Cafodd Clwb Hamdden Llety Cynin ei lansio'n llwyddiannus pan ddaeth seren y Gweilch, Mike Phillips, i berfformio'r seremoni agoriadol ddydd Sadwrn, Mai 3ydd, o flaen cynulleidfa o gannoedd o ymwelwyr.
Trefnwyd dau ddiwrnod agored gan y cIwb hamdden, sy'n sefyll ar safle Fferm Penycoed yn Sancl锚r, dros benwythnos Calan Mai.
Y clwb hamdden yw'r cam cyntaf o ddatblygiad dau gam ac mae'n cynnwys pwll nofio dan do deugain troedfedd o hyd gyda gwrthlif, sba, sauna, campfa arloesol a lolfa goffi. Mae Cam 2 yn cynnwys cyfleusterau Ilety ar gyfer hyd at 24 o westeion a chanolfan gynhadledd, a bydd yn agor yn ddiweddarach ym mis Mai.
T欧 coets sydd wedi'i drosi yn ddiweddar yw Llety Cynin ac mae'n rhan o brosiect arallgyfeirio ar gyfer y fferm laeth weithredol; ariannir y prosiect yn rhannol gan Grant Trosi Gwledig o Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae 300 o wartheg godro ar y fferm ac mae'r perchnogion, Elizabeth a Dyfrig Davies wedi bod yn rhan o deuluoedd ffermio erioed. Roedd rhieni Elizabeth yn dod o deuluoedd o ffermwyr a daethant i ffermio yn Sir Gaerfyrddin o Benrhyn G诺yr yn y 1960au. Daeth teulu Dyfrig hefyd i ffermio yn yr ardal yn ystod y 1960au, yn Wernmackwith, Llanfihangel-ar-arth.
Cymerwyd 18 mis i gwblhau Llety Cynin a lle bo hynny'n bosib mae Elizabeth a Dyfrig wedi defnyddio crefftwyr a defnyddiau lleol i greu'r cyfadeiladau ac mae Elizabeth yn hael ei chanmoliaeth i bob un sydd wedi helpu. "Mae yna gymaint o bobl y mae'n rhaid i ni ddiolch iddyn
nhw am wireddu ein breuddwyd,o'r cymorth i ariannu'r
prosiect trwy Fanc y Nat West a'r Grant Trosi Gwledig hyd at
yr holl grefftwyr lleol sydd wedi rhoi o'u hamser a'u sgiliau;
rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd. 0 wranda ar yr holl
sylwadau ffafriol dderbynion ni yn ystod y penwythnos
agored, rydyn ni'n gwybod ei fod e wedi bod yn werth chweil."
Bydd Llety Cynin yn rhoi hwb mawr i'r economi leol a rhagwelir
y bydd yn cyflogi 9 - 15 o staff yn ystod y flwyddyn gyntaf i
wasanaethu'r clwb hamdden, y caffi a'r cyfleusterau lletya a
chynadledda.
Yn ystod y penwythnos agored roedd croeso i rai oedd, o bosib,
am ymaelodi i ddod i brofi'r cyfleusterau ac roedd Elizabeth a
Dyfrig wrth eu bodd gyda'r ymateb, fel y dywedodd Elizabeth: "Roedd y penwythnos agored yn gyfle i rai oedd o bosib am
ymaelodi ddod i weld y cyfleusterau ardderchog sydd gyda ni
yma yn Llety Cynin. Roedd Mike Phillips yn ffantastig; roedd
e'n hapus i roi ei lofnod a chael tynnu ei lun gyda'n
gwesteion. Roedden at wrth ein bodd hefyd gyda sylwadau
positif yr ymwelwyr yngl欧n 芒'r adeilad. Roedd yr hyn sydd
gennym ni i'w gynnig wedi gwneud cymaint o argraff ar rai
pobi nes iddyn nhw ymaelodi ar unwaith."
Mae ystod o opsiynau aelodaeth ar gael o hyd ar gyfer unigolion,
teuluoedd a grwpiau corfforaethol ac mae croeso i unrhyw un
sydd 芒 diddordeb yn yr hyn sydd gan Llety Cynin i'w gynnig i
ddod i weld y cyfleusterau neu i ddod am goffi a byrbryd yn y
clwb.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y cyfleusterau sydd ar gael yn y clwb hamdden, neu am y
cyfleusterau Iletya neu gynadledda yn Llety Cynin, cysylltwch ag
Elizabeth neu Dyfrig Davies ar 01994 231516.
|