Mae pethe n么l i'r arfer - y cinio misol a'r teithiau trampan wedi dechrau.
Mynd i Aberhonddu oedd y daith gyntaf eleni - Michael o gwmni Jones Login wrth y llyw ar fore braidd yn gawedog a rhyw 45 o aelodau'n clebran yn ddi-ben-draw, yn naturiol, ac un neu ddau o wynebau newydd yn ein plith - croeso iddynt.
Galw yn Llanymddyfri ar y ffordd am goffi a chyrraedd Aberhonddu tua hanner dydd.
Cafwyd cipolwg ar y dref cyn anelu am yr harbwr a mynd mewn i'r cwch hir, pwrpasol.
Cafwyd taith hir o ryw ddwy awr a chwarter ar y gamlas gan ddisgyn a chodi trwy un lloc.
Os am awr neu ddwy o ymlacio, dyma'r ffordd o wneud hynny! Y gwanwyn yn ei anterth a lliwiau'r blodau yn arbennig. Ar un adeg, cyn dyfod yr hewlydd tar, roedd yna brysurdeb eithriadol ar y camlesi ond hamddena yw eu pwrpas erbyn heddiw, a diolch am hynny, neu fe fyddent wedi cau.
Diweddwyd y diwrnod drwy gael swper yn yr 'Hydd Gwyn' yn Llandeilo - dechrau hwylus iawn i'r tymor; ni fyddai'n bosibl heb y trefnwyr, Gordon ac Eira; hefyd Michael a gymerodd le Adrian, y gyrrwr, am y tro. Diolch yn fawr i bawb!
|