 21 oed ac ennill y Grand Slam' yn Ffrainc a chystadlu yng nghwpan y byd o dan 21 yn Ne Affrica.

Yn dilyn hyn enillodd y Western Mail Sports Star Award' am 2003 - cystadleuaeth i bob math o chwaraeon. Hefyd enillodd wobr newyddiadurwyr Rygbi am y 'Chwaraewr mwyaf addawol y flwyddyn'.

Erbyn hyn roedd wedi ei ddewis i chwarae gyda'r Scarlets; Steve Hansen yn ei ddewis i fod yng ngharfan Cymru ac aeth allan gyda nhw ar daith i Awstralia a Seland Newydd. Enillodd ei gap h欧n cyntaf wrth chwarae yn erbyn Romania, yn Wrecsam, 2003. Mike Ruddock yn ei ddewis i garfan Cymru a mynd ar daith i'r Ariannin a De America, a'r t卯m yn cael ei gyflwyno i Nelson Mandela yn 2004.

Ymarfer gyda charfan Cymru eleni eto ac ar y fainc yn y g锚m yn erbyn Yr Alban. Bu'n chwarae yn Twickenham, i godi arian at Ap锚l Tsunami. Roedd hefyd ar y fainc yn y g锚m fawr rhwng Cymru a'r Iwerddon - braint fawr i Michael oedd bod yn rhan o ddathliadau'r Grand Slam.

Mae cyfnod hapus a rhyfeddol yn y Scarlets yn dod i ben gan ei fod yn symud i'r 'Gleision' Caerdydd y tymor nesaf - pennod arall yn dechrau.

I Michael, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i wisgo Crys Coch Cymru, a thrwy rygbi mae wedi teithio'r byd, gwneud ffrindiau di-ri a chwrdd 芒 nifer fawr o enwogion. Diolch i'r hyfforddwyr i gyd.

Llongyfarchiadau mawr i Michael ar ei lwyddiant ac edrychwn ymlaen yn awr i ddilyn ei yrfa yn y blynyddoedd i ddod.

Gair gan ei hyfforddwr cyntaf, Trefor Evans
Mike Phillips ar y chwith yn 10 oed ar 么l ennill g锚m bwysig ym Mharc Y Strade.Dechreuodd Mike chwarae rygbi pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bancyfelin. Buan iawn dangosodd ei ddawn, yn arbennig ei barodrwydd i daclo bechgyn llawer yn fwy nag ef. Gan nad oedd llawer o fechgyn yn yr ysgol, gemau 7, neu ambell waith 10, bob ochr oedd yr ysgol yn chwarae gyda Mike yn chwarae yn safle'r mewnwr.

Pan oedd dim ond yn naw oed cafodd ei ddewis i chwarae i Ysgolion Caerfyrddin a'r Cylch yn erbyn ardaloedd eraill De Cymru. Yn ystod ei ddwy flynedd gyda'r t卯m yma symudodd Mike i chwarae yn y rheng 么l. Yn ystod ei flwyddyn diwethaf yn Ysgol Bancyfelin cafodd ei ddewis i chwarae i Ysgolion Gorllewin Cymru yn erbyn Ysgolion Dwyrain Cymru. Cynhaliwyd y g锚m ar Barc y Strade gyda'r Gorllewin yn ennill o 5 pwynt i 0, gyda wythwr y Gorllewin, sef Michael Phillips yn sgorio unig cais y g锚m.

Chwaraeodd Mike am y tro cyntaf yn y Stadiwm Cenedlaethol, sef yr hen Parc yr Arfau, pan oedd ond yn 10 oed. Roedd yn chwarae i Ysgolion Caerfyrddin a'r Cylch mewn cystadleuaeth 7 bob ochr Ysgolion Cymru dan 11. Gobeithio y byddwn yn ei weld eto yn chwarae ar y Maes Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd nesaf yn gwisgo'r crys coch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy