|
Cynhaliwyd oedfa Gymun Undebol awyr-agored, yn gyntaf o dan arweiniad Y Parch. Llinos Gordon, yn cael ei chynorthwyo gan y Parch. Eirian Wyn Lewis.
Er bod y sgw芒r yn llawn 'roedd yna wacter hefyd am nad oedd y 'deryn mowr' yno ymysg y gynulleidfa, gyda'i wen a'i j么c.
Erbyn 4 o'r gloch roedd y dyrfa wedi cynyddu a phobol o bell ac agos wedi tyrru i'r gwasanaeth coffa.
Gweddi deimladwy I ddechrau offrymwyd gweddi deimladwy gan Y Parch. Tecwyn Ifan.
Cyfeiriodd Hefin Wyn (Cadeirydd) at ddawn fawr Dil i wneud i bobol chwerthin. "Hiwmor," meddai "yw'r lefain a'r sment yn ein bywydau".
Tarddai ffraethineb Dil o bridd ei filltir sgw芒r ac roedd ei draed yn solet ar y tir hwnnw. Darllenwyd cerdd i Dilwyn o waith Y Prifardd Eirwyn George, gan Eirianwen Thomas.
Cyn i'r Parch. Tecwyn Ifan ganu ei g芒n deyrnged i Dil, Hishtw, canwyd dwy g芒n gan blant Ysgol Gymuned Maenclochog, sef Gwena a Ni yw Plant Maenclochog.
Talwyd teyrnged gyfoethog i Dil gan Y Parch. Hywel Jones - ei gyn-weinidog. Bu'n s么n am ei fywyd fel gwas fferm, fel ffermwr, y gyrrwr lori a'r dyn insiwrin.
Stor茂wr dawnus Soniodd am ei ddawn naturiol fel stor茂wr, am ei nerfusrwydd cyn camu i'r llwyfan, a'i ddawn i wneud i bobol chwerthin yn iach; bu'n gymwynaswr mawr a rhoddodd filoedd tuag at bob math o achosion da.
Braint, meddai Hywel Jones, oedd cyfeillachu 芒 Dil dyn y bywyd crwn.
Soniodd y Prifardd Eirwyn George am ei gyfeillgarwch 芒 Dil. Roedd yn gyfaill da gyda diddordeb mawr mewn pobol - eu hynt a'u helynt.
Eirwyn a ysgrifennodd yr englyn a welir ar y maen coffa - y maen fu unwaith, efallai, yn dal iet i fyny - digwyddiad a fyddai wrth fodd hiwmor Dil. Dyma'r englyn: D么i 芒 mwynder Bro Cerwyn - o'i Hafod I'w lwyfan i ennyn Hiwmor i danio dyn Daliwr y dorf oedd Dilwyn
Dadorchuddio'r gofeb Munud ddwys iawn oedd honno pan ddadorchuddiwyd y gofeb gan ei wraig Aerona ac Enfys, ei ferch - munud pan mae'r galon yn llawn o atgofion melys a thristwch am y golled.
Fel y dywedodd Hefin Wyn, "Mae arwyddoc芒d llawer o'r Meini ar lethrau'r Preseli wedi mynd yn angof yn niwl amseroedd, ond mae'r cerrig a godwyd yn y cyfnod diweddar, wedi cadw'n fyw y cof gwerin am lewion fel Waldo Williams, W.R. Evans a'r Parch. Joseph James. Mae Dilwyn Edwards yn yr un llinach".
Dilwyn Hafod Ddu
"Shwt ichi heno, Bois", o ben y llwyfan, Dilwyn sy 'na, a'i w锚n fel heulwen lydan. Mae'r dorf yn rowlio chwerthin wrth ei weld-e, A phawb, waeth lle y bo, yn rhico dag-e. Fe allech dyngu bod ei gorff e'n codi, A'i liged fel dwy seren yn gwreichioni. Heno, 芒 dawn yr actor pert dan glo, Mae'i enw'n aros ar dafodau'r fro.
Bu galw arno, do, drwy Gymru gyfan, I hudo'r cannoedd gyda'i sbarc ar lwyfan, A gwelsom fawrion gwlad yn corco chwerthin Wrth wrando ar arabedd y dyn siwrin. Er iddo fynd ymhell, a gwneud ei si芒r, Anghofiodd e erioed mo'i filltir sgw芒r.
0! gwyn eu byd y rhai drwy bob rhyw strach A wnaeth eu rhan i wneud y pethau bach. A gwyn eu byd y rhai, drwy storm a heulwen, A wnaeth i bobol eraill deimlo'n llawen. A Dil yr Hafod bellach wedi mynd Mae'i gwmni'n loetran yn y cof....fel ffrind.
Eirwyn George
Darllenwyd y gerdd hon gan Eirianwen Thomas
|
|