Ychydig amser ar 么l i mi gyrraedd y brifddinas, Tirana, aethom am dro tua chanol y lle. Ychydig ddyddiau ar 么l y Pasg ydoedd, a dyma ni'n edrych i fyny a sylweddoli bod baner anferth yn chwifio uwchben. Yn ffodus, roedd fy nghyfaill yn medru cyfieithu'r geiriau ar y faner. Dyma'r genadwri i bawb a gerddai trwy'r strydoedd hynny: "Yn enw y Crist atgyfodedig, y mae Eglwysi Albania yn dymuno Pasg llawen i chwi oll". Tybed a fuasai'n debyg i ni weld y fath neges uwchben strydoedd Caerdydd eleni?
Yng Nghymru, y mae gennym ryddid crefyddol i wneud ein safbwynt yn glir yngl欧n 芒 natur Cristnogaeth. Nid felly y bu yn Albania am flynyddoedd lawer oherwydd, dan yr arweinwyr comiwnyddol a fu mewn grym am bron hanner canrif, poenydiwyd crefyddwyr o unrhyw fath yn ddidrugaredd. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu deunaw mil o Gristnogion a Mwslemiaid wedi colli eu bywydau yn yr union un cyfnod. Felly, rhyfedd oedd cael cyfle i fynychu gwasanaeth yn y Gadeirlan yn Tirana ar y Sul a chanfod bod cannoedd, ie cannoedd, o bobl ifanc yn bresennol. Mor wahanol yw ein sefyllfa ni ar y cyfan, onide?
Gallwn fentro dweud bod yr Eglwys yn Albania wedi atgyfodi fel petai o'r meirw. Mae'r gair `Atgyfodiad' yn arwyddocaol iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth i Gristnogion baratoi erbyn prif 糯yl ein Ffydd. Ac wrth gyfeirio at brofiad Albania, cwyd cwestiwn anochel - Os na chyfododd Crist, pa reswm y rhoddwn ni am enedigaeth yr Eglwys Gristnogol yn y lle cyntaf? At hyn gellid ychwanegu cwestiwn arall - Sut yr awn ati i esbonio ail enedigaeth yr Eglwys yn Albania?
Mae rhai yn credu bod y gwragedd a ymwelodd 芒'r bedd ar fore Sul y Pasg wedi breuddwydio yn ofer, neu wedi colli gafael ar eu synnwyr. Mae eraill yn taeru mai gweld drychiolaethau yr oeddent a dim byd mwy. Ond nid dyna'r esboniad a gawn ni yn y Testament Newydd lle mae'r pwyslais ar yr hyn a ddigwyddodd i Iesu ei hun.
Bu farw llawer Cristion yn Albania felly, ond ni roddwyd ergyd farwol i'r gred fel y cyfryw.
Dro ar 么l tro, mae nerth y Crist byw wedi trechu, nid yn unig marwolaeth, ond hefyd siniciaeth ac anghrediniaeth. Neges yr Eglwys i'r holl fyd yw hyn: mae Crist yn fyw. O'i Berson y daeth y nerth a gynhaliodd y ffyddloniaid yn Albania ar hyd y blynyddoedd llwm. Mae'r un nerth ar gael i ni yn wyneb difaterwch y Gymru gyfoes hefyd.
Mae'n debyg y bydd rhywrai yn canu'r geiriau canlynol ar fore Sul y Pasg. Yng ngoleuni profiad Albania, onid allwn ni i gyd eu canu yn fwy angerddol fyth, eleni:-
Gwelir myrdd yn cilio ymaith
At allorau Duwiau gau;
Cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.
Y Parchedig Jeffrey Gainer
|