Y Terfysgoedd yn dechrau Ar y noson o Fai 13, 1839, llai nag wythnos ar 么l iddi agor, dinistriwyd y glwyd yn Efailwen a llosgwyd dollborth. Roedd pob person wedi cudd - wisgo, a rhai wedi gwisgo mewn dillad merched au wynebaun ddu. Cyfeiriwyd at yr arweinydd fel Beca; pwy bynnag oedd hi, cafwyd buddugoliaeth ysgubol a gorchmynnwyd i Ymddiriedolaeth Hendygwyn- ar-Daf i bedair o'r clwyd i gael eu datgymalu ar unwaith. Felly ganwyd chwedl Merched Beca. Y Terfysgoedd yn lledu Gwelwyd mwy o derfysgoedd rhwng 1842 3 y tro hwn yn dechrau yn San Cl锚r. Yma gerllaw cyffyrdd yr Ymddiriedolaethau Main a Hendygwyn-ar-Daf, gorfodwyd ffermwyr, porthmyn gwartheg a theithwyr eraill i dalu ddwy waith, o fewn milltir, fel canlyniad i glwyd newydd a adeiladwyd er mwyn atal osgoi talu treth. Ar y 18fed o Dachwedd ym 1842, Fe wnaeth Beca a'i merched ddinistrio'r clwydi ym Mhwlltrap a San Cl锚r. Erbyn hyn roedd y terfysgoedd wedi lledu'n gryf. Doedd dim prinder o bobol yn fodlon chwarae r么l Beca, a dim prinder o ddilynwyr chwaith. Cafodd sawl clwyd ei dinistrio dros Sir Benfro, er enghraifft, yn Prendregast gerllaw Hwlffordd, Arberth, Robeston Wathen a Scleddau gerllaw Abergwaun. Hefyd lledodd y terfysg i ddyffrynnoedd Teifi a'r Tywi ac ymhen amser, i'r ardaloedd lled-ddiwydiannol o Sir Gaerfyrddin. Allan o lyfr Pembrokeshire gan Bryan John.Cyhoeddiad cyntaf gan David Charles, Publishers 1976.
|