Mae Ysgol Tafarnspeit ar ei ffordd i fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch Ynni Adnewyddol fel canlyniad i'r paneli solar a gafwyd ar 么l ei noddi gan y Gr诺p Cyd-weithredol (Co-op).
Mae'r ysgol gynradd, gyda 205 o ddisgyblion, yn un o 100 ar hyd a lled Prydain, a'r cyntaf yng Nghymru i dderbyn y paneli 拢20,000, sy'n cael eu hariannu yn rhannol gyda chynllun Ynni Gwyrdd i Ysgolion a'r llywodraeth.
Dywedodd rheolwr y fenter, Melanie Phillips: "Fel adwerthwyr cymunedol, gyda phrofiad hir o ddefnyddio ynni, mae'n addas ein bod yn awr yn defnyddio'n arbenigrwydd ac arian i helpu'r ysgol leol hon i dorri lawr ar maint y carbon diocsid a gynhyrchir.
Bydd Ysgol Tafarnspeit yn gallu addysgu'r genhedlaeth nesaf am newid hinsawdd gan ddangos esiampl i ysgolion eraill a chartrefi yn Hendygwyn. Roedd y cymeriad lliwgar Sunny Solar yn bresennol gyda'r disgyblion a'r staff pan gafodd y paneli eu troi 'mlaen yn swyddogol ar ddydd Llun, Mai 19.
Bydd y 24 panel solar yma yn cynhyrchu tua 3,300kWh o drydan bob blwyddyn, digon o bw锚r i gyfrifiadur ysgol am 33,000 o oriau, gwneud 180,000 cwpaned o de i'r athrawon sychedig, a thrwy hyn, arbed tua dwy dunnell o garbon diocsid.
Bydd y disgyblion yn medru cadw golwg ar faint o egni a gynhyrchir a maint y CO2 a arbedir, trwy sylwi ar y monitor yn yr adeilad. Mae'r disgyblion a'r athrawon yn croesawu'r paneli solar ar y to yn gynnes iawn. Dywedodd Charlie Scan, Blwyddyn 6: "Bydd y paneli yn help i ni gasglu ynni mewn ffordd dda i'r amgylchedd. Ychwanegodd y prifathro, Kevin Phelps ei bod yn falch iawn i fod ymhlith yr ysgolion sy'n arwain y ffordd wrth gynhyrchu ynni adnewyddo trwy gynllun hael y Co-op.
|