Ann Williams a enillodd y gadair am ysgrifennu stori fer yn eisteddfod noson lenyddol Cymdeithas Cymry Porthcawl 2009.
Cafodd ei mam, Emily Williams ei geni a'i magu ym Mrynawel, Blaenwaun, a bu yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendygwyn yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn symud i fod yn athrawes yn y Caerau, Maesteg, lle cafodd Ann ei geni.
Mae Ann yn perthyn i Tegwen James, Penybryn ac yn dal i fod 芒 diddordeb yn ardal Blaenwaun, ac mae ganddi atgofion hapus am wyliau a dreuliodd yno yn blentyn bach.
Bellach, mae Ann wedi ymddeol ar 么l bod yn athrawes a Phennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhenybont ar Ogwr, ac yn awr mae'n byw ym Mhorthcawl gyda'i gwr Harold.
Tybed a oes rhai ohonoch yn cofio ei hewythr Edwin Williams a fu'n Brifathro yn Ysgol Gynradd Penybont, Trelech flynyddoedd yn 么l?
|