Dydd Mawrth, Medi 30, daeth cyfnod o bron deugain mlynedd yn hanes Tony Hughes i ben fel wyneb cyfarwydd yn Siop y Fferyllydd, Hendygwyn, pan benderfynodd ymddeol o'i waith.
Gyda thristwch y clywodd ardal eang am ei ymddeoliad, oherwydd roedd Tony yn berson poblogaidd, yn barchus gan bawb am ei wasanaeth clodwiw a'i gyngor doeth i bawb a ddeuai ato am gymorth. Fel dywedodd un wraig, "o'dd e gystal 芒 doctor".
Bu'n ddisgybl yn Ysgolion Cynradd Llangeler a Henllan, ac yn Ysgol Ramadeg Llandysul - roedd Margaret ac yntau yn yr ysgol gyda'i gilydd, lle dechreuodd y garwriaeth!
Ar 么l gorffen yn Llandysul, bu'n gweithio gyda 'British Nylon Spinners' Pontypwl cyn mynd i astudio i Ysgol Fferylliaeth Gymraeg Caerdydd, lle graddiodd ym 1964. Yn yr un flwyddyn, priododd 芒 Margarette Williams, ei gariad o ddyddiau ysgol!
Wedyn, bu'n Rheolwr gyda Boots yn Ystrad, Rhondda a Bargoed.
Ym 1969, roedd A.E. Evans, Caerfyrddin yn chwilio am Reolwr i Fferyllfa Hendygwyn, a dewiswyd Tony i'r swydd yn Nadolig 1969.
Ym 1973, prynodd Tony'r busnes ac mae'r gweddill yn hanes!
Ganwyd iddynt dri o blant - Jonathan, Dafydd a Mai ac erbyn hyn, mae ganddynt chwech o wyrion ac un wyres - Joseff (8 oed) ac Isaac (7) plant Jonathan a Lisa; Tomos (15), Ifan (9) a Mali (6) - plant Dafydd a Fiona; Gruffydd (6) a Gwyn Llewelyn (3) - plant Marc a Mai.
Gwelir eisiau Tony yn fawr yn yr ardal a bydd ymweld 芒'r siop, heb weld ei wyneb serchog yn pipo drwy'r ffenest yn yr ystafell gefn, yn brofiad rhyfedd.
Dim ond un peth allwn ddweud, sef "pob dymuniad da i ti, Tony, ar 么l blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon yn y dref a'r ardal". Mae pawb am ddweud - Diolch yn fawr i wr bonheddig a ffrind annwyl.
Fel y dywedodd un o ffans mwyaf Tony, "o diar, beth i ni'n mynd i wneud heb Mr. Hughes!".